Gary Slaymaker: Twin Town a fi

  • Cyhoeddwyd
Twin Town clipFfynhonnell y llun, Moviestore/REX/Shutterstock

Mae'r ffilm gwlt, Twin Town, ar daith ledled Cymru ar hyn o bryd, i ddathlu 25 mlynedd ers iddi ymddangos gyntaf mewn sinemâu.

Yr adolygydd ffilmiau, Gary Slaymaker, sydd yn llywio'r noson yng Nghlwb y Bont, Pontypridd nos Wener 8 Mawrth, a fydd yn cynnwys dangosiad o'r ffilm a sgwrs gyda'r cyfarwyddwr, Kevin Allen.

Ynghyd â bod yn ffan, mae gan Gary gysylltiadau gwych a gwallgo' â Twin Town, a ddechreuodd cyn i'r ffilm gael ei greu hyd yn oed, eglura:

Disgrifiad o’r llun,

Gary Slaymaker - ffan enfawr o Twin Town

'Chwa o awyr iach'

O'dd hi'n chwa o awyr iach i weld ffilm Gymreig cyfoes, yn llawn hiwmor ac anarchiaeth, ynghanol yr holl ddramâu cyfnod am feirdd, glowyr, a chymunedau amaethyddol. Dwi'n ffan anferth o'r ffilm; mae'n un o'r darnau 'na alla i wylio bob wythnos, a dyfynnu bron pob linell ohoni.

Ma'n nghysylltiad personol i gyda'r ffilm yn mynd nôl i ddechrau'r 90au, pan gwrddes i Kevin [Allen] yn hen swyddfeydd Teledu Agenda yn Abertawe. Ro'dd e'n golygu ffilm ddogfen, a fydden i'n bwmpo mewn i'n gilydd yn rheolaidd yn y llecyn smygu, tu allan i'r stiwdios. Bydden ni'n rhoi'r byd yn ei le, ac yn trafod y prosiectau gwahanol o'dd yn cadw ni i fynd ar y pryd.

Un bore ro'dd Kev tu fâs i'r adeilad yng nghmni gŵr o'r enw Paul Durden. Ro'dd y ddau yn cael eu cyfarfod cynta i ddechrau rhoi siâp ar sgript ffilm newydd sbon o'r enw Twin Town. Ro'dd Paul yn swnllyd, cegog, yn berchen ar hiwmor tywyll, ac yn strab a hanner - do'dd dim rhyfedd bo' fi wedi cymryd ato fe'n syth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Allen a gyfarwyddodd Twin Town

Bach iawn o'r stori odd y ddau'n gallu rhannu, ond o'dd hi bendant yn waith fyddai'n defnyddio dinas Abertawe fel ei lleoliad.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, o'n i'n eistedd mewn sinema yng Nghaerdydd yn gwylio ffrwyth eu llafur, ac yn wan o chwerthin. Ers i fi weld Twin Town am y tro cynta', ma'r ffilm wedi gweu ei hun i fewn ac allan o'm mywyd i'n gyson.

Bryn, Lucy a Fatty

Pan yn gwneud y gyfres Slaymaker i S4C, fe wnethon ni eitem penodol am Twin Town. Mynd ar daith o gwmpas lleoliadau eiconig y ffilm cyn gorffen yn nhŷ'r actor Wil Thomas, i drafod y ffilm a'i rôl fel Bryn Cartwright, prif ddihiryn y stori.

Un o'r adegau 'na fydda i'n trysori am byth oedd perswado fe i ail-adrodd y tri gair [anweddus] wedodd e ar ôl i Fatty Lewis gwmpo oddi ar do y clwb rygbi. Fel arfer, 'wy'n syndod o broffesiynol ar gamera, ond odd hi'n amhosib cadw gwyneb syth gyda delivery Wil ar y linell 'na. Perffaith.

Disgrifiad,

Atgofion William Thomas am chwarae rhan Bryn Cartwright

Am flwyddyn a hanner, fe fues mewn perthynas gyda'r actores Sue Roderick ('nath whare Lucy, gwraig Bryn Cartwright), ac yn aml, pan fydden i allan o gwmpas Caerdydd a'r cyffiniau, bydde wastod rhywun yn dod draw i holi Sue am Twin Town.

Fel arfer, naill ai dynion canol oed mawr, moel, mewn cotiau lledr a tatŵs ar eu gyddfau a dwylo, neu bechgyn o'dd yn amlwg lawer rhy ifanc i fod wedi gwylio hon mewn sinema. Ond yr un oedd yr ymateb gan y ddau griw - swildod, hynod o boleit, a diléit pur o gael ysgwyd llaw neu dynnu llun gyda un o sêr ei hoff ffilm.

Ro'dd ymateb pobl i Huw Ceredig hyd yn oed yn fwy trawiadol. Fues i yng nghwmni Huw cwpwl o droeon mewn ciniawau mawr, a ro'dd 'na bron ciw hir o bobl yn ffurfio i gael ysgwyd llaw gyda Fatty Lewis ar y nosweithi hynny.

O sêr chwaraeon a theledu, i ddynion busnes cefnog - allen nhw ddim aros i rannu eu cariad at y ffilm a pherfformiad eiconig Mr Ceredig, ac ro'dd Huw wrth ei fodd yn cael rhannu hanesion am weithio ar Twin Town.

Ffilm 'epic'

Bellach, ma' Twin Town wedi hawlio ei lle ar y rhestr o'r ffilmiau Cymreig gorau - uwchben How Green Was My Valley, ac o bosib Zulu hefyd.

Llynedd, fe ryddhawyd hi ar ddisg Blu-ray am y tro cynta, ac os edrychwch chi ar gefn y ddisg fe welwch chi'r geiriau Commentary with Morgan Hopkins & Gary Slaymaker. Ges i a Morgan ddwy awr hynod o ddifyr yn cymharu nodiadau, hel atgofion, a defnyddio'r un fath o iaith lliwgar a glywyd ar y sgrin... (wel, bydde fe wedi bod yn anghwrtais i beidio).

Ffynhonnell y llun, Gary Slaymaker
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gary lawer o hwyl yn gwneud sylwebaeth ar y ffilm gyda Morgan Hopkins, un o'r actorion, ar gyfer y fersiwn Blu-ray

Y stori fwya' od sydd gen i am y cysylltiad Twin Town yw'r adeg o'n i yn Aberystwyth rai blynyddoedd nôl. Ro'dd 'na hanner dwsin o ni mas, ac wrth gerdded heibio sinema'r Commodore, dyma griw o fenwod ifanc yn rhuthro tuag ato ni, gyda arweinyddes y gang yn pwyntio ata i tra'n gweiddi, "Omigod, chi 'di o! Chi 'di o! Dudwch 'amblimans'. Dudwch o!"

Yn amlwg odd hi wedi'n nghamgymryd i am Chip, cymeriad Morgan Hopkins yn y ffilm. Heb feddwl ddwywaith wedes i, "'E come off the ladder. They took him down the 'ospital in the amblimans".

Wel, o'dd hi wrth ei bodd, a wedyn 'nath hi ofyn, "Newch chi seinio boob fi?"

Disgrifiad o’r llun,

Morgan a Gary - gwahanwyd yn y groth?

Nawr, 'wy wastod wedi gweud, ma' rhaid i chi edrych ar ôl y ffans, hyd yn oed os nad ffans chi yw nhw, felly fe gymres y felt pen nath hi gymryd o'i chot, a sgrifennu 'Morgan Hopkins' ar ei bron, gyda cusan fach ar y diwedd. A bant â hi yn gytûn ei byd.

Ond i fynd yn ôl at y bore 'na yn Abertawe, pan gwrddes i Paul Durden gynta; 'wy'n cofio gofyn, wrth i ni fynd nôl i'r swyddfeydd, "What kind of film is it then, Paul? Comedy? Thriller?" Fe droiodd ata i gyda gwên fawr ar ei wyneb a gweud, "It's gonna be a f**kin epic, Gar".

Ac odd e'n llygad ei le, ond o'dd e.

Hefyd o ddiddordeb: