Rhys Ifans: Locdown, hiliaeth a hiraeth am adre
- Cyhoeddwyd
Bu'r actor Rhys Ifans yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym am ei fywyd cyn ac yn ystod pandemig Covid-19 fel rhan o raglenni Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru 2.
Dyma flas o'r sgwrs a'i brofiad "syreal" o fod ar ei ben ei hun mewn dinas wag fel Llundain yn ystod y cyfnod clo, a'r "deffroad" a brofodd o'r herwydd.
O'n i ar ryw fath o hunan-locdown cyn y locdown swyddogol - dim am resymau iechyd ond o'n i ar fin dechrau ymarfer To Kill a Mockingbird yn Llundain ac, fel mae rhywun yn wneud cyn unrhyw fath o waith, yn enwedig drama, nes i wario o leia' pedair wythnos wedi fy nghloi yn y fflat ar lannau'r Thames.
O'n i'n mynd i fyw yn y fflat yma gyda golygfa hyfryd dros yr afon Thamas a'r National Theatre a'r Tate Gallery dros gyfnod o chwe mis tra mod i'n neud y ddrama. So o'n i mewn bybl uwchben y ddinas.
O'n i wedi trwytho'n hun yn gyfan gwbl mewn paratoi at y ddrama - o'n i'n gweithio ar yr acen Alabama ac yn darllen y ddrama. Nes i ddysgu y ddwy act gynta' so am bump i chwech awr y diwrnod doeddwn i ddim yn Llundain, o'n i mewn rhyw Alabama rhithiol.
Yr eironi oedd mod i wedi dechrau'r locdown 'ma wedi immersio mewn stori am hiliaeth yn America. A stori fwy na hynny am sut mae dyn gwyn dosbarth canol yn ymateb i'r hiliaeth yma er ei fod o ddegawdau yn ôl. So dyna lle oedd fy mhen i.
Wedyn ddoth y locdown. Mi oedd 'na ran ohona' i'n meddwl, mae hyn yn ddiddorol a'n ddramatig.
Yn sydyn o'n i nôl yn y byd go iawn. Roedd hi'n amlwg fod y pandemig yma yn ddifrifol, ei fod yn mynd i effeithio'r byd.
Hiraeth am adre
Dw i'n cofio'r noson gynta' - mewn sefyllfa fel yna mae rhywun yn dueddol o isho bod adre efo fy mam oedd hefyd yn byw ar ben ei hun. Dw i isho bod yn agos at fy nheulu a ffrindie - oedd 'na dynfa i fynd yn ôl i Gymru ond oedd hynna wrth gwrs yn amhosib.
Mae bod mewn dinas fawr fel Llundain pan mae rhywbeth cataclysmaidd fel hyn yn digwydd yn poeni rhywun. Mae rhywun wedi gweld y ffilmiau diwedd byd ond o edrych yn ôl mi oedd yn anrhydedd cael bod yn Llundain - i gael bod yn dyst i'r ddinas yma am y tro cynta' ers cannoedd o flynyddoedd, cael gweld y lle mewn hedd a thawelwch.
Hanes yn fyw
Mi oedd o'n ysgytwol, yn ddramatig ac yn instant fel wnaeth y locdown effeithio Llundain.
Dros nos nath y lle dawelu yn gyfan gwbl. Oedd rhywun yn teimlo wrth gerdded y strydoedd gwag mod i a hanes yn cerdded law yn llaw.
Yn sydyn iawn roedd hanes yn digwydd yn y presennol.
Mi oedd o'n brofiad monastig iawn. Mi wnes i'n siŵr fod gennai ddefod ddyddiol. Mi wnes i gychwyn rhedeg - dw i erioed wedi rhedeg os na 'mod i'n cael fy nhalu i wneud neu wedi torri'r gyfraith.
Am y tro cynta nes i actually gael y buzz 'na mae pawb sy'n rhedeg yn sôn amdano. Roedd hwnna'n deimlad bendigedig. Dw i dal i redeg - habit newydd wedi cychwyn a parhau.
O'n i'n bwyta'n iach iawn - o'n i'n meddwl mae rhaid fi wneud penderfyniad ai mynd lawr y llwybr Toblerone neu brocoli. Nes i ddewis y llwybr brocoli.
'Mynd a dod'
Mynd a dod mae bob dim, mi ddoth hwnna yn fantra personol i fi, oedd o'n dod â chysur mawr achos mae'n wir.
Does gynno ni ddim syniad beth mae'r dyfodol yn mynd i ddod, beth sy' o'n blaenau ni - ac mae 'na gysur i gymryd o hynna.
Bob dydd o'n i'n codi'n gynnar a cherdded y strydoedd. Rhai dyddiau o'n i'n gweld mwy o anifeiliaid na pobl. Ges i eistedd un bore ar fainc efo wiwerod yn chwarae efo gwaelod fy nhrowsus i, pelican ar un ochr a gwyddau yr ochr arall.
Oedd o'n dirwedd hollol syreal a breuddwydiol.
Dw i'n cofio cerdded am oriau a gwirioni fel plentyn ar bensaernïaeth Llundain, o bob canrif. A'r hotchpotch mawr o adeiladau wedi eu ailgodi ar ôl y Blitz.
Mi oedd o'n anhygoel ac yn weledigaeth, yn ddeffroad.
Mae rhywun yn cael y cyfnodau mewn bywyd o deimlo'n gyflawn, o deimlo'n un efo'r foment neu'r lle wyt ti yno fo.
Yn locdown mewn dinas oedd yn cysgu, 'oedd y teimladau 'ma'n para'n hirach.
Ar goll mewn miwsig
O'n i'n gwrando ar lot fawr o reggae - reggae yw fy nghapel i.
Mynd nôl at gerddoriaeth o'n i'n gwrando arno pan yn iau...lot o neidio rownd fy stafell fyw yn canu nerth fy mhen a dyfeisio dawnsfeydd.
Tra oedd hyn i gyd yn mynd ymlaen mi oedd 'na filoedd ar filoedd o bobl yn marw. Dyna be' wnaf i fynd efo fi o'r profiad oedd y deuoliaeth mawr yma oedd yn dorcalonnus gweld faint o bobl oedd yn dioddef.
Deffroad
Roedd yn mynd law yn llaw efo rhyw ddeffroad synhwyrol ges i.
Dw i'n meddwl fod hynny oherwydd mod i ar ben fy hun. Dw i'n deall yn iawn mod i wedi cael profiad elitaidd iawn o'r pandemig, gennai ddim teulu, gennai ddim gardd a dw i'n reit ddiolchgar fod gen i ddim gardd achos roedd yn gorfodi fi i fynd allan o'r tŷ.
Nes i gychwyn dilyn y pandemig ar y teledu. Roedd yn bwysig gwneud hynna i gychwyn jyst i wybod beth oedd y rheolau a beth oedd yn digwydd.
Nes i ddim colli neb yn uniongyrchol ond mae rhan fwyaf ohonom â'r profiad o golli rhywun ti'n garu. Beth oedd yn torri nghalon i oedd meddwl am bobl oedd yn methu bod efo'u anwyliaid tra oedden nhw'n marw ac ar ôl iddyn nhw farw. Fedrai ddim dychmygu y poen yna.
Gwerth cymuned
O'n i'n ffonio Mam ddwywaith y dydd ac o'n i'n torri mol isho gweld hi ond 'oedd Mam yn gweld can gwaith mwy o bobl na fi. Mae hi'n byw mewn stâd o dai yn Rhuthun ac mae ei chymdogion hi yn anhygoel. Mae hi wedi cael gofal arbennig. Mae rhywun yn cofio hynny yn bod yn Llundain, be' yw gwerth cymuned.
Nath hwnna neud fy locdown i lot haws yn gwybod hynny.
Mi oedd yn anodd ond roedd y mantra yna - mynd a dod mae bob dim.
Ges i un prynhawn - ti'n cael dyddia da a dyddia drwg - dw i ddim yn teimlo mewn unrhyw ffordd yn unique, dw i'n gwybod bod pawb wedi cael amser anghyffredin a fod profiad pawb yn ddilys - [ond] dw i'n cofio un diwrnod yn cerdded lawr y Thames a'r gwynt yn chwythu'n drwm ac o'n i wrth fy modd yn y gwynt yma. Nes i gerdded am chwech awr.
Nath o daro fi - mi oedd y gwynt yn fy nghyffwrdd i. Mi oedd o ar ei gryfa', mi oedd o'n rhyw fath o anwes.
Mi oedd o'n gusan.
Llofruddiaeth George Floyd
Mi wnaeth [marwolaeth George Floyd] fy ysgwyd i nôl i'r presennol mewn ffordd anhygoel. Nes i fynd ar y gorymdeithiau i gyd bron a bod yn Llundain - yn Hyde Park a Parliament Square a lawr tu allan i lysgenhadaeth America.
Es i o weld neb o gwbl i fod yng nghwmni miloedd o bobl oedd yn gandryll. Mi oedd rhywbeth hardd iawn o fod ar y protestiadau.
Yn sydyn iawn roedd rhaid mynd allan ar y stryd a chodi dy lais a bod yn rhan o'r newid yma.
Dw i'n gobeithio fydd yr ymateb i'r digwyddiad yma yn newid y ffordd ydyn ni yn ymdrin â hiliaeth yn ein cymdeithas ni ac yn newid ein hagweddau ni'n sylfaenol wrth symud ymlaen.