Lluniau: Cymeriadau Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Y ffotograffydd Carwyn Rhys Jones gyda'i bartner, Bethany, a'u babi bachFfynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y ffotograffydd Carwyn Rhys Jones gyda'i bartner, Bethany, a'u babi bach

Mae'r ffotograffydd Carwyn Rhys Jones o Landwrog yn teimlo bod ei ardal "yn llawn cymeriadau a bod gan bob person stori i'w ddweud".

Yn sgil hynny mae wedi mynd ati i gasglu straeon a lluniau o Gofis Dre; dynion sydd wedi byw yng Nghaernarfon erioed, yn dod o Gaernarfon neu wedi mynd yno i fyw.

"Mae'n ardal ni reit unigryw ac yn llawn cymeriadau a dwi'n teimlo dyletswydd i ddogfennu ein pobl a thrwy hynny, ein hanes," meddai Carwyn.

Dyma gip ar rai o'i gasgliad, Cymeriadau Caernarfon.

'Wil Bwtch'

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Wil Bwtch

Yn wreiddiol o Groeslon, 'Wil Bwtch' neu William Gwyn Owen yw perchennog cigydd O. G. Owen a'i fab ar Stryd Bangor. Ei dad ddechreuodd y busnes yn 1939, ac yn ôl Wil, "cymuned yn cefnogi busnes lleol" sy'n gyfrifol am lwyddiant y busnes. Hynny a chig da wrth gwrs!

Unrhyw ffaith ddifyr amdanat?

"Dwi yn massive petrol head ac yn lloerig am geir ralio."

Dy farn am y Cofis a Chaernarfon?

"'Sa neb gwell na Cofis, down to earth go iawn. Mae Dre yn golygu bob dim i fi. Cymuned gref, pobl caredig ac yn barod i helpu ei gilydd."

Owain Llŷr

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Owain Llŷr

Mae Owain Llŷr yn gyflwynydd radio ers bron i ugain mlynedd ac yn cyflwyno i Môn FM erbyn hyn. Er ei fod o'n byw yng Nghaernarfon ers blynyddoedd, daw o Dalsarnau ger Harlech yn wreiddiol.

Dy farn am y Cofis a Chaernarfon?

"Dwi wrth fy modd efo Cofis Dre. Maen nhw yn hollol ddiflewyn ar dafod ond yn garedig iawn. Mae'r gymuned hefyd yn tynnu at ei gilydd pob tro pan fo angen."

Fasa ti'n newid rhywbeth am y dre'?

"Fyswn i yn licio gweld mwy o gydweithio rhwng y cyngor a busnesau lleol. Heb y busnesau hynny, does ganddon ni ddim. Mae 'na lot o waith da yn cael ei wneud, ond mae 'na bob tro lle i wella. Mae angen rhoi cynllunia' mewn lle i ddenu mwy i'r stryd fawr, ella gostwng trethi i ddechrau."

Petaet ti'n faer ar Gaernarfon fory, beth fyddai'r peth cyntaf fyddet ti'n ei wneud?

"Os fyswn i yn faer Dre, fyswn i yn cael gwared o'r Parking Eye sydd yn gweithredu yn maes Parcio y Cei! Ges i ffein o £170 am eistedd yn y fan am 20 munud tra ar fy ffôn."

Dy hoff dafarn?

"Hoff pub yn dre ydi Castle. Gen i edmygedd mawr o Gwyndaf, Marlene a'r tîm am y gwaith anhygoel oeddan nhw yn 'neud dros gyfnod Covid, yn mynd o gwmpas yn mynd â bwyd i bawb, a hynny o'u pocedi eu hunain."

Arwyn 'Herald' Roberts

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Arwyn 'Herald'

Unrhyw ddigwyddiad, ymweliad neu stori yng Nghaernarfon a dydi Arwyn 'Herald' Roberts a'i gamera byth yn bell. Dechreuodd Arwyn dynnu lluniau i bapur newydd The Herald o'u swyddfa yng Nghaernarfon pan oedd o'n 16 mlwydd oed. Cafodd ei addysg yn Ysgol Rhosgadfan, Ysgol Segontiwm ac yna Ysgol Syr Hugh Owen.

Y lluniau rwyt ti wedi eu tynnu sydd ar flaen dy feddwl?

"Y rhei dwi'n gofio fwya' yw achos arestio Bryn Fôn y tu allan i orsaf heddlu Dolgellau. Cofio hefyd tynnu llunia' hogia lleol yn cwrt Caernarfon am losgi tai haf. Heb anghofio rali fawr Friction Dynamics yn y dre."

Camera cynta'?

"Camera cynta' i mi brynu fy hun oedd Olympus O1N o City Cameras, Caer."

Dy farn am y Cofis a Chaernarfon?

"Chei di neb gwell na chymuned Cofi Dre, pawb yn barod i helpu. Mae Cofis Dre a'i iath unigryw yn cael eu adnabod trwy Gymru. Mae Dre a'r Cofi yn bobl agos atoch chi, cerwch mewn i dafarn ar ben eich hun, a saff i chi, o fewn munud mi fydd 'na rywun yn siŵr o gael sgwrs hefo chi.

"Castall dre yn unigryw, gei di nunlla gwell."

Be' mae ffotograffiaeth yn ei olygu i chdi?

"Mae cyfnod o dynnu lluniau wedi bod yn un hanesyddol. Mae llun yn dweud mil o eiriau."

Kenny Khan

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Kenny Khan

Symudodd Kenny Khan i Gaernarfon yn 1953/4 pan oedd o'n fabi deunaw mis oed. Yn ystod ei blentyndod fe fu'n byw yn Wrecsam a Birmingham hefyd pan aeth i ofal. Ond yng Nghaernarfon mae calon Kenny a daeth yn ôl i fyw yma'n barhaol yn ddyn ifanc 21 mlwydd oed.

Disgrifia Cofi Dre mewn tri gair.

"Ffyni, balch, tyff."

Be fasat ti'n ei newid am y dre'?

"Y Maes."

Dy hoff dafarn?

"The Crown."

Petaet ti'n faer ar Gaernarfon fory, beth fyddai'r peth cyntaf fyddet ti'n ei wneud?

"Resign!"

Dy farn am y dre'?

"Dwi'n lyfio Caernarfon a'r Cofis."

Tyrone Duffy

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Tyrone Duffy

Un o Twthill, Caernarfon ydy Tyrone Duffy ac mae'n un o gefnogwyr brwd clwb pêl-droed Tre Caernarfon. Yn ôl yr aelod ffyddlon o'r Cofi Army, roedd Twthill yn "lle grêt i dyfu fyny," meddai.

Ers faint wyt ti wedi bod yn cefnogi Caernarfon Town?

"Dwi wedi bod yn cefnogi Dre ers dros 40 mlynedd erbyn hyn."

Unrhyw ffaith ddifyr amdanat?

"Dwi wedi dilyn Cymru home and away ers dechra' y 90au. Wedi bod yn America a China i wylio gemau. Ges i gyfle i fynd am fis i Ffrainc yn ystod yr Euros yn 2016 a phythefnos yn Qatar flwyddyn dwytha."

Oes gen ti stori dda am gefnogi clwb pêl-droed Tre Caernarfon?

"Gafon ni lwmp o hwyl yn dilyn Dre yn yr Alban flwyddyn dwytha, pan nath Dre chwarae Clyde FC yn y cwpan. 'Nath y Cofis gymryd drosodd Hamilton lle oedd y gêm."

Dy farn am y Cofis?

"Cofis ydy'r pobl gorau gei di. Does 'na neb fatha y Cofis."

Be' ti'n ei feddwl o Gaernarfon?

"Y lle gorau efo'r pobl gorau."

Unrhyw beth arall?

"Un peth ydi'r amser pryd ddisgynnodd wal yr Oval i lawr ar ôl y gôl swperb gan Darren Thomas yn erbyn TNS. Roedd TNS yn top y league amser yna, a ni yn y league o dan. Rhywbeth wna i fyth anghofio. Cofi Army!"

Malcolm Owen

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Malcolm Owen

Un arall o Twthill yw Malcolm Owen sy'n rhedeg Siop Twthill ers deugain o flynyddoedd.

Unrhyw beth wyt ti am ei rannu am dy fywyd personol?

"Nagoes. Gwaith a gwely a 'na fo."

Be' ydy dy farn am Gofis Dre?

"What you see is what you get."

Disgrifia Caernarfon.

"Hwyl, ac unwaith eto what you see is what you get."

Unrhyw beth arall?

"Cefnogwch fusnesau lleol."

Steven Lilly

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Steven Lilly

Rheolwr tafarn Y Goron yw Steven Lilly. Yn Gofi Dre, symudodd i Lanrug yn 2016 ond mae o'n dal yn gweithio yng Nghaernarfon i dorri syched y Cofis.

Dy atgof cyntaf o Gaernarfon?

"Tyfu i fyny ar stad lle oedd 'na gymuned agos, pawb yn 'nabod ei gilydd ac yn helpu ei gilydd."

Dy farn am y Cofis?

"Bob amser yn sticio at ei gilydd. Fel busnas 'dan ni'n trio cefnogi a rhoi yn ôl i'r gymuned. Shout out i'r Cofi Army sy'n dilyn eu tîm ymhobman. Top lads a locals da sy'n cefnogi busnesau bach fel The Crown."

Be' fasat ti'n ei newid am y dre'?

"Faswn i'n newid Y Maes i fel oedd o, dod â'r bysys yn ôl i le oeddan nhw a chael mwy o stondinau i'r farchnad. Mae gynnon ni un o'r cestyll enwoca' yn y byd felly pam na wnawn ni wneud mwy o ddefnydd ohono fo? Mwy o ddigwyddiadau yn y castall i ddod â mwy o bobl i dre."

Unrhyw beth arall?

"Flwyddyn yma mae'n 30 mlynadd ers i fi ddechrau gweithio yn y diwydiant pubs. Diolch i fy nghwsmeriaid i gyd a faswn i ddim yn landlord onibai am Dad a'i 'neud o'n prowd."

Hefyd o ddiddordeb: