Hoff le Iolo Penri: Dinas Dinlle

  • Cyhoeddwyd

Dinas Dinlle, un o draethau mwyaf poblogaidd ac adnabyddus Cymru, yw hoff lecyn y ffotograffydd Iolo Penri.

Ar ddechrau Wythnos Cariad ar Cymru Fyw, Iolo sy'n ein tywys am dro ar draeth Dinas Dinlle, gan ddogfennu ei gariad at y lle.

Ffynhonnell y llun, Claire Treliving

Pob tro bydd cyfle a dim ots be ydi'r tywydd, byddaf yn rhoi Mos fy nghi defaid sydd bron yn bedair oed yng nghefn y car ac anelu am draeth Dinas Dinlle.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Taith o thua saith milltir o Gaernarfon sy'n cymryd chwarter awr at un o lan moroedd gorau'r ardal. Dyma'r lle os am filltiroedd o draeth tywodlyd i gerdded pan fo'r llanw allan, a gyda'r opsiwn o ymlwybro trwy'r twyni ar adegau eraill.

Un o rinweddau mawr y traeth arbennig hwn ydi nad yw'r un diwrnod yr un fath yma a bod pob tro'n cynnig awyrgylch wahanol.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Ceir golygfeydd godidog tuag at fynyddoedd yr Eifl a Phen Llŷn, Sir Fôn ac Ynys Llanddwyn ac i'r cyfeiriad arall mae'n bosib gweld mynyddoedd Eryri a chrib Nantlle hyd at Nebo.

Beth sy'n braf hefyd ydi fod pen pella'r traeth wedi ei neilltuo i gerddwyr yn bennaf gyda'r caffis a'r siopau tymhorol ar yr ochr arall.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

O gerdded ddigon pell mae'n bosib cyrraedd ceg Afon Menai lle mae'r bwlch rhwng Arfon a Môn yn ddim ond 35 medr.

Yma hefyd mae Fort Belan gafodd ei hadeiladu yn 1775 gan yr Arglwydd Niwbwrch i amddiffyn yr arfordir rhag bygythiad posib yn sgil y Rhyfel Cartref yn America.

Nid yw'n syndod na chafodd y gaer erioed ei defnyddio mewn brwydr.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Lle delfrydol felly i gael llonydd ac yn denu pysgotwyr, nofwyr gwyllt, syrffwyr yn ogystal â cherddwyr.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae'n lleoliad hanesyddol a cheir bryngaer o Oes yr Haearn yma. Wrth gwrs, yma hefyd roedd cartref Lleu Llaw Gyffes yn y Mabinogi.

Rwyf wedi defnyddio'r lle ar gyfer sawl ffotoshŵt gwahanol ar hyd y blynyddoedd ac yn sicr byddaf yn parhau i wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Yn syml felly mae'r lle yn ysbrydoliaeth gyson i mi a bod allan yn yr elfennau cyfnewidiol yn llesol iawn i iechyd corfforol a meddyliol rhywun.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Braf yw gorffen yng nghaffi'r maes awyr bychan oedd yn arfer bod yn ganolfan i'r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond sydd bellach yn cynnig teithiau pleser ac yn ganolfan i Ambiwlans Awyr Cymru.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri