Sefydlu grŵp cymorth i fenywod ar ôl diagnosis awtistiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae diagnosis o awtistiaeth yn gallu digwydd pan mae rhywun yn blentyn neu'n oedolyn, ac nid pawb sy'n cael yr un symptomau.
Un person a gafodd y diagnosis fel oedolyn yw Vicky Glanville, a rannodd ei phrofiadau ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.
"Dechreues i gwestiynu'r ffaith rhai blynyddoedd yn ôl, ar ôl dod i nabod teulu oedd â dau o blant oedd yn awtistig," meddai. "Yn dilyn hynny o'n i'n gweld lot o bethau eitha' tebyg yn y ffordd o'n i'n ymddwyn ac yn ei ddweud a pethau fel 'ny.
"Dechreuais i wneud ymchwil fy hunain, a 'nes i weld rhaglen Christine McGuinness a Paddy McGuinness, achos mae gyda nhw blant sy'n awtistig, ac yn dilyn hwnna 'nath Christine McGuinness gael diagnosis. 'Nath hwnna'n ysbrydoli i i fynd i weld y meddyg, ac o fan 'na wedyn 'nes i ddechrau'r broses o lenwi ffurflenni a phethau felly, a ges i ddiagnosis yn Chwefror y llynedd."
Beth oedd yr arwyddion?
"Dwi'n ddu a gwyn iawn, dwi'n eitha' onest, a weithiau ddim yn meddwl am beth sy'n dod ar ôl hynny. Dwi hefyd yn gweld pethau cymdeithasol yn anodd iawn, gorfeddwl lot - roedd lot o bethau yn dod fewn iddo fe rili.
"Dwi'n ymwybodol fod e'n broses hir iawn - o'n i'n eitha' lwcus o gael diagnosis o fewn blwyddyn. 'Nes i fynd at y meddyg yn gynta' a ges i gadarnhad o fewn cwpl wythnosau mod i ar y rhestr aros.
"Yn dilyn hwnna 'nes i gysylltu â'r Intergrated Austism Service, sy'n grŵp sydd yna i gynnig bach o gymorth os y'ch chi ar y rhestr aros, ac oedden nhw'n rhywun alla i fynd at i ofyn unrhyw gwestiynau.
"'Nes i ddechrau cwestiynu sut o'n i'n dod i ben â'n swydd i, a 'nes i sylweddoli bod 'na bethau o'n i'n falle'n ei weld yn fwy heriol na beth oedd pobl eraill yn gweld, a dechreuais i gwestiynu'r ffaith a oedd fy swydd yn iawn i fi, ac yn y blaen. Ar ôl y sgwrs yna gyda nhw nathon nhw bwsio fi lan y rhestr, felly o'n i yn lwcus, ond gyda hwnna daeth lot o euogrwydd achos o'n i'n ymwybodol bod lot o bobl yn aros lot yn hirach.
"Ges i gwpl o ffurflenni i'w llenwi, ac oedden nhw'n eitha' swmpus. Es i am sesiwn ble roedden nhw'n fy asesu i, ac 'nathon nhw ofyn y cwestiwn sut dwi'n brwsio'n nannedd.
"I berson sydd falle'n niwrodebygol bydden nhw'n dweud eu bod yn codi'r brwsh, rhoi past arno a brwsio'i dannedd. Ond 'nes i ateb gyda rhestr o rhyw 15 i 20 o gamau yn rhan o hwnna, ac yn ôl y sôn oedd hwnna'n un pwynt oedd falle'n amlwg bod fi yn awtistig."

Y grŵp ar Facebook y mae Vicky wedi creu
Cafodd adolygiad ei gyhoeddi yn ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â chyflogaeth awtistiaeth, a oedd yn dweud mai ond tri o bob 10 person sy'n byw ag awtistiaeth sydd mewn cyflogaeth. Mae Vicky'n cynnig rheswm dros yr ystadegyn yma.
"Dwi wastad wedi bod digon ffodus i gael swyddi ers o'n i'n ifanc," meddai. "Ond dwi'n meddwl gyda merched falle bod nhw'n dda iawn am guddio'i symptomau a'i traits bach nhw, ac mae hynny'n rhan o'r broblem mewn ffordd achos dy'n nhw ddim yn cael eu gweld fel bod rhywbeth ddim cweit yr un peth falle.
"Ond sai'n synnu rili bod gymaint o bobl mas o waith, a dwi'n meddwl mai rhan o'r broblem hynny yw'r stereotype sydd o awtisiaeth yn benodol.
"Mae angen codi ymwybyddiaeth o'r pethau positif sy'n dod gyda label fel awtistiaeth neu ADHD, achos mae 'na bethau positif. Os yw rhywun mewn swydd ma' nhw'n ei fwynhau, un o'r pethau ni'n gallu ei wneud yw hyperfocus os yw hwnna'n rywbeth sy'n dda mewn swydd yn amlwg, achos chi'n mynd i ffocysu'n dda ar y topic neu beth bynnag a chi am ddod mas o fe'n gadarn iawn ac yn gryf am be' chi'n trio'i ddatrys."
Grŵp Facebook
Yn dilyn ei diagnosis mae Vicky wedi dechrau grŵp arbennig ar Facebook sy'n ymdrin ag awstisiaeth.
"Enw'r grŵp yw Merched Awtistig Cymraeg. Mae'n grwp i ferched sydd wedi cael diagnosis, yn y broses o gael diagnosis, neu hyd yn oed wedi gwneud hunan-ddiagnosis hefyd, achos mae hynny yr un mor bwysig.
"Mae fe'n le i bobl i ddod i ffeindio pobl yr un peth a nhw, rhywle saff fel bo' nhw'n gallu rhannu profiadau a gofyn am gymorth, rhannu hyfforddiant - rhywle ni'n gallu ffeindio ein pobl ni fel petai."
Hefyd o ddiddordeb: