Cwpan y Byd (nid llwy bren) i rygbi cyffwrdd Cymru
- Cyhoeddwyd
Tra bod rhai o chwaraewyr rygbi Cymru yn paratoi i gystadlu am lwy bren pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae eraill gyda'u llygaid ar Gwpan y Byd fis Gorffennaf - ond mewn rygbi cyffwrdd.
Mae'r gamp, sy'n gymharol newydd o'i gymharu efo rygbi'r undeb, wedi bod yn tyfu mewn poblogrwydd yn ddiweddar.
Capten tîm cymysg Cymru ydi Steffan Prytherch, aeth i Gwpan y Byd ym Malaysia yn 2019, a fo fydd yn arwain ei wlad yn y gystadleuaeth yn Nottingham eleni.
Roedd o'n rhan o dîm Cymru enillodd pencampwriaeth Ewrop yn 2022 a 2023 ac mae'n hyfforddi tîm cymysg dan 18 Cymru enillodd yr Atlantic Youth Cup 2023.
Twf y gêm
"Ma'r gêm wedi bod o gwmpas yng Nghymru ers rhyw 20 mlynedd ond ma' fe wedi tyfu mewn poblogrwydd yn y 10-15 mlynedd ddiwetha'," eglurodd Steffan.
"Yn 2014 oedd y gystadleuaeth pencampwriaeth ieuenctid Ewrop gynta' ac roedd pedwar gwlad yn cymryd rhan. Yn yr Atlantic Youth Cup blwyddyn diwetha' roedd 32 tîm gwahanol o 10 gwahanol wlad, ar draws chwe categori."
Dechreuodd Steffan, sy'n astudio ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd, chwarae rygbi'r undeb pan oedd o tua chwech oed. Fe gafodd ei gyflwyno i rygbi cyffwrdd yn yr ysgol uwchradd gan ei athro addysg gorfforol oedd yn cynrychioli Cymru yn y tîm dros 40.
"Ro'n i jest yn ffodus i gael athro oedd yn gwybod am y gêm," meddai. "Wedyn roedd tîm cymysg yng Nghaerdydd, a nes i ymuno efo nhw - felly trwy lwc a chyfarfod efo'r bobl iawn ydw i wedi dod i'r gêm."
Dechreuodd rygbi cyffwrdd yn Awstralia yn yr 1960au ac erbyn hyn mae'n boblogaidd iawn yno ac yn Seland Newydd.
Mae'n debyg i rygbi'r gynghrair gan fod yn rhaid stopio a rowlio'r bêl yn ôl rhwng y coesau i aelodau eraill o'r tîm ar ôl tacl - sef cael eich cyffwrdd yn hytrach na thacl llawn.
Llai o anafiadau
Yn ôl Steffan, rhan o'r apêl ydi mwynhau elfennau o rygbi undeb fel rhedeg, ffitrwydd, sgiliau trafod a thactegau, ond heb gymaint o risg o anafiadau.
"Sport yw e felly mae elfen o contact, felly chi yn gallu cael cwpwl o anafiadau ond mae cael anafiadau drwg yn freak injuries, ond maen nhw'n bethau mae rhywun yn gweld yn aml iawn mewn rygbi undeb fel anaf i'r ysgwydd neu anaf i'r pen.
"Ma' hynny'n denu lot o bobl sydd naill ai ddim yn mwynhau'r elfen contact o rygbi'r undeb neu wedi chwarae lot o rygbi ond yn chwilio am rywbeth llai demanding ar y corff."
Un sy'n deall hyn yn iawn ydi un o gyd-chwaraewyr Steffan yn nhîm Prifysgol Caerdydd ac sy'n astudio meddygaeth.
Dechreuodd Dan Thomas chwarae rygbi undeb yn yr ysgol gynradd cyn rhoi'r gorau iddi yn ei arddegau:
"Dwi'n eitha' tenau a do'n i methu cystadlu efo'r bois mawr, mawr yma oedd yn mynd i'r gym bob yn ail ddydd, a do'n i methu tyfu ar yr un raddfa.
"Ches i ddim anaf rhy ddifrifol, diolch byth, ond weithiau faswn i'n brifo pan oedd rhywun yn hedfan mewn i'r ruck, a nhw dwy neu dair gwaith yn fwy na fi.
"Wnaeth dipyn o ni roi'r gorau'r un pryd pan oedden ni'n cyrraedd 14, 15, 16 oed achos roedden ni'n anafu bob yn ail gêm, doedd e ddim yn hwyl.
"Chi'n clywed am chwaraewyr fel Ryan Jones sydd wedi cael diagnosis dementia cynnar, yn ei 40au, ac mae hynny'n drist ac yn frawychus. Bydde hynny'n chwarae ar fy meddwl os fydden i'n chwarae rygbi undeb."
Croeso i bawb
Mae Dan, sy'n llywydd Clwb Rygbi Cyffwrdd Prifysgol Caerdydd, yn dweud ei fod yn hoff o'r elfen gynhwysol o rygbi cyffwrdd hefyd - gyda thimau cymysg.
"Ma' fe'n inclusive iawn gyda bois a merched yn yr un gêm, ac efo pobl traws ma' nhw'n cael bod yn beth bynnag maen nhw'n uniaethu gyda - sy'n wych."
Ac er ei fod ond wedi bod yn chwarae ers tair blynedd mae o eisoes wedi gweld digon o dystiolaeth bod diddordeb cynyddol yn y gamp, yn cynnwys 71 aelod yng nghlwb y brifysgol - sy'n fwy nag erioed.
Bydd pencampwriaeth prifysgolion Prydain yn cael ei gynnal rhwng 24 Chwefror a 23 Mawrth, a'r niferoedd yn brawf bod hi'n gamp sy'n tyfu, meddai:
"Ers i fi ddechrau ma' fe wedi mynd o fod yn reit fach efo 15-20 tîm yn cymryd rhan i nawr, lle mae disgwyl tua 40 tîm a 500 chwaraewyr i droi lan."
RADIO CYMRU - Y Frwydr Fawr: Cymru a Streic y Glowyr
RADIO CYMRU 2 - Dewis: Tara Bandito
PODLEDIAD - Esgusodwch Fi: Y cyfarwyddwr Euros Lyn