Arestio gyrrwr ar ôl i seiclwr farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
B4306Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng menyw ar feic a char Seat Ibiza coch ar y B4306 rhwng Hendy a Llan-non

Mae gyrrwr wedi cael ei arestio ar ôl i seiclwr 31 oed farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng menyw ar feic a char Seat Ibiza coch ar y B4306 rhwng Hendy a Llan-non tua 14:00.

Dywedodd y llu fod y fenyw 31 oed wedi cael ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Mae'r dyn oedd yn gyrru'r car wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sydd â lluniau CCTV, dashcam neu o gloch y drws, o'r car cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig