'Brwdfrydedd' dramâu ffermwyr ifanc yn cynnig gobaith
- Cyhoeddwyd
Mae un o fudiadau amaethyddol amlycaf Cymru yn "cryfhau" cefn gwlad, ac fe allai chwarae rhan bwysig i helpu gwyliau drama llawr gwlad ddod trwy gyfnod heriol.
Daeth cadarnhad fis diwethaf bod Gŵyl Ddrama Corwen yn dod i ben yn sgil trafferth denu "gwaed newydd ifanc" i'r pwyllgor a "dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal".
Ond wrth i aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru gystadlu yng Ngwledd Adloniant flynyddol y mudiad dros y penwythnos, un testun trafod oedd manteision posib wrth i rai clybiau ystyried llwyfannu eu dramâu mewn gwyliau drama ar draws y wlad ar ôl y gystadleuaeth.
Dywedodd prif weithredwr y mudiad bod gwaith aelodau yn "bwysig o ran ein diwylliant ni yma yng Nghymru a'r iaith Gymraeg".
Fe gafodd cystadleuaeth eleni ei chynnal yn Aberhonddu, gyda pherfformiadau o ddramâu Cymraeg ar y dydd Sadwrn a rhai Saesneg ar y dydd Sul.
Unwaith bob tair blynedd y mae'r ddrama yn ganolbwynt i'r Wledd Adloniant, gyda phantomeim a hanner awr o adloniant yn cael sylw yn eu tro hefyd.
Mae'n cael ei ddisgrifio gan CFfI Cymru fel cyfle "unigryw" i ddarpar actorion "berfformio ar lwyfan broffesiynol gyda chyfleusterau newydd a chymorth rheolwyr llwyfan profiadol".
"Mae'r ffermwyr ifanc yn blatfform pwysig ar gyfer perfformio dramâu," dywedodd un o'r cystadleuwyr, Alaw Jones o CFfI Felinfach wrth siarad â rhaglen Post Prynhawn.
"Ni'n ffodus o gael Theatr Felinfach ar stepen ein drws ni. Ni'n cael cynyrchiadau proffesiynol yn dod mewn, ond fi'n credu bod angen mwy o ddramâu ar lawr gwlad.
"Siomedig", meddai, yw clywed fod gwyliau drama'n wynebu heriau wrth ddenu dramâu i berfformio ynddyn nhw.
"Bydde fe'n rhywbeth efallai i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol," fe awgrymodd.
"Os nag y'n ni bobl ifanc yn ei wneud e, dyw'r traddodiad ddim yn mynd i barhau.
"Ni bobl ifanc yw'r dyfodol, ac mae pobl wastad yn meddwl fod y traddodiad yn marw allan, ond mae'r penwythnos hyn yn dangos bod dramâu ar draws Cymru yn parhau i ddangos brwdfrydedd o fewn mudiad y ffermwyr ifanc."
Un arall a fu'n perfformio dros y penwythnos oedd Teleri Wilson o CFfI Abergwaun.
"Ni wedi cael llwyth o sbort yn perfformio'r ddrama. Yn Sir Benfro, roedd pob clwb yn y sir wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni.
"Mae lot o aelodau ifanc gan glybiau ar draws Cymru. Mae cystadlaethau fel hyn yn bwysig i fagu hyder aelodau ac i roi siawns iddyn nhw fod ar lwyfan o flaen cynulleidfa."
Dywedodd Prif Weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones, bod perfformiadau ffermwyr ifanc yn chwarae rhan mewn "cryfhau" cymunedau gwledig.
Wrth ymateb i'r ffaith fod gwyliau drama ar draws Cymru yn cael trafferth denu pobl i berfformio dramâu, dywedodd: "Mae clybiau wedi bod yn perfformio ar lefel sirol, ond hefyd yn mynd allan i berfformio a chefnogi neuaddau lleol, gyda'r gymuned gyfan yn dod i gefnogi.
"Mae'n bwysig o ran ein diwylliant ni yma yng Nghymru a'r iaith Gymraeg wrth gael pobl at ei gilydd, yn enwedig pobl ifanc sy'n byw yng nghefn gwlad, ma' fe mor bwysig ein bod ni'n cael cystadlaethau fel hyn, mae'n lot o waith caled... ond fi'n siŵr fod o gyd werth e, ac yn cryfhau ni fel cymunedau gwledig wrth gadw'r diwylliant yn fyw."
Ychwanegodd ei bod hi'n "braf gweld wyth sir yn cystadlu" yn adran dramâu Cymraeg y gystadleuaeth yn Theatr Brycheiniog dros y penwythnos.
"Mae'n dipyn o waith paratoi, ond mae mor bwysig cael cystadlaethau drama fel hyn i ddatblygu sgiliau pobl ifanc, rhoi hyder a phrofiad iddyn nhw," dywedodd.
"Mae gennym ni fwy o siroedd yn cystadlu eleni nag erioed o'r blaen, felly mae hynny'n beth positif tu hwnt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023