Caernarfon: Prynu adeilad 'blêr' i daclo digartrefedd
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Gwynedd yn bwrw 'mlaen gyda chynllun i brynu ac addasu cyn-swyddfeydd Llywodraeth Cymru i ddarparu 46 o unedau i bobl ddigartref.
Mae Swyddfeydd y Goron ym Mhenrallt, Caernarfon wedi bod yn wag ers 2018 wedi i Lywodraeth Cymru symud i swyddfeydd wedi eu rhentu yn ardal Doc Fictoria'r dref.
Ond ar ôl cytuno i brynu'r adeilad pum llawr gan Lywodraeth Cymru, bwriad y cyngor yw gwario rhwng £12-14m ar y cynllun.
Nid yw'r gost o brynu'r adeilad wedi ei ddatgelu, ond dywed y cyngor bydd peth o'r arian sy'n cael ei gasglu o'r premiwm ar ail gartrefi yn cael ei ddefnyddio.
Yn ôl adroddiad i gabinet y cyngor mae swyddogion yn hyderus y bydd modd sicrhau gweddill y cyllid sydd ei angen o ffynhonellau allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
'Yr angen am gartrefi wedi bod ar gynnydd'
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud fod 885 o bobl wedi cyflwyno'n ddigartref yn y sir ers Ebrill 2023, ac mae bron i 250 o aelwydydd yn byw mewn llety argyfwng anaddas fel gwestai neu lety gwely a brecwast.
Ychwanegodd y cyngor bod llety argyfwng yn gallu "gosod baich ariannol sylweddol" ar awdurdodau, a byddai'r pryniant yn cyfrannu at y nod o ddarparu mwy o gartrefi o safon i bobl leol.
Mae ystadegau'r awdurdod yn dangos fod 63% o drigolion Gwynedd wedi eu prisio allan o'r farchnad dai ac mae'r cyngor eisoes yn gwario tua £6m y flwyddyn ar daclo digartrefedd.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, sy'n dal portffolio tai y cyngor, bod digartrefedd wedi gwaethygu ers cyfnod Covid ond bod y galw "wedi bod ar gynnydd ers blynnyddoedd".
Yn adrodd i gyfarfod o'r cabinet brynhawn Mawrth, ychwanegodd bod swyddogion wedi ymweld â Chaerefrog lle mae cynllun tebyg wedi ei weithredu i brynu adeilad o'r fath i leddfu digartrefedd yno.
"Mae'n rhaid i ni gydnabod impact dynol y ffigyrau hyn - yn enwedig ar les meddyliol a chorfforol y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau," meddai'r Cynghorydd ab Iago.
"Nid mater lleol yn unig yw hwn, mae'n duedd genedlaethol ac mae'r cyngor wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb yng Ngwynedd yn cael ei adael heb do uwch eu pennau."
Gan ddisgrifio prynu'r adeilad fel "cam hynod o bositif ymlaen", ychwanegodd mai "ond un darn o'r jig-so yw'r datblygiad yma".
"Bydd y safle yn cynnig cartref i'r rheiny sydd mewn angen o dai, tra bydd y cyngor yno i gynnig cefnogaeth.
"Ar ben hynny, bydd y datblygiad hwn yn darparu llety o ansawdd uchel i helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau tai Cyngor Gwynedd."
'Mae'n flêr ac yn dirywio'
Dywed yr adroddiad cabinet bod swm o £6m wedi ei ddynodi o'r premiwm ail gartrefi tuag at gostau'r datblygiad, gyda swyddogion hefyd "yn rhagweld" bydd £6m arall ar gael gan Lywodraeth Cymru.
"Er nad yw'r holl ffynonellau ariannu wedi eu sicrhau, mae trafodaethau cadarnhaol yn parhau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cyfarch y bwlch ariannol fydd ei angen er mwyn gwireddu'r datblygiad."
Bydd hefyd angen sicrhau caniatad cynllunio cyn gallu dechrau ar unrhyw waith.
Gyda disgwyl i'r cynllun ddarparu "buddion economaidd a chymdeithasol cysylltiedig", bydd 'hwb gwasanaethau tai' hefyd yn cael ei ddarparu ar lawr gwaelod yr adeilad.
Clywodd aelodau bod yr adeilad yng Nghaernarfon mewn "cyflwr da" gydag ond "mân ddiffygion".
Dywedodd un o gynghorwyr sirol Caernarfon, Ioan Thomas, ei fod yn "croesawu'r cynllun" ond fod hefyd angen "rheoli'r risg" fod y cynllun ddim yn mynd i or-wario.
Ychwanegodd: "Rwyf wedi bod yn poeni am y safle - mae'n flêr ac yn dirywio ac mae'n achosi problemau i bobl sy'n byw yn yr ardal oherwydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol a phroblemau efo'r system larwm.
"Felly mae gweld cynllun fel hwn yn newyddion da i mi a thrigolion yr ardal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020