Gwynedd: 'Cynnydd aruthrol' mewn lefelau digartrefedd

  • Cyhoeddwyd
GwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i un ym mhob 10 o dai yng Ngwynedd yn ail gartrefi

Mae un o gynghorau'r gogledd yn delio gyda 652 achos o ddigartrefedd, yn sgil cynnydd "aruthrol" dros y blynyddoedd diwethaf.

Yr wythnos hon clywodd cabinet Cyngor Gwynedd fod rhywun newydd yn cyflwyno'i hunain fel digartref "pob awr a hanner".

Dywedodd deilydd portffolio tai'r awdurdod fod 36 o blant mewn llety gwely a brecwast, a 62 o blant mewn tai dros dro.

Datgelodd hefyd fod 6,997 o blant Gwynedd bellach yn cael eu hystyried yn "byw mewn tlodi" - sef tua 34.4% o'r boblogaeth o bobl ifanc.

Yn ogystal roedd 3,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, ac yn 2020 roedd 65% o drigolion Gwynedd yn methu fforddio prynu cartref yn y sir.

'Wyth gwaith y cyflog blynyddol'

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago hefyd fod dros 40% o stoc dai'r sir oedd ar y farchnad yn 2019 wedi mynd i brynwyr ail gartrefi, a bod tua 15% o'r stoc tai yn cael ei "ddefnyddio fel tyllau bollt neu eiddo buddsoddi, yn hytrach na chartrefi".

Ddydd Mawrth fe wnaeth y cabinet gymeradwyo cynllun fyddai'n gwneud hi'n orfodol i gael caniatâd cynllunio cyn troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.

Roedd pris tŷ cyfartalog yng Ngwynedd bellach yn £244,000, ond gyda chyflogau cyfartalog o £30,000, roedd tŷ bellach wyth gwaith y cyflog blynyddol, gan adael morgeisi a chartrefi yn anfforddiadwy i lawer.

Y rhent cyfartalog oedd rhwng £700 ac £800, "os yn wir gallwch hyd yn oed ddod o hyd i eiddo i'w rentu", ychwanegodd Mr ab Iago.

Disgrifiad o’r llun,

Craig ab Iago sy'n dal portffolio tai Cyngor Gwynedd

Disgrifiodd y cynghorydd hefyd lu o "ymdrechion cadarnhaol" a oedd ar y gweill fell rhan o gynllun gweithredu tai y cyngor.

Roedd cynllun tai gwag wedi gweld 104 o dai gwag yn dod yn ôl i ddefnydd, o ganlyniad i gymorth grantiau tai gwag i brynwyr tro cyntaf.

Ers lansio'r cynllun, mae 173 o dai cymdeithasol hefyd wedi eu hadeiladu ar draws Gwynedd, gydag 88 arall wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Ond yn sgil "cynnydd sylweddol" mewn costau adeiladu, clywodd y cabinet fod angen arallgyfeirio mwy o'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi i wireddu elfennau o'r strategaeth.

Ers fis Ebrill mae perchnogion ail gartrefi yn y sir yn talu premiwm treth cyngor o 150%, gyda'r bwriad ers y cychwyn o'i ddefnyddio i helpu lleddfu trafferthion tai y sir.

Byddai Cyngor Gwynedd felly wedi gallu cynyddi'r premiwm i 300%, ond penderfyniad y cyngor y llynedd oedd nad oedd cyfiawnhad i wneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Ni all 92% o'r boblogaeth yn Abersoch fforddio prynu cartref yn yr ardal, yn ôl adroddiad o 2020

Nodwyd yn yr adroddiad: "Ers i'r Cynllun Gweithredu Tai gael ei lansio'n wreiddiol yn Ebrill 2021, mae chwyddiant sylweddol wedi'i weld yng nghostau adeiladu a chostau llafur a deunyddiau (megis coed, dur, sment ac ati), yn sgil amgylchiadau cenedlaethol tu hwnt i'n rheolaeth ni yng Ngwynedd.

"Ar gyfartaledd, mae costau adeiladu wedi cynyddu oddeutu 30%, a gwelir hynny wrth i'r Adran dendro am gontractwyr i gyflawni prosiectau a phob cynllun adeiladu mewn meysydd eraill hefyd.

"Er bod y farchnad wedi sefydlogi ychydig yn ddiweddar, mae costau'n dal yn sylweddol uwch na phan roddwyd y Cynllun Gweithredu Tai at ei gilydd yn wreiddiol."

Pynciau cysylltiedig