Pêl-droed merched: Cwpan ysgolion yn brofiad 'emosiynol'
- Cyhoeddwyd
Cafodd rownd derfynol cwpan merched ysgolion Cymru dan 18 ei chynnal am y tro cyntaf ddydd Mawrth.
Timau Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Glan Clwyd oedd yn wynebu ei gilydd ym mharc Penydarren ym Merthyr Tudful.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd capten tîm ysgol Bro Myrddin y bydd y diwrnod yn "emosiynol" a'i bod yn "gobeithio y gallwn ni wneud yr ysgol yn browd".
Gyda'r gystadleuaeth yn newydd eleni, dywedodd un o'r tîm fod y datblygiad i ferched o fewn y gamp wedi bod yn "anhygoel".
Ysgol Glan Clwyd aeth â hi yn y pen draw, a hynny o 6-3.
'Cystadlu wedi bod yn frwd'
Er bod cwpan ysgolion merched wedi bodoli ar gyfer grwpiau eraill fel dan 15, dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal i'r rheiny dan 18.
Mae dros 30 o ysgolion ar draws Cymru wedi manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni, sy'n "profi dyle'r gystadleuaeth wedi bod 'ma ers sbel," yn ôl Gwenllian Llwyd Jones, capten tîm Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
A hithau wedi bod yn rhan o dîm Bro Myrddin a enillodd y gwpan dan 15, dywedodd Gwenllian fod "llwyth o ysgolion wedi cystadlu ac mae'r cystadlu wedi bod yn frwd".
Fe ychwanegodd hi ei bod hi'n "ddiwrnod mawr" i'r ysgol gan mai "un o ferched Bro Myrddin nath hala'r llythyr i drio cael y gystadleuaeth" yn y lle cyntaf.
Aeth ymlaen i ddweud y bydd hi'n "ddiwrnod emosiynol a ni gyd yn gobeithio gallwn ni wneud yr ysgol yn browd".
Mae Gwenllian yn chwarae i glwb Aberystwyth a dywedodd bod aelodau eraill yn chwarae i dîm dan 18 Abertawe a chlybiau lleol yn ardal Caerfyrddin.
Datblygiad 'anhygoel' o fewn pêl-droed merched
Fe ddisgrifiodd Llio Davies o dîm Ysgol Glan Clwyd y datblygiad o fewn y gamp i ferched yn un "anhygoel, ond dwi'n siŵr fydd 'na ddatblygiad pellach".
"Mae'r cyfleoedd 'ma werth lot i ni fel merched... mae'n ffordd o ddangos ein gallu ni fel merched a beth sydd gyda ni i ddangos.
"Mae 'na ddigon o gyfleoedd a digon o bobl yn cefnogi ni fel merched hefyd".
Ychwanegodd Llio fod y criw yn "edrych ymlaen a fydd o'n ddiwrnod mawr".
Er mai tîm yr ysgol oedd yn cystadlu heddiw, dywedodd Llio fod nifer yn chwarae mewn timau eraill.
"Mae 'na griw yn chwarae i dîm pêl-droed Henllan, dwi'n chwarae i Rhyl ac mae 'na ambell un yn chwarae i Gymru, ond ma' pawb wedi bod yn chwarae yn rheolaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2024