Cymru Football: 'Pêl-droed llawr gwlad wedi elwa' o lwyddiant ap

  • Cyhoeddwyd
Yr app
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ap Cymru Football wedi ei lawrlwytho 285,627 o weithiau ers ei lansiad ym Medi 2020

Mae llwyddiant ap newydd wedi cynyddu diddordeb ym mhêl-droed llawr gwlad a gwneud bywyd yn haws i'r gwirfoddolwyr sy'n gweinyddu'r gêm.

Dyna farn rhai o'r trefnwyr wedi ymdrech i drawsnewid llawer o'r gwaith papur i fod yn ddigidol.

Wedi ei lansio yn 2020, mae'r ap Cymru Football yn cymryd y data sy'n cael ei gofnodi gan glybiau, dyfarnwyr a rheolwyr ac yn ei wneud ar gael i'r cyhoedd.

Oherwydd hyn, am y tro cyntaf erioed, mae modd i gefnogwyr ddilyn gemau o bob cwr o'r byd.

Wrth i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru (CBDC) weithio ar ddatblygiadau pellach, gan gynnwys fersiwn Cymraeg, mae rhai o wirfoddolwyr y clybiau wedi croesawu'r meddalwedd newydd.

Dywedodd Daniel Jose o'r tîm sydd wedi datblygu'r ap o fewn CBDC, fod dyfodiad y meddalwedd wedi lleihau'r baich ar wirfoddolwyr oedd yn arfer gorfod gwneud y gwaith gweinyddol i gyd ar bapur a drwy'r post.

Datblygu'r system gyfrifiadurol 'Comet', meddai, wnaeth alluogi gwneud yr holl ddata ar gael i'r cyhoedd.

Mae'r ap wedi ei lawrlwytho 285,627 o weithiau ers ei lansiad ym Medi 2020.

"Sbardun mawr y system Comet oedd ceisio gwneud pethau'n haws i wirfoddolwyr," meddai Daniel Jose wrth Cymru Fyw.

"Cyn Comet roedd popeth yn llafurus iawn, y pethau fel talu am gofrestriadau neu wneud cofrestriadau.

"Yn aml roedd yn rhaid i chi yrru i dŷ'r ysgrifennydd i gofrestru, postio'ch arian drwy'r post neu beth bynnag. Y syniad oedd i wneud hyn i gyd yn ddigidol lle bo'n bosibl, a cheisio gwneud pethau ychydig yn haws i wirfoddolwyr.

"Ond gyda'r holl wybodaeth mewn un lle roeddech yn gallu ei droi fewn i rywbeth cadarnhaol, fel yr ap."

'Mae'n lot haws'

Yn ôl ysgrifennydd un clwb ym Môn, mae wedi gwneud bywyd yn haws i wirfoddolwyr ond mae hefyd yn ffordd i gefnogwyr gadw cysylltiad gyda'u clybiau lleol.

"Mae o wedi gwneud gwahaniaeth mawr," meddai Graham Cohen o CPD Tref Llangefni wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ysgrifennydd CPD Llangefni, Graham Cohen, mae diddordeb "yn bendant yn cynyddu" ers dyfodiad yr ap

"Pethau fel arwyddo chwaraewyr, mae o lot haws a dydi - rhywun ddim yn gorfod delio hefo papur a mynd i dŷ pobl yn nocio ar y drws a gofyn iddyn nhw arwyddo. Mae o i gyd yn medru cael ei wneud ar-lein, sy'n lot haws.

"Mae'r admin ar ddiwrnod y gêm lot haws hefyd. Yn y dyddiau cynt roedd rhaid ffonio'r sgôr i fewn ar ddiwrnod y gêm a dweud dros y ffôn pwy oedd wedi sgorio, cael cardiau melyn a coch.

"Rŵan 'dan ni'n mynd ar y ffôn a bwydo'r wybodaeth yna yn fyw ac ar y pryd, ac mae'n lleihau'r gwaith gweinyddol.

"Mae'n neud o'n haws i wneud y gwaith achos fod gymaint o dimau yn y clwb - timau merched, reserves a plant."

Mae'r clwb hefyd wedi sylwi'r effaith ar gefnogwyr, gyda chyfeillion i'r clwb o bedwar ban byd hefyd yn gallu cadw i fyny erbyn hyn.

"Mae pawb [ar ochr y cae] fel bod nhw'n cadw llygad ar be sy'n mynd ymlaen a be mae'r rivals a thimau lleol eraill yn ei wneud. Achos fod o'n fyw fe glywi di bobl yn cynhyrfu weithiau os oes na gôl mewn gêm arall.

"Mae o bendant yn cynyddu diddordeb. Rŵan ti'm yn gorfod bod yn lleol i ddilyn tîm. Maen nhw'n medru accessio o'r ap a cadw llygad... gynon ni gwpl o bobl yn cadw llygad ar be 'dan ni'n neud yn Canada.

"Maen nhw hyd yn oed yn ebostio fi weithiau yn llongyfarch ni. Mae o bendant yn ffordd well o engagio hefo cefnogwyr sydd ddim yn byw yn lleol. Mae'r interest bendant yn cynyddu."

'Hyrwyddo gêm y merched'

Un arall sydd wedi gweld budd o'r dechnoleg newydd ydy Llio Emyr, sy'n aelod o Glwb Pêl-droed y Felinheli.

Mae hi'n chwarae i'r tîm merched ac yn hyfforddi ieuenctid y clwb.

Disgrifiad o’r llun,

Llio Emyr: "Fel defnyddiwr o'r ap fy hun dwi'n licio sbio ar ganlyniadau cynghreiriau gwahanol, dynion a merched"

"Mae symud pethau i fod yn ddigidol wedi gwneud gymaint o wahaniaeth i ni fel clwb," meddai.

"'Dwi'n cofio bod ar ochr y lein yn hyfforddi y tîm dan 16 a 14 a bod hefo darn o bapur hefo enwau pawb a trio sortio'r tîm a'r reffarî ac yn y blaen, ac os ydy'n bwrw glaw a chwythu, papurau'n mynd i bob man... dio'm yn practical rîli.

"Mae'r ap yn ffantastig ni i fel clwb ac yn gyfle da i ni gadw trac ar bob dim.

"Fel defnyddiwr o'r ap fy hun dwi'n licio sbio ar ganlyniadau cynghreiriau gwahanol, dynion a merched... Mae'n gyfle da i hyrwyddo pêl-droed ar bob lefel ac i gefnogwyr gael cymryd rhan ac teimlo'n fwy yn rhan o'r peth.

"Hefyd yn sicr i gêm y merched mae o ond am helpu hyrwyddo'r ffaith fod na gynghreiriau cystadleuol iawn."

'Eisiau cyflwyno'r Gymraeg'

Yn ôl CBDC mae 285,627 wedi defnyddio'r ap ers ei gyflwyno, gyda 162,910 eisoes wedi ei defnyddio y tymor yma.

Ond o safbwynt diogelu mae manylion unrhyw chwaraewr o dan 16 oed wedi eu cuddio fel rhagosodiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau'n effeithio ar bob lefel o'r gêm

Ychwanegodd Daniel Jose: "Rwy'n ymwneud â chlwb fy hun, a cyn gynted ag y mae'r chwiban olaf wedi mynd mae chwaraewyr a chefnogwyr yn estyn am yr ap i weld sut mae'r timau eraill wedi dod ymlaen.

"Mae'n denu cynulleidfa newydd a lefel newydd o ymgysylltu a 'dan ni'n gobeithio tyfu'r gêm yng Nghymru.

"Mae'r iaith Gymraeg yn rywbeth 'da ni isho'i gyflwyno i'r ap ac i system Comet.

"Mae tua 39,000 o eiriau a thermau gwahanol angen eu cyfieithu. Mae'n fater o roi hynny ar waith a chael y logisteg yn ei le i wneud i hynny ddigwydd.

"Mae ein diolch yn fawr i'r gwirfoddolwyr, clybiau, chwaraewyr, teuluoedd ac ati sydd i gyd wedi dechrau defnyddio hwn a'i wneud yn gymaint o lwyddiant.

"Byddai'r holl beth wedi disgyn ar y cam cyntaf os na fyddai pobl wedi prynu fewn iddo felly mae'r llwyddiant yn dyst i bawb ym mhêl-droed Cymru."

Pynciau cysylltiedig