Strategaeth CBDC i 'drawsnewid' pêl-droed llawr gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi strategaeth pêl-droed llawr gwlad er mwyn tyfu'r gêm a chreu cymuned bêl-droed amrywiol a chynhwysol.
Mae 'Enhancing Lives Through Football' yn strategaeth chwe blynedd, sy'n cynnwys chwe nod fydd yn canolbwyntio ar bobl, chwaraewyr, clybiau, cynghreiriau, ymddygiad a chyfleusterau.
Mewn datganiad, dywedodd CBDC eu bod wedi ymgynghori â'r cyhoedd er mwyn deall yr heriau sy'n wynebu pêl-droed llawr gwlad yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dywedodd Ben Field, pennaeth pêl-droed llawr gwlad CBDC, bod "gan bêl-droed y gallu i wella bywydau ym mhob cymuned, a gallai'r strategaeth yma greu cymunedau cryfach, mwy iach yn ogystal â gwella cysylltiadau".
Dyma'r tro cyntaf i'r Gymdeithas Bêl-droed gyhoeddi strategaeth sy'n canolbwyntio yn benodol ar ddatblygu pêl-droed llawr gwlad.
Daw wythnosau yn unig ar ôl i CBDC gyhoeddi'r buddsoddiad unigol mwyaf erioed yng nghynghrair y Cymru Premier.
Yn ôl y Gymdeithas, maen nhw'n gobeithio cefnogi clybiau i sicrhau eu bod yn fwy cynaliadwy, yn fwy hyblyg ac yn canolbwyntio fwy ar y gymuned.
Maen nhw hefyd yn gobeithio gwella'r cyfleusterau ar lawr gwlad a sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad at y cyfleusterau hyn.
Amcanion y strategaeth:
Dyblu nifer y gwirfoddolwyr
Dyblu nifer yr hyfforddwyr sy'n ferched neu/ac yn dod o gefndir ethnig amrywiol
Cynnydd o 20% yn nifer y gemau llawr sydd â dyfarnwr cymwysedig
Sicrhau fod gan bob clwb gynllun datblygu
Cynnydd o 50% yn nifer y merched rhwng 5-11 sy'n chwarae'r gêm
Gostyngiad o 50% yn nifer y chwaraewyr rhwng 12-17% sy'n gadael y gêm
Dyblu nifer yr oedolion sy'n chwarae am hwyl
Mae CBDC yn dweud yn y datganiad bod ganddyn nhw "gyfle a chyfrifoldeb" dros y chwe blynedd nesaf i ddatblygu, trawsnewid ac ysbrydoli pêl-droed llawr gwlad.
Maen nhw'n gobeithio cyflawni'r nodau hynny drwy roi pwyslais ar farchnata, technoleg, partneriaethau cryf, defnydd o ddata a buddsoddiad newydd.
Dywedodd capten tîm dynion Cymru, Aaron Ramsey, fod pêl-droed llawr gwlad yn hollbwysig, a bod ei blant ei hun wrth eu boddau yn cymryd rhan.
"Maen nhw wir wrth eu boddau yn gwneud ffrindiau newydd, yn cael hwyl ac yn ffynnu," meddai.
"Dwi'n hoffi gwylio nhw'n chwarae a gwneud yr un peth ag yr oedd fy rhieni i yn ei wneud gyda fi. Mae dad fel ei fod o'n mynd drwy hynny eto gyda'i wyrion rŵan hefyd, ac mae hynny'n grêt.
"Dwi'n meddwl bod nifer o chwaraewyr proffesiynol, mewn unrhyw fath o chwaraeon, yn dechrau yn ifanc iawn ac maen nhw gyd mwy neu lai yn dechrau ar lefel llawr-gwlad.
"Mae'r fath yma o bêl-droed yn rhoi sylfaen dda i chi, ac mae'n gyfle i chi ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn datblygu."
Clybiau 'cynaliadwy a chynhwysol'
Ychwanegodd Mr Field: "Ry'n ni'n gobeithio cyrraedd y nodau hyn drwy ddatblygu pobl, cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan a chreu clybiau pêl-droed cynaliadwy a chynhwysol.
"Ry'n ni hefyd am weld cynghreiriau modern a hyblyg gydag ymddygiad gwell ar ac oddi ar y cae.
"Mae gan CBDC dim o saith o ddatblygwyr clybiau fydd yn gweithio o fewn ardaloedd y chwe chymdeithas ranbarthol. Prif gyfrifoldeb yr unigolion hyn fyd cefnogi clybiau gyda'u hanghenion oddi ar y cae - er enghraifft datblygu cyfleusterau, recriwtio gwirfoddolwyr neu gyflwyno gwelliannau o ran llywodraethiant."
Ychwanegodd bod modd i glybiau ddefnyddio adnoddau ar-lein hefyd fel rhan o gynllun 'Clwb Cymru' y gymdeithas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2024