Elusen Pwll Nofio Aberteifi 'ar ei gliniau yn ariannol'

Pwll Nofio AberteifiFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Pwll Nofio Aberteifi wedi gorfod cau sawl gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen sy'n rhedeg pwll nofio yn y gorllewin "ar ei gliniau yn ariannol", yn ôl ei chadeirydd.

Mae Pwll Nofio Aberteifi wedi gorfod cau sawl gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf, yn sgil problemau gydag offer yn yr adeilad.

Yn ystod y cyfarfod blynyddol brynhawn Llun, cadarnhaodd Matt Newland ei fod yn bwriadu ildio'r awenau fel cadeirydd yr ymddiriedolwyr yn ystod y misoedd nesaf.

Clywodd y cyfarfod bod yna ddiffyg o £8,307 yn y coffrau, am fod y pwll wedi colli incwm, a bod yna gostau sylweddol ynghlwm wrth atgyweirio offer ac adeiladau.

Mae'r pwll wedi derbyn grant o £230,000 gan Chwaraeon Cymru ar gyfer offer gwresogi newydd, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd yn ei flaen tra bod y pwll ar gau.

Ymddiriedolwyr 'wedi gwneud eu gorau'

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cadeirydd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio Aberteifi, Matt Newland wedi cadarnhau y bydd yn camu lawr o'i rôl yn y misoedd nesaf

Mae'r cyfleusterau ar y safle yn Feidr Fair yn dyddio'n ôl i 1977.

Dywedodd Matt Newland wrth BBC Cymru bod y pwll wedi gorfod cau "rhyw hanner dwsin o weithiau yn ystod y 12 mis diwethaf".

"Mae offer wedi methu ac mae hynny wedi costio llawer i’w atgyweirio, ond mae yna golled wedi bod o ran incwm, wrth orfod cau," meddai.

"Ni ar ein gliniau yn ariannol. Mi fyddwn yn gorfod hawlio rhai o’r costau hynny 'nôl."

Clywodd y cyfarfod bod hi'n fwriad i drosglwyddo'r gwaith o redeg y pwll i gwmni cyfyngedig, gyda statws elusennol.

Roedd tua 40 o bobl yn y cyfarfod, gyda rhai yn feirniadol o'r ffordd y mae'r pwll yn cael ei redeg.

Dywedodd Mr Newland bod yr ymddiriedolwyr "wedi gwneud eu gorau" ond bod prinder staff yn y ganolfan yn broblem barhaol.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mr Newland mai’r ateb, yn y pen draw, oedd sicrhau bod canolfan llesiant i’r dref yn cael ei hadeiladu ar safle'r pwll presennol, gydag ymrwymiad gan y cyngor sir i ddarparu pwll newydd sbon.

Cyngor yn 'ffôl iawn' i gau'r pwll

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mewn cyfarfod, roedd nifer yn feirniadol o'r ffordd mae'r pwll yn cael ei redeg

"Os ydyn nhw'n gwario'r holl arian ar ganolfan newydd, ac mae'r pwll yn cau oherwydd diffyg buddsoddiad, yna mae hynny yn ganlyniad gwael i bobl Aberteifi a'u lles.

"Mae’r lle yma yn lleoliad allweddol i nifer fawr o bobl.

"Mi fyddai’r cyngor yn edrych yn ffôl iawn os ydy'r pwll yn cau, oherwydd diffyg buddsoddiad, ond mae arian yn cael ei wario ar safle arall yn y dref i greu canolfan llesiant.

"Rwy’n galw ar y cyngor i sicrhau bod pwll newydd yn rhan o'u cynllun."

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn "ymwybodol o'r sefyllfa ariannol anodd" i'r pwll, a gwerth a phwysigrwydd y cyfleuster i Aberteifi a'r ardal.

Dywedodd llefarydd bod y cyngor yn "gweithio'n agos" gyda'r ymddiriedolaeth "i archwilio opsiynau i ddatblygu ail Ganolfan Les y Sir yn y dref".

"Byddai darparu unrhyw opsiwn a gymeradwyir yn amodol ar sicrhau'r cyllid perthnasol."

Pynciau cysylltiedig