Efailwen: Bachgen, 16, wedi marw ar ôl digwyddiad â thryc
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 16 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thryc ar dir preifat yn Sir Benfro.
Mae teulu Llŷr Davies, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, wedi ei ddisgrifio fel "bachgen caredig, doniol a hoffus".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn ardal Efailwen, Clunderwen am 13:29 brynhawn Mawrth yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tryc wedi ei ddarganfod mewn afon fas, tra bod unigolyn wedi ei ganfod mewn lleoliad arall.
Er iddo dderbyn cymorth cyntaf gan barafeddygon, bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd teulu Llŷr mewn datganiad bod "eu bywydau wedi eu troi ben i waered" gan y newyddion.
"Gyda thristwch enfawr, ry'n ni fel teulu yn cyhoeddi marwolaeth Llŷr," meddai'r datganiad.
'Wastad yn ein calonnau'
"Ar 12 Mawrth cafodd ein bywydau eu troi ben i waered gan y newyddion ein bod ni wedi colli ein bachgen caredig, doniol a hoffus.
"Mi fydd dy bersonoliaeth hyfryd yn parhau gyda ni am weddill ein hoes. Roedd dy allu i oleuo unrhyw ystafell yr oeddet ti'n cerdded mewn iddi yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drysori am byth.
"Ni fydd ein bywydau'r un peth hebddo ti Llŷr, fyddi di wastad yn ein calonnau. Cysga'n dawel beautiful boy."
Ychwanegodd y teulu eu bod yn gwerthfawrogi'r holl negeseuon o gefnogaeth gan ffrindiau, teulu a'r gymuned yn ehangach.
O ganlyniad i natur y digwyddiad, mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cael gwybod.
Dywedodd llefarydd ar ran HSE eu bod nhw'n gweithio gyda Heddlu Dyfed Powys fel rhan o'u hymchwiliad.
'Trasig'
Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi: "Rydym yn hynod drist i glywed y newyddion trasig yma.
"Hoffwn ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu ar yr amser trist ac anodd hwn.
"Byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i'n staff a'n disgyblion dros y dyddiau nesaf."
Mae llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion wedi dweud eu bod yn "cydymdeimlo gyda'r teulu ac yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw".
Fyddan nhw ddim yn gwneud sylw arall wrth i'r heddlu ymchwilio.
Dywedodd cynghorydd Sir Aberporth a'r Ferwig, Gethin Davies, oedd yn adnabod Llŷr, fod yr effaith ar y gymuned i'w deimlo'n barod.
"Mae e'n mynd i fod yn golled fawr yn y gymuned. Mae e'n mynd i fod yn golled fawr hefyd yn y teulu, yn yr ardal, yr ysgol, a'r clwb rygbi achos o'dd diddordeb gyda fe yn llawer o bethau," meddai.
"Bob tro o'n i'n gweld e, o'dd e'n gweud 'Helo, shwmae Gethin' a phethau fel 'na, o'dd e'n eitha' ffeind. O'dd e'n gallu siarad ag unrhyw un.
"Mae e'n mynd i adael twll mawr yn y gymuned ond mae calon y gymuned yn mynd mas i'r teulu."
Mewn neges ar eu tudalen Facebook, dywedodd Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn bod Llŷr "yn fachgen hoffus ac yn ffrind i bawb".
"Newyddion hynod o drist ddoe bod un o'n chwaraewyr dan 16 wedi colli ei fywyd. Mae'r clwb yn cydymdeimlo yn ddwys gyda'r teulu a'i holl ffrindiau," meddai'r neges.
Dywedodd Emyr Jones, Hyfforddwr tîm dan-16 Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, bod Llŷr yn "grwt hoffus iawn" oedd yn "gymeriad yn ei hunan".
"O'dd e'n newyddion trist iawn. Fi 'di gweithio gyda Llŷr ers sawl tymor nawr. O'n nhw'n grŵp bach agos iawn gyda'i gilydd, ac roedd e'n mwynhau ei rygbi yn fawr iawn," meddai.
"Mae'r newyddion a'r negeseuon ni wedi eu cael wrth glybiau arall yng ngorllewin Cymru, mae e'n neis i glywed bod e yn fachgen mor well known.
"Roedd e'n mwynhau ei rygbi a dim ond chwarae rygbi a gweithio o'dd e moyn neud."
'Sŵn yn ofnadwy'
Mae Clwb Pêl-droed Aberteifi, lle'r oedd Llŷr yn arfer bod yn aelod, hefyd wedi rhannu neges yn cydymdeimlo gyda'r teulu ac yn cynnig cefnogaeth i'w haelodau.
Dywedodd Nick Crowe, 67, sy'n byw gyferbyn â'r chwarel yn Efailwen, wrth BBC Cymru ei fod wedi clywed sŵn gwrthdrawiad.
"Roedd y sŵn yn ofnadwy... Do'n i methu gweld dim. Y peth cyntaf ddaeth i'm meddwl oedd 'lle mae'r gyrrwr?'," meddai.
"Rhedais yn ôl i'r tŷ er mwyn cael signal ac wedyn fe wnaeth fy nghariad i ffonio'r gwasanaethau brys."