Marwolaeth Tonypandy: Dim camau pellach yn erbyn un dyn
- Cyhoeddwyd

Bu farw Conall Evans yn dilyn digwyddiad yn Nhonypandy ar 1 Ionawr
Ni fydd dyn 24 oed yn wynebu cyhuddiad yn dilyn marwolaeth dyn arall yn Rhondda Cynon Taf ar Ddydd Calan.
Bu farw Conall Evans, 30 oed o ardal Pentre, yn dilyn ymosodiad yn Nhonypandy ar 1 Ionawr.
Cafodd dau ddyn eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond dywedodd yr heddlu ddydd Gwener na fyddai Dewi Morgan, 24 oed o Drealaw, bellach yn cael ei erlyn.
Mae Mr Morgan wedi ei ryddhau, ac mae teulu'r dioddefwr wedi cael gwybod am y datblygiad.