Prif Weinidog Cymru: Pwy yw Vaughan Gething?
- Cyhoeddwyd
Mae Vaughan Gething wedi goresgyn sawl her dros y blynyddau, gan gynnwys ymosodiadau hiliol a chyflwr meddygol.
Fel y gweinidog iechyd ar y pryd, fe hefyd oedd yn gyfrifol am ymateb Cymru i Covid - a hynny'n brofiad, meddai fe, sy'n dangos bod ganddo'r gallu i fod yn brif weinidog.
Mae'r bobl sy'n agos ato'n cytuno.
"Dwi'n meddwl bod e wedi dangos bod resilience gyda fe," meddai'r gweinidog iechyd presennol, Eluned Morgan.
"Mae hynny'n dangos bod ganddo fe'r cymeriad i arwain y wlad."
Yn ne cyfandir Affrica mae stori Vaughan Gething yn cychwyn.
Cafodd ei eni yn Lusaka, prifddinas Zambia, ym 1974 ar ôl i'w dad - milfeddyg o Aberogwr - symud yno i weithio a chyfarfod â mam Mr Gething, oedd yn cadw ieir.
Fe symudon nhw i Brydain ddwy flynedd yn ddiweddarach ac fe gafodd tad Mr Gething gynnig swydd ger Y Fenni.
Ond ar ôl iddo gyrraedd gyda'i deulu du, mae'n debyg i'r cynnig hwnnw gael ei dynnu'n ôl.
Symudodd y teulu felly dros y ffin i Dorset ble magwyd Vaughan Gething.
Ond flynyddoedd yn ddiweddarach daeth i Gymru - daeth yn fyfyriwr i Aberystwyth ac i fyw yn neuadd Gymraeg Pantycelyn.
'Gwneud ffrindie'n rhwydd iawn'
"Roedd o'n 'nabod fwy o bobl na neb arall," meddai Eifion Williams, oedd yn gadeirydd ar glwb Llafur y brifysgol ar y pryd.
"Roedd o mor gyfeillgar efo cymaint o bobl o wahanol adrannau yn y brifysgol ac roedd o'n cael gwahoddiadau gan lawer o bobl i ddod draw am fwyd - roedd o'n gallu gwneud ffrindie yn rhwydd iawn."
Mae Mr Williams yn cofio "lot o hwyl a thynnu coes" rhwng y cefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru ym Mhantycelyn.
Ac eto mae Mr Gething ei hun wedi dweud yn y gorffennol bod ei gyfnod ger y lli yn "annymunol" oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol.
"Roeddwn i wedi synnu gweld pa mor anghyfforddus â pha mor flin oedd y rhaniadau rhwng cefnogwyr Plaid Cymru a Llafur," meddai mewn cyfweliad yn 2018.
"Doedd yr awyrgylch ddim wastad yn un caredig a chroesawgar."
Yn ystod ei amser yn Aberystwyth y cafodd Vaughan Gething ddiagnosis o syndrom neffrotig, sef math o glefyd yr arennau.
Bu'n rhaid iddo ailddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio'r gyfraith.
Yn ddiweddar mae wedi dweud taw dim ond ar ôl i gyffur newydd gael ei dreialu yr oedd e'n gallu "edrych i'r dyfodol gyda theimlad o optimistiaeth unwaith eto".
'Yn frwd dros ddatganoli'
Cafodd Vaughan Gething ei ethol yn llywydd ar Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yna ar Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
Dyna pryd y daeth Eluned Morgan ar ei draws e gyntaf.
"Roedd lot o egni gyda fe, roedd e wastad yn llawn sbort."
Roedd e hefyd yn frwd dros ddatganoli, meddai.
"Roedd e'n gwbl gefnogol o sefydliad y Cynulliad... roedd e ar flaen y gad o ran ymgyrchu dros hynny."
Gweithio fel cyfreithiwr wnaeth Vaughan Gething nesa', cyn troi at wleidyddiaeth.
Cafodd ei ethol i Gyngor Caerdydd fel cynrychiolydd Trebiwt yn 2004, ar ôl trechu Betty Campbell - prifathrawes ddu gyntaf Cymru - o ddwy bleidlais.
Yn anfodlon ag ymddygiad Mr Gething ar ddiwrnod yr etholiad, fe gyflwynodd Mrs Campbell gŵyn swyddogol i herio'r canlyniad.
Mynnu na wnaeth e unrhyw beth o'i le mae Vaughan Gething, a dywed ei fod e a Mrs Campbell wedi dod yn ffrindiau unwaith eto erbyn diwedd ei gyfnod fel cynghorydd.
'Siarp iawn'
O Drebiwt i'r Bae, cafodd Vaughan Gething ei ethol i'r Cynulliad, fel ag yr oedd, yn 2011 ac yna ei benodi i'r llywodraeth yn 2013.
Dyma'r eildro iddo gystadlu am yr arweinyddiaeth, wedi dod yn ail yn 2018, y tu ôl i Mark Drakeford ond o flaen Eluned Morgan.
Felly, oedd hi bob tro'n amlwg bod ganddo'i fryd ar fod yn brif weinidog?
"Roedd o'n amlwg bod Vaughan yn siarp iawn," meddai Eifion Williams.
"Ac ro'n i'n gw'bod tasa fo isio mynd mewn i wleidyddiaeth basa fo yn mynd yn bell iawn."
Mae Eluned Morgan yn cytuno.
"Dwi'n meddwl bod e'n berson galluog dros ben. Mae lot o frwdfrydedd gyda fe, mae lot o drive gyda fe, ac roedd e'n amlwg bod e'n mynd i gael sefyllfa eitha' blaenllaw yn y llywodraeth," meddai.
"Roedd y ffordd roedd e wedi arwain yn ystod y pandemig wedi impresso lot o bobl."
Ie, fel gweinidog iechyd Cymru y gwnaeth Vaughan Gething yr argraff fwyaf, wrth i'r pandemig daflu sylw digynsail ar Lywodraeth Cymru, a chynyddu ei broffil e fel gwleidydd.
Nawr, mae wedi ei ethol yr arweinydd du cyntaf yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Chwefror