M4: Gyrrwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a lori
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr M4 yn Sir Gaerfyrddin nos Lun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 48, Yr Hendy, am 23:20.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod car wedi taro'n erbyn lori, a bod gyrrwr y car wedi marw ar y safle.
Bu'n rhaid cau rhan o'r M4 am rai oriau wrth i swyddogion ymateb i'r digwyddiad.
Mae'r ffordd bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad.
Pan oedd y draffordd ar gau rhwng cyffordd 48, yr Hendy, a chyffordd 49, Pont Abraham, roedd cyngor i deithwyr osgoi'r ardal os yn bosib.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon nifer o griwiau, gan gynnwys Tîm Ymateb Ardal Beryglus.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân ac Achub, roedd y ddau gerbyd ar dân wedi'r gwrthdrawiad.
Roedd criwiau wedi llwyddo i ddiffodd y fflamau cyn gadael y safle am 01:20.