Y freuddwyd o brynu tŷ yn 'teimlo ymhell i ffwrdd'

  • Cyhoeddwyd
Jordan EdwardsFfynhonnell y llun, Jordan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Edwards yn rhagweld gallu prynu tŷ un diwrnod ond mae'n amau y bydd yn cymryd amser hir

Mae dyn ifanc o Gaerdydd sydd â dwy swydd er mwyn bod mewn sefyllfa i brynu tŷ yn dweud bod ei freuddwyd yn teimlo ymhell i ffwrdd.

Mae Jordan Edwards, 21, yn gweithio mewn ysgol yn ystod y dydd ac mewn canolfan ieuenctid dair noson yr wythnos.

Ond ar ôl talu rhent a biliau, mae'n dweud bod arbed arian i brynu tŷ yn anodd.

"Rwy'n teimlo fy mod yn gwneud popeth o fewn fy ngallu," meddai, "ond nid yw'r swm sy'n rhaid i chi ei wario o'i gymharu â'r hyn rydych chi'n ei wneud yn helpu mewn gwirionedd."

Fe wnaeth Banc Lloegr gyhoeddi ddydd Iau y bydd cyfraddau llog yn aros ar 5.25% fel cyfradd sylfaenol, ac mae hynny wedi gwthio cost morgeisi i fyny.

Disgrifiad,

Mewn 90 eiliad: Beth ydy 'cyfraddau llog', 'Banc Lloegr' a 'chwyddiant'?

Mae Jordan yn credu y bydd yn gallu fforddio i brynu tŷ un diwrnod, ond bydd yn cymryd amser hir.

"Fi ddim yn gwybod sut mae unrhyw un yn disgwyl i bobl oedran ni geisio cael tŷ neu forgais o fewn cyfnod realistig o amser," meddai.

Mae Jordan yn rhentu gyda chyd-letywr i gadw costau i lawr ond "mae'n dal i fod yn frwydr", ychwanegodd.

"Mae llawer o fy ffrindiau yn dal i fyw gartref achos maen nhw methu fforddio i symud allan i rentu oherwydd fod e mor ddrud."

Fe awgrymodd ffigyrau chwyddiant ddydd Mercher bod costau byw'n parhau i ostwng.

Mae chwyddiant yn mesur y gyfradd y mae prisiau'n codi ac yn y flwyddyn hyd at Chwefror roedd yn 3.4%.

Roedd hyn yn gwymp mwy na'r disgwyl o'i gymharu â ffigwr mis Ionawr o 4%.

Mae cyfraddau llog yn amlygu faint mae'n ei gostio i fenthyg arian, ac mae Banc Lloegr yn defnyddio cyfraddau llog i geisio dod â chwyddiant i lawr i'w darged o 2%.

Mae cyfraddau llog uwch yn gwneud benthyca, gan gynnwys morgeisi, yn ddrutach.

Cyfraddau newidiol yn 'risg'

Fe ddaeth cytundeb morgais Samantha James, 36, o Bont-iets i ben ym mis Ionawr. Mae hi bellach ar gytundeb cyfradd newidiol.

"Fi 'di dewis mynd ar rât sydd yn mynd lan a lawr, a fi mynd i adael e fel 'na nawr nes diwedd yr haf i weld be sy'n digwydd," dywedodd.

"Gobeithio bydd e'n dod lawr ond mae fe'n risg yn amlwg achos gallai fe fynd lan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r taliadau morgais Samantha James yn fforddiadwy, meddai, ond mae'n rhaid bod yn ofalus gyda'i harian

"Fi'n sefyllfa eitha' lwcus - o'n i ar y gytundeb blaenorol am 15 mlynedd. Roedd e ddim yn ormod, ond nawr mae wedi mynd lan £100.

"Ni'n lwcus achos ni'n gallu fforddio fe am nawr, ac mae'n rhoi amser i ni weld be sy'n mynd i ddigwydd gyda'r farchnad yn hwyrach yn y flwyddyn.

"Mae rhaid i ni fod yn fwy gofalus gyda arian, yn bendant. Mae popeth yn mynd lan felly mae yn anodd.

"Ni'n lwcus bod bach o arian sbâr gyda ni ar hyn o bryd, ond dydyn ni ddim eisiau bod ar variable rate yn hirach na'r haf."

Roedd hi'n gyfnod heriol pan ddaeth hi'n amser i edrych am forgais newydd, medd Samantha.

"O'n i yn poeni achos tuag at ddiwedd blwyddyn diwethaf, roedd llythyron yn dod trwyddo a o'n i'n gallu gweld faint oedd e mynd i fynd lan a oedd e lot mwy na £100 pryd hynny.

"Ond o'n i'n lwcus achos erbyn Ionawr wnaeth y radd ddechrau cwympo tamed bach."

Mwy yn chwilio am gymorth

Yn ôl y cynghorydd morgeisi, Rhys Young, mae mwy o bobl yn edrych am gymorth annibynnol ers i gyfraddau llog codi.

"O fewn y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o bobl eisiau cymorth," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraddau llog yn effeithio ar benderfyniadau pobl wrth brynu eiddo

"Pryd oedd y cyfraddau yn tua 1% neu 2% roedd pobol yn hapus i gymryd manylion o'r banciau. Ond gyda'r cyfraddau mwy uchel o 5%-6% mae pobol eisiau darlun o'r farchnad gyfan a'r math o opsiynau sydd mas yna.

"Os bydd chwyddiant yn cario ymlaen i ddod lawr yn ystod y misoedd nesaf, gobeithio bydd cyfraddau llog yn dechrau dod lawr hefyd, ond am nawr ni'n disgwyl i weld a fyddan nhw'n aros ar yr un radd.

"Beth ni 'di sylweddoli dros y misoedd diwethaf yw os mae rhywun yn gallu fforddio tŷ am £200,000 mae'r taliadau mor uchel maen nhw ddim eisiau prynu'r tŷ yna.

"Felly yn lle prynu tŷ am £200,000, mae nhw'n prynu un £160,000 i gael safon da o fywyd hefyd."

Pynciau cysylltiedig