Gostyngiad o 6% ym mhrisiau tai yng Nghymru yn 2023
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth prisiau tai cyfartalog yng Nghymru ostwng bob tri mis y llynedd, yn ôl cymdeithas adeiladu'r Principality.
Roedd y pris cyfartalog ychydig dros £234,000 ddiwedd 2023 - gostyngiad o 6% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Fe syrthiodd prisiau tai mewn 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda'r cwymp mwyaf ym Merthyr Tudful.
Dywedodd pennaeth dosbarthu'r Principality fod y farchnad dai wedi bod drwy gyfnod anodd, a'r disgwyl yw mai parhau i ostwng bydd prisiau eleni.
Daw'r ffigyrau ar ddiwedd blwyddyn dymhestlog i'r economi, gyda phenderfyniadau ar forgeisi a chyfraddau llog wedi dylanwadu yn fawr ar brisiau.
Dros Gymru roedd pris cyfartalog tŷ yn nhri mis olaf y llynedd £15,000 yn is o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022 - a dyma'r gostyngiad blynyddol mwyaf ers 2009.
Er hynny mae prisiau yn parhau i fod 25% yn uwch nag yr oedden nhw bum mlynedd yn ôl.
2.2% oedd y cynnydd o'i gymharu â thrydydd chwarter y llynedd.
Merthyr Tudful oedd yr awdurdod lleol a welodd y gostyngiad mwyaf, wrth i brisiau syrthio dros 21% o'i gymharuâ'r un cyfnod yn 2022.
Fe syrthiodd prisiau dros 10% yn Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Blaenau Gwent a Thorfaen hefyd.
Ond i'r pegwn arall roedd prisiau yng Nghaerdydd a Chaerffili yn uwch nag erioed yn yr un cyfnod, gyda phrisiau cyfartalog yn yr ardaloedd hynny ar ddiwedd 2023 yn codi i £308,648 a £207,904.
Yn ôl ffigyrau'r Principality, roedd gostyngiad o 20% hefyd yn y nifer yr adeiladau a gafodd eu gwerthu yn nhri mis ola'r llynedd (9,700) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ychwanegodd pennaeth dosbarthu'r Principality, Shaun Middleton: "Er y rhagolygon fod prisiau am barhau i ostwng yn 2024 cyn i ni weld adferiad yn 2025 - mae 'na arwyddion cadarnhaol hefyd.
"Mae lefelau chwyddiant yn syrthio ac mae disgwyl bod cyfraddau llog wedi cyrraedd brig y don cyn i ni weld gostyngiad eleni... Mae'r farchnad morgeisi eisoes wedi dechrau addasu, ac efallai byddwn ni'n gweld gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023