Blodau'r ardd ar Sul y Blodau
- Cyhoeddwyd
Ar Sul y Blodau ac ar ddechrau'r gwanwyn, Adam Jones neu Adam yn yr ardd sy'n trafod y blodau yn ein gerddi ar hyn o bryd.
Mae cyhydnos y gwanwyn wedi bod a'r tymor tyfu nawr yn cychwyn ar ei anterth. Mae'r lili wen fach wedi dwyn holl sylw mis Chwefror ond erbyn hyn mae'n golygon yn troi at Sul y Blodau lle byddwn yn llenwi pob mynwent led y pen llawn blodau lliwgar i goffau am ein hanwyliaid.
Mae llwyth o flodau gwanwyn yn cychwyn blaguro yn ein gerddi a thu hwnt ond wyddech chi mai prin iawn yw'r blodau sy'n dod o Gymru wrth inni brynu tusw o flodau yn y siopau?
Yn aml bydd nifer o'r blodau hynny wedi teithio cryn bellter i gyrraedd Cymru, a gan gofio hynny mae'r effaith ar yr amgylchedd yn gallu bod yn sylweddol iawn o ran ôl-troed carbon y diwydiant a'r defnydd o gemegau i'w tyfu mewn rhannau eraill o'r byd.
Oni fyddai'n well, pe fyddwn yn tyfu ein blodau ein hunain ar gyfer Sul y Blodau a gofalu am fyd natur a'r blaned yr un pryd?
Mae pob math o ddewis ar gael i dyfu blodau torri yn ein gerddi, ac yn aml mae'n hawdd ac yn ddiffwdan - y dasg anoddaf bob tro, fydd cynaeafu'r blodau wedi iddynt dyfu mor hardd. Dyma rhai o fy hoff flodau i i'w tyfu ar gyfer Sul y Blodau.
Bylbiau'r gwanwyn - Cennin Pedr, Tiwlipau a Hyacinth
Does dim i guro'r hen ffefryn, y genhinen bedr. Dyma chi flodyn gwydn sy'n gallu goroesi pob tywydd ac yn well 'na hynny does angen fawr ddim gofal arnynt ar ôl eu plannu yn fylbiau yn ystod misoedd yr hydref. Erbyn heddiw maent ar gael mewn sawl lliw gan gynnwys y melyn traddodiadol, oren fflamgoch a gwyn, gwynach na'r galchen.
Mae bylbiau gwanwyn eraill fel y tiwlipau a'r hyacinth, o'u plannu ym mis Rhagfyr yn dod â lliwiau ac aroglau hyfryd yr adeg hon o'r flwyddyn hefyd.
Cyngor casglu blodau bylbiau'r gwanwyn:
Cofiwch dynnu coesyn y blodyn yn hytrach na'i dorri â siswrn, fydd hyn yn golygu bod y blodyn yn para dipyn yn hwy mewn phiser o ddŵr glân ffres.
Crafanc yr Arth
Mae'n rhaid cynnwys Crafanc yr Arth neu hellebores yn rhan o'n casgliadau blodau gwanwyn yn yr ardd.
Maent yn tyfu'n hawdd mewn mannau cysgodol ac yn ymdopi'n dda gyda'n hinsawdd gwlyb a thamp.
Mae modd eu torri yn flodau tal neu dynnu pennau'r blodau yn unig a'u gosod i arnofio mewn dysgl o ddŵr.
Forsythia a Daphne
Mae llwyni lluosflwydd fel y Forsythia a'r Daphne yn dod â blodau hyfryd ar goesynnau prennog.
Mae'r forsythia yn dwyn blodau melyn fel croen banana cyn i'r dail flaguro ac mae'r Daphne yn dod â blodau pinc, piws, gwyn a rhuddgoch.
Maent yn drawiadol iawn ac yn dod â strwythur hyfryd i dusw o flodau. Un o'r pethau gorau am flodau ar goesynnau pren ydy wrth i'r blodau fynd heibio'u gorau gallwch blannu'r coesynnau mewn potiau a'u gwreiddio'n blanhigion newydd!
Blodau brodorol
Nid yn unig fydd yr ardd yn dechrau dihuno llawn lliw, ond mae blodau'r perthi, coedlannau, parciau a dolydd hefyd yn cychwyn blaguro.
Mae'r briallu cynhenid bach melyn a phinc yn goleuo sawl cwtsh cysgodol erbyn canol mis Mawrth ac mae modd casglu peth o'r blodau a'u gosod mewn tusw bach cwta. Maent hefyd yn fwytadwy ac yn gwneud addurniadau teisennau pasg bach hyfryd.
Ffefrynnau eraill ydy Blodyn y Gwynt a Llygad Ebrill, byddwch chi'n eu gweld yn aml wrth ochr dail clychau'r gog dan ganopi o goed ac yn tyfu'n fôr o flodau bach wrth waelod y cloddiau. Nid blodyn torri mohonynt ond mae modd prynu planhigion a'u tyfu mewn potiau yn yr ardd neu'r fynwent.
Mae blodau dant y Llew yn prysur agor hefyd, ac er mai chwyn ydy hwn i nifer, rwy'n teimlo'n gryf ddylwn ni werthfawrogi hyfrydwch a phwysigrwydd y blodyn hwn gymaint yn fwy! Mae ei flodau yn cynnig gymaint o neithdar pwysig i beillwyr yn gynnar yn y tymor, yn wir, byddai'r gwenyn ar goll hebddo - felly rhowch gyfle i'r blodau serennu yn yr ardd!
Rwy'n gobeithio gewch chi gyfle i weld blodau brodorol yn tyfu ym mro eich mebyd chi yn ystod gwyliau'r Pasg, a chofiwch roi cynnig ar dyfu blodau eich hun i nodi Sul y Blodau flwyddyn nesaf.
Pasg hapus i chi gyd a phob bendith.
Hefyd o ddiddordeb: