Dathlu 60 mlynedd o Zulu, y ffilm ryfel Gymreig
- Cyhoeddwyd
Ar 30 Mawrth 1964, cafodd y ffilm Zulu ei rhyddhau mewn sinemâu ledled Prydain.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes brwydr yn erbyn pobl gynhenid yn Ne Affrica lle chwaraeodd catrawd o Gymru ran blaenllaw, ond fel yr eglura Gary Slaymaker, mae gan y ffilm ei hun nifer o gysylltiadau Cymreig eraill hefyd.
Adrodd hanes Rorke's Drift
Ro'n i'n 10 oed pan weles i hi gynta', ac fe wnaeth y ffilm argraff ryfeddol ar y Slaymaker bach - menywod topless, acenion Cymreig, trac sain nerthol John Barry, ac ymladd ffyrnig... lot o ymladd ffyrnig.
Mae'r ffilm yn seiliedig ar hanes catrawd y 24th Regiment of Foot (neu'r South Wales Borderers, fel roedd y gatrawd hefyd yn cael ei hadnabod), a'i dewrder yn amddiffyn cenhadaeth Rorke's Drift, yn Natal, De Affrica, ar 22 Ionawr 1879.
Fuodd rhaid i llai na 200 o ddynion wynebu byddin o 4,000 o Zulus, ac wedi 12 awr o frwydro digyfaddawd, fe lwyddodd amddiffynwyr y genhadaeth lwyddo i rhoi stop ar y Zulus, ac ennill parch y rhyfelwyr brodorol.
Fe gyflwynwyd 11 Croes Fictoria i amddiffynwyr Rorke's Drift am eu dewrder; yn ôl haneswyr, y nifer fwya' a gafodd eu cyflwyno ar gyfer un frwydr.
Mae'n stori a hanner, ac un person fuodd â diddordeb anferth yn yr hanes am flynyddoedd maith oedd yr actor o Ferndale yn y Rhondda, Syr Stanley Baker.
Roedd Baker yn un o'r actorion 'na oedd yr un mor gyfforddus yn chwarae arwyr neu ddihirod ar y sgrin fawr. Yn ystod y 50au hwyr a'r 60au cynnar, fe ddaeth yn enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd sinema, gyda ffilmiau fel Campbell's Kingdom, Yesterday's Enemy, Hell Drivers a The Guns of Navarone.
Yn ystod ffilmio Hell Drivers (1957), fe ddaeth Baker yn ffrindiau agos gyda'r cyfarwyddwr Cy Endfield, ac roedd y ddau yn awyddus i weithio gyda'i gilydd eto.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, na'th y ddau daro ar draws ei gilydd, a drwy lwc pur, roedd Endfield yn gyfarwydd â stori amddiffynwyr Rorke's Drift hefyd, ac fe benderfynodd y ddau i fynd ati i lunio sgript a chyllideb.
Yr un darn bach arall o lwc oedd ei angen ar Baker ac Endfield oedd dod o hyd i rywun fyddai'n medru ariannu'r prosiect. Dyma pryd ddaeth y cynhyrchydd Joseph E Levine at y prosiect, gŵr oedd â meddwl mawr o ddoniau'r actor.
Pan ddywedodd Baker wrth Levine bod ganddo fe syniad am ffilm newydd o'r enw Zulu, ateb y cynhyrychydd oedd, "Zulu! I like that title. I will back you".
A dyna gychwyn ar un o'r ffilmiau 'na sydd wastad yn agos i frig unrhyw restr o ffilmiau Cymreig, a sy'n bictiwr 'wy'n caru'n ddi-flino hyd heddiw.
Llwyddiant Zulu
Roedd premiere Zulu yn Llundain, 85 mlynedd yn union ers brwydr Rorke's Drift; ac ar ben hynny, unwaith ei bod hi mewn sinemâu, fe brofodd i fod yn un o'r llwyddiannau mwya' yn hanes y sinema Brydeinig.
Am y 12 mlynedd nesa', fe fyddai hi'n ymddangos yn gyson mewn sinemâu cyn cael ei darllediad cynta' ar deledu, a hyn sy'n esbonio shwt lwyddes i weld hi yn 1973, yn hen sinema'r Castle, Abertawe gyda'n nhad.
Hon odd y ffilm gynta' i dim ond fi a Dad weld 'da'n gilydd mewn sinema go iawn; a galla i ddim meddwl am well ddechreuad i'r rhestr o ffilmiau welon ni dros y blynyddoedd nesa'.
Dros y blynyddoedd, mae cariad pobl tuag at Zulu ond wedi tyfu, er gwaetha rhai'n ei dilorni hi am fod yn esiampl o imperialaeth, neu drefedigaethedd ar ei waetha'.
Fel hyn mae gwefan adolygu ffilmiau Rotten Tomatoes yn ei disgrifio hi: "Zulu patiently establishes a cast of colourful characters and insurmountable stakes before unleashing its white-knuckle spectacle, delivering an unforgettable war epic in the bargain". Clywch clywch, Rotten Tomatoes.
Dod â'r chwedloniaeth yn fyw
Deg mlynedd yn ôl, fe gyflwynais raglen ar BBC Radio Wales, yn edrych nôl ar hanes y ffilm, a sôn hefyd am y ffordd 'nath Zulu ddod â fi a Dad yn agosach at ein gilydd drwy ein cariad o sinema. Yn ystod y rhaglen fe fues i'n ddigon ffodus i dreulio prynhawn yng nghwmni Lady Elen Baker (gweddw Syr Stanley), ac roedd ei hatgofion hi o'r cyfnod ffilmio yn dod â'r holl stori'n fyw unwaith eto.
Nawr i fod yn gwbl onest, 'dyw Zulu ddim wastad yn ffeithiol gywir. Allan o'r 200 o ddynion fuodd yn brwydro ar ochr y South Wales Borderers, dim ond 32 oedd yn Gymry.
Ond wedyn, ro'dd Stanley Baker yn deall gwerth chwedloniaeth a mytholeg ar y sgrin fawr, a fe wnaeth yn siwr bod 'na actorion Cymraeg mewn rhannau amlwg; Richard Davies, Dafydd Havard, Peter Gill, Denys Graham, a'r enwoca' ohonyn nhw i gyd, Ivor Emmanuel.
Yn enedigol o Fargam, Port Talbot, roedd Ivor yn lled-enwog yn barod fel canwr, gyda llais baritôn cyfoethog. Fe weithiodd mewn dramâu cerddorol (gyda diolch mawr i Richard Burton am ei jobyn cynta') ac ymddangos ar sioeau teledu, ond heb os Zulu oedd y ffilm wnaeth wneud ei enw.
A gan bo' fi newydd sôn am Burton, rhaid nodi'r ffaith mai fe wnaeth y troslais sy'n agor a chloi Zulu, fel ffafr i'w hen ffrind, Stanley Baker.
Felly, dyna ni - ffilm sydd â Chymreictod yn rhedeg yn llwyr trwy ei gwythiennau, a digwydd bod, mae hefyd yn un o'r ffilmiau rhyfel gorau yn hanes y sgrin fawr.
Penblwydd hapus Zulu; 'wy'n edrych mlân i atgoffa pawb amdanoch chi pan gyrhaeddwch chi'r 70.
Hefyd o ddiddordeb: