Harry Wilson: 'Bwlch ers i Bale adael'
- Cyhoeddwyd
Mae Harry Wilson yn dweud y bydd yn rhaid i Gymru weithio'n galed i lenwi'r bwlch yn y tîm ers i Gareth Bale ymddeol.
Bydd tîm Rob Page yn chwarae yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Fawrth am le yn Euro 2024.
Mae Page wedi cyfeirio at Wilson fel chwaraewr sydd wedi cymryd mwy o gyfrifoldeb ers i Bale adael.
Dywedodd Wilson: "Dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw un yn cymryd lle Gaz (Bale).
"Roedden ni'n gwybod pan nath e adael y tîm y bydde'n rhaid i ni weithio'n galetach achos mae wedi gadael gymaint o fwlch.
"Fe odd ein capten, ein arweinydd, ein chwaraewr gorau. Rydyn ni wedi colli ei ddylanwad ar y tîm ac roedd hynny'n mynd i adael bwlch enfawr.
"Nid dim ond fi, mae lot o chwaraewyr yn chwarae'n dda iawn ar hyn o bryd... rydyn ni gyd yn dod at ein gilydd."
Wilson, sy'n 27, oedd un o'r sêr wrth i Gymru guro'r Ffindir o 4-1 nos Iau.
Dywedodd: "Rydw i'n teimlo fy mod i wedi symud i'r lefel nesa'... roedd symud i Fulham ddwy flynedd a hanner yn ôl yn beth mawr i fi."
Ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Y Ffindir, bydd y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fawrth yn fwy heriol.
Robert Lewandowski 'fydd y bygythiad mwyaf'
Un o'r chwaraewyr allai achosi problemau i Gymru ydi Robert Lewandowski.
Mae ymosodwr Barcelona wedi sgorio 23 gôl yn barod y tymor yma.
Dywedodd Wilson: "Mae'n awchu i sgorio goliau. Ble bynnag mae e, mae e'n sgorio dros ei glwb a'i wlad. Fe fydd y bygythiad mwya'.
"Bydd e'n manteisio ar unrhyw gyfle i sgorio.
"Felly'r peth pwysicaf i ni ydi ei stopio fe... i beidio rhoi unrhyw gyfle iddo sgorio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2024