Dyn wedi colli £3,000 oherwydd 'rheol 10 mlynedd' pasbort

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Huw Gosling a PatriciaFfynhonnell y llun, Huw Gosling
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Gosling a'i bartner Patricia yn gobeithio treulio wythnos yn Sofia, Bwlgaria

Mae dyn o'r de yn dweud iddo golli £3,000 ar ôl cael ei ddal gan "reol 10 mlynedd" ar gyfer pasbortau tra'n ceisio teithio i'r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Huw Gosling o Borthcawl yn bwriadu teithio i Fwlgaria, ond ni chafodd fynd ar yr awyren am fod ei basbort - er nad oedd wedi dod i ben - dros 10 oed.

Dywedodd ei fod yn "gandryll, ond ddim yn gwybod pwy i fod yn gandryll gyda".

Mae pobl sy'n mynd dramor wedi cael eu rhybuddio i fod yn ymwybodol o'r rheol, a ddaeth i rym ar ôl Brexit.

Beth yw'r rheol?

Mae pasbort y DU yn ddilys am union 10 mlynedd, ond fe allai rhai a gafodd eu cyflwyno cyn Medi 2018 fod yn ddilys am 10 mlynedd a naw mis.

Mae hyn oherwydd bod y swyddfa basbort yn arfer gallu trosglwyddo naw mis olaf hen basbort i un newydd.

Ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae teithwyr i'r undeb - a Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein a'r Swistir - angen pasbort a gafodd ei gyflwyno llai na 10 mlynedd cyn iddyn nhw deithio.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai pasbortau a gafodd eu cyflwyno cyn Medi 2018 fod yn ddilys am 10 mlynedd a naw mis

Roedd Mr Gosling, 69, a'i bartner Patricia yn edrych ymlaen at wythnos o wyliau yn Sofia yn haf 2023, gyda'r bwriad o fynd i weld opera ym mhrifddinas Bwlgaria.

Ond a hwythau'n barod i fynd ar yr awyren ym Maes Awyr Birmingham, cafodd wybod na allai wneud y daith am fod ei basbort dros 10 oed.

Cyn teithio, roedd Mr Gosling wedi rhoi manylion ei basbort ar wefan IATA Travel Centre - sy'n rhoi gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen i deithio i wahanol wledydd - a ddywedodd fod y dogfennau oedd ganddo yn addas i deithio i Fwlgaria.

Roedd ganddo bron i naw mis yn weddill ar ei basbort, felly roedd yn credu y byddai'n iawn iddo deithio.

Ond nid oedd yn ymwybodol o'r rheol newydd.

'Beth mwy allwn i fod wedi gwneud?'

"Ro'n i'n gwybod mod i angen o leiaf tri mis yn weddill, ac roedd gen i naw, felly roedd hynny i weld yn fwy na digon," meddai.

"Ond pan gyrhaeddais i'r giât, dywedodd y fenyw 'allwch chi ddim teithio ar y pasbort yma'.

"Ro'n i'n gandryll, ond ddim yn gwybod pwy i fod yn gandryll gyda.

"Ro'n i'n gandryll gyda fy hunan i ddechrau, ond yna nes i feddwl 'beth mwy allwn i fod wedi gwneud?'

"Fe gollon ni bopeth - doedd ein hediadau heb gael eu hyswirio - a doedd Patricia ddim yn gallu teithio ar ei phen ei hun am ei bod hi mewn cadair olwyn.

"Nes i lwyddo i gael arian yn ôl am ein gwesty ni, ond dim y teithio, parcio'r car na'r tocynnau i'r opera.

"Fe gollon ni tua £3,000."