Ai Page yw’r rheolwr cywir i arwain Cymru i Gwpan y Byd 2026?
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn y siom o fethu sicrhau lle yn Euro 2024 wedi'r golled ar giciau o'r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl, bydd rhai yn gofyn ai Rob Page yw'r person cywir i barhau i arwain y tîm cenedlaethol.
Dywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Mercher y bydd Page yn parhau'n ei swydd fel y rheolwr ar gyfer yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026.
Roedd Page wedi dod o dan bwysau yn ystod yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Euro 2024 yn dilyn canlyniadau siomedig yn erbyn Armenia a Thwrci.
Ond wedi'r ymgyrch ddod i ben mae'r cyn-amddiffynnwr rhyngwladol wedi dweud ei fod yn llawn cyffro i arwain y garfan i Gwpan y Byd 2026.
Ond beth yw barn y gwybodusion a'r cyn-chwaraewyr?
'Haeddu'r siawns i gadw fynd'
Yn siarad ar raglen Sgorio ar S4C wedi'r gêm nos Fawrth, dywedodd cyn-chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen fod Page yn haeddu'r cyfle i barhau yn y swydd.
"Y ddau beth chi'n edrych allan amdanyn nhw yw, a yw'r chwaraewyr yn cefnogi'r rheolwr? Mae hynna'n amlwg iawn," meddai Allen.
"Ac, a yw'r dyfodol yn edrych yn braf, ac ydy'r tîm yn gwella? A mae hwnna hefyd yn amlwg.
"Felly, yn fy marn i mae e'n haeddu'r siawns i gadw fynd. Mae e wedi cael llwyddiant o'r blaen a dwi'n siŵr y bydd e'n gofyn am y cyfle i brofi hynny unwaith eto".
Roedd cyn-ymosodwr Cymru, Gwennan Harries, yn cytuno.
"Fe fydd yna rhai yn sicr yn cwestiynu hynny [a ddylai Page barhau'n rheolwr] ond mae angen edrych ar y daith mae'r garfan wedi'i wneud," meddai.
"Roedd pawb yn gwybod y byddai yna gyfnod o newid yn dilyn Cwpan y Byd 2022 - yn colli Bale a cholli Joe [Allen].
"Mae yna griw newydd yn dod drwy'r garfan… Maen nhw'n sicr yn perfformio iddo fe. Maen nhw wedi ymateb gymaint o weithiau pan fo'r angen.
"Mae'n amlwg bod yna gysylltiad agos rhwng y chwaraewyr a Page, a phwy fyddai'n cymryd ei le petasai'r Gymdeithas Bêl-droed yn cael gwared arno? Mae'n anodd gwybod.
"Fi ddim yn meddwl bod yr angen yno ar hyn o bryd [i newid rheolwr]...
"Mae chwaraewyr yn chwarae drosto, mae hynny'n sicr, ac mae'r perfformiadau yn adeiladu, felly ar hyn o bryd, na, dwi ddim yn credu bod angen [newid rheolwr]."
Wrth ymateb i'r golled ar Chwaraeon Radio Cymru yn syth wedi'r gêm fe gyfeiriodd cyn-ymosodwr arall, Iwan Roberts, at y berthynas agos amlwg sydd gan Page â'i garfan.
"Ddaru ni glywed sylwadau Noel Mooney cyn y gêm yn erbyn Croatia, bod o'n edrych o gwmpas am enw mawr i gymryd drosodd gan Page," meddai.
"'Swn i'n licio ei weld o'n aros ymlaen a chael un ymgyrch arall, achos does dim dwywaith amdani - er bo' pobl yn dweud bod o ddim yn ddigon da yn dactegol ar y lefel yna, dyw'r hyfforddwyr sydd ganddo ddim digon da ar y lefel yma, does ganddo fe ddim 'plan b'... un peth sy' ganddo - a gelli di ddim prynu hwn fel rheolwr - sef parch yr ystafell newid a pharch y chwaraewyr."
'Mae'r tîm wedi datblygu'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, fe gyfeiriodd y cyn-ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, at y newid sydd wedi bod yn chwarae'r tîm o dan Page ers y llynedd.
"Amser yma flwyddyn d'wetha, oedden ni'n gofyn yr un un cwestiwn - beth sy'n mynd i ddigwydd i Rob Page? Oherwydd oedden ni ddim yn gweld llawer o newid.
"Oedd o'n rhy ffyddlon, ac yn ofn gwneud penderfyniadau mawr", meddai Allen.
"Ond fe wnaeth hynny newid mis Mehefin diwethaf, a'r ffordd mae'r tîm wedi datblygu, a lle rydan ni rŵan - mae 'na ddychymyg yn yr ymosod."
Ychwanegodd Allen: "Mae Rob Page wedi newid ei ffordd o feddwl a maen nhw i gyd ar yr un donfedd rŵan.
"Roedd y gêm nos Fawrth yn gêm mor safonol yn erbyn tîm da iawn. Dwi ddim isio i ni ei adael o fynd.
"Dwi'n meddwl ein bod ni ar y ffordd iawn, ond dwi'm yn gwybod be' mae Noel Mooney'n mynd i'w ddweud am y peth.
"Dwi'n gwybod bo' Steve Cooper wedi cael ei enwi reit aml o gwmpas y lle. Ond dwi ddim isio gweld newid y ffordd mae pethau'n mynd ar y funud."
Y daith i Gwpan y Byd 2026
Bydd ymgyrch ragbrofol nesaf Cymru yn dechrau ymhen 12 mis, wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 2026, fydd yn cael ei llwyfannu ar y cyd yn Yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico.
Cyn hynny, mi fydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd, sy'n dechrau ym mis Medi - gyda Chymru bellach yng Nghynghrair B y gystadleuaeth.
Ar 9 Mehefin bydd y garfan yn teithio i Slofacia i chwarae gêm gyfeillgar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Mawrth