NFL: Louis Rees-Zammit yn ymuno â'r Kansas City Chiefs

  • Cyhoeddwyd
LRZFfynhonnell y llun, Mike Egerton

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Louis Rees-Zammit wedi ymuno gyda thîm pêl-droed Americanaidd y Kansas City Chiefs.

Cyhoeddodd Rees-Zammit, 23, y byddai'n gadael Caerloyw i geisio sicrhau cytundeb yn yr NFL ym mis Ionawr.

Roedd wedi ei dderbyn i'r NFL International Player Pathway (IPP) - sy'n rhoi cyfle i athletwyr elit sicrhau cytundeb gydag un o brif glybiau'r Unol Daleithiau.

Mae'r Chiefs wedi ennill y Super Bowl am y ddwy flynedd ddiwethaf yn olynol.

Tasg nesaf y Cymro fydd ceisio sicrhau lle ym mhrif garfan y tîm erbyn dechrau'r tymor.

Roedd Rees-Zammit wedi denu sylw timau eraill yn yr NFL, gan gynnwys y New York Jets, Cleveland Browns a'r Denver Broncos.

Roedd Rees-Zammit, sy'n dod o ardal Penarth ger Caerdydd, yn un o 16 chwaraewr a gafodd le yn yr IPP eleni - cwrs 10 wythnos sy'n ceisio rhoi'r sgiliau i lwyddo yn yr NFL.

Daeth cyhoeddiad Rees-Zammit, sydd wedi ennill 32 o gapiau dros Gymru a sgorio 14 o geisiau, fel sioc i lawer.

Ei nod gyda'r Chiefs fydd cystadlu gyda gweddill y garfan estynedig er mwyn cael lle yng ngharfan o 53 y tim ar gyfer 2024.

O na fydd yn cyrraedd y nod, mae'n debyg o dreulio'r tymor gyda charfan ymarfer y Chiefs.

Pynciau cysylltiedig