Chwe Gwlad: Lloegr yn rhoi cweir i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Ellie KildunneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd y cefnwr Ellie Kildunne ddau gais gwych i Loegr

Cafod merched Cymru gweir o 46-10 gan Loegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mryste ddydd Sadwrn.

Er i Gymru ddechrau'n dda a mynd ar y blaen gyda gôl gosb gan Lleucu George, llwyddodd y tîm cartref i daro nôl gyda cheisiau gan Maud Muir a Zoe Aldcroft o fewn y chwarter awr cyntaf.

Fe wnaeth dwy o'r rheng-flaen - Hannah Botterman a Lark Atkin-Davies - groesi eto cyn hanner amser i selio pwynt bonws cynnar i Loegr.

24-3 oedd y sgôr ar yr hanner, ond roedd hynny'n garedig iawn gyda Lloegr, gyda Chymru wedi pwyso am gyfnodau o'r hanner cyntaf ond heb allu croesi'r gwyngalch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Botterman yn croesi am drydydd cais Lloegr yn yr hanner cyntaf

Fe ddechreuodd Lloegr yr ail hanner yn yr un modd, wrth i Ellie Kildunne ac Abby Dow groesi am geisiau sydyn.

Llwyddodd Cymru i sgorio eu hunig gais o'r gêm, a hynny trwy'r eilydd Keira Bevan, cyn i'r tîm cartref daro nôl yn syth gyda cheisiau gan Rosie Galligan ac ail i Kildunne.

Er y canlyniad, mae'n arwydd fod Cymru'n gwella yn erbyn Lloegr, gyda'r garfan wedi cael eu trechu o fwy o lawer o bwyntiau dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd Cymru eisoes wedi colli eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth eleni, a hynny o 18-20 gartref yn erbyn Yr Alban.