Tanwen Cray: Chwalu'r tabŵ am fod yn fam ifanc

  • Cyhoeddwyd
Tanwen Cray a NeliFfynhonnell y llun, Tanwen Cray

Mi fyddai nifer helaeth o rieni newydd yn cytuno mai'r wythnosau cyntaf gyda babi bach yw'r cyfnod mwyaf heriol o ran blinder a diffyg cwsg. Un sy' wedi profi hyn ond gyda'r cymhlethdod ychwanegol o gamerâu yn ei dilyn yw'r cyflwynydd tywydd Tanwen Cray.

Mae cyfres deledu newydd Tanwen & Ollie yn dilyn Tanwen a'i phartner, pêl-droediwr Abertawe Ollie Cooper, yn yr wythnosau sy'n arwain at enedigaeth eu merch ac yn rhoi cipolwg ar wythnosau cyntaf Neli Meillionen Awen Cooper, cafodd ei geni ddiwedd mis Ionawr.

Felly sut beth yw delio gyda beichiogrwydd a babi newydd gyda camerâu yn eich dilyn?

Meddai Tanwen mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "Oedd e'n rili anodd ar y dechrau. O'n i'n meddwl bydde fe'n rili hawdd ond ti'n cael camerâu i ddilyn ti yn dy fywyd personol di sy'n actually rili preifat.

"Ti ddim yn sylwi (nes i hynny ddigwydd) faint ti'n lico cadw pethau yn breifat. Ond 'nath Ollie ddweud fydd e'n beth rili neis i edrych nôl arno pan mae Neli'n hŷn a ni 'di rili joio - dwi'n edrych mlaen i weld y bennod gyda'r parti bwmp a phan mae Neli'n cyrraedd a pha mor fach oedd hi. Dwi'n rili, rili gyffrous."

Ffynhonnell y llun, Tanwen Cray
Disgrifiad o’r llun,

Ollie, Tanwen a Neli yn ymddangos ar raglen Heno

Mae Tanwen, sy'n 23 mlwydd oed, yn gobeithio bydd y gyfres yn codi'r tabŵ am fod yn riant ifanc: "Mae lot o bobl eisiau rhoi eu barn nhw ar ddisgwyl babi a bod yn fam ifanc.

"Dwi wedi bod ar y tywydd nawr ers dwy flynedd ond mae dal yn rili gynnar yn fy ngyrfa i. Oedd e (y beichiogrwydd) yn sioc ddim jest i fi ond yn bach o sioc i lot o bobl.

"Ond nawr bod Neli 'ma se' i wedi cael unrhyw negeseuon gwael na negyddol. Yr unig bryd mae pobl yn lico rhoi barn nhw nawr yw os dwi'n bwydo o'r fron neu o'r botel."

Wythnosau cyntaf

Ac mae bywyd yn haws nawr fod Neli'n gwenu, meddai Tanwen: "Mae bywyd ar hyn o bryd mor hyfryd. Ar y dechau oedd e'n rili anodd.

"Ond erbyn hyn mae Neli'n gwenu, mae lot o bersonoliaeth, mae'n neud synau. A ti'n cael lot mwy wrthi hi sy'n rili neis so pan fi lan yn y nos mae gyd werth e.

"O'n i'n despret i gyrraedd y chwech wythnos 'na fel fod hi'n dechrau gwenu ac oedd Ollie yn dweud 'you're wishing the days away'. O'n i ddim ond o'n i'n despret i gael bach nôl achos ti fel machine yn gorfod bod lan bob dwy awr yn y nos.

"Yn enwedig achos oedd Ollie nôl yn gweithio - gath e ddiwrnod off (ar gyfer y genedigaeth) ac oedd e syth nôl yn y gwaith yn traino so oedd hwnna'n rili tough."

Cenhedlaeth newydd

Neli yw'r wyres gyntaf i'r ddau deulu ond roedd y cyfnod yn un anodd i mam Tanwen, sef y cyflwynydd teledu Angharad Mair, fel mae Tanwen yn esbonio: "Yn anffodus iddi hi oedd hi yn yr ysbyty pan oedd Neli yn dair wythnos oed so oedd hi wedi colli hyd yn oed mwy o wythnosau pan oedd Neli yn fach.

"Roedd hi wedi cael llawdriniaeth ar y bol ond erbyn hyn mae lot gwell ac wedi edrych ar ôl Neli.

"Dyma babi cyntaf y genhedlaeth nesa' i'r teulu i gyd felly mae'n cael ei sbwylio!"

Gyrfa

Mae Tanwen wedi bod yn cyflwyno'r tywydd ar S4C ers rhyw ddwy flynedd ac yn colli bywyd swyddfa'n fawr: "Mae disgwyliad mewn cymdeithas bod rhywun yn gweithio, gweithio, gweithio ac wedyn yn cael plant. Ac i fi, roedd e'n rywbeth oedd yn y dyfodol - o'n i ddim yn gallu gweld pryd fyswn i'n cael plant.

"Oherwydd hyn, ar y dechrau, o'n i'n teimlo fel 'that's the end of my career' - ond dyw e ddim yn wir o gwbl. Falle bod e'n golygu bach o brêc, ond dyw e sicr ddim yn meddwl bod dim gyrfa yn mynd i fod 'da fi."

Ffynhonnell y llun, Tanwen Cray

Rhannu'r gwaith

Yn ôl Tanwen, dyw genedigaeth Neli ddim wedi effeithio ar ei pherthynas gyda Ollie: "Mae lot o bobl yn gofyn ond dwi'n meddwl bod ni'n gwmws yr un peth - mae'r ddau ohono ni'n eitha chilled, yn enwedig Ollie - ac yn rili joio bywyd gyda hi ac yn caru fe hyd yn oed mwy nawr.

"Mae e'n rili gwerthfawrogi faint dwi'n neud 'da Neli. Mae wedi cryfhau'n perthynas ni - ond 'dy ni ddim wedi newid o gwbl."

Magu'n ddwyieithog

Mae Tanwen yn awyddus i fagu Neli yn y ddwy iaith: "Mae Ollie yn dysgu Cymraeg gyda Neli nawr - sy'n neud e loads haws. 'Nath e ddechrau dysgu Cymraeg amser hyn llynedd ac wedyn o'n i' n disgwyl babi ac wedyn doedd dim amser i neud unrhyw beth.

"Mae Ollie 'di dechrau pigo lan lot o Gymraeg nawr - mae hynny'n bwysig i fi hefyd."

Cymuned

Mae dwy o wragedd pêl-droedwyr eraill tîm Abertawe wedi cael babanod yr un pryd a hi ac mae rhannu profiadau wedi bod yn help: "Mae tair ohono ni wedi cael babi yr un pryd - ac mae'r dair ohoni nhw mor wahanol. Allu di ddim paratoi am unrhyw beth, jest wing it a enjoiwch hefyd.

Ffynhonnell y llun, Tanwen Cray
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr ifanc: Neli'n mwynhau gwylio ei thad yn chwarae dros Abertawe

"Mae hwnna rili 'di helpu fi - achos hyd yn oed os ydy pob babi yn wahanol mae'n neis bod fi'n gallu texto rhywun am dri y bore yn dweud - 'dwi heb gysgu eto!'

Cyngor

"Allwch chi baratoi a darllen loads o lyfrau a mynd i ddosbarthiadau ond mae bob babi mor wahanol. Jyst bwrw mlaen - mae Ollie wastad yn dweud 'ni'n just 'winging' it'."

  • Mae Tanwen & Ollie ar gael ar BBC iPlayer ac mi fydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Mehefin.

Pynciau cysylltiedig