A fydd diweddglo perffaith i dymor cyntaf Wrecsam yn ôl?
- Cyhoeddwyd
![Paul Mullin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A4C5/production/_133118124_mediaitem133118123.jpg)
Paul Mullin yn dathlu gôl ddiweddar i Wrecsam gydag Elliot Lee ac Andy Cannon
Hir yw pob aros medda' nhw.
Ar ôl disgwyl 15 mlynedd am ddyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr, mae Wrecsam o fewn cyrraedd dyrchafiad awtomatig am yr ail flwyddyn yn olynol.
Fe gadarnhaodd tîm Phil Parkinson eu lle yn y gemau ail gyfle Adran Dau gyda buddugoliaeth gyfforddus o 4-1 yn erbyn Crawley ar y Cae Ras nos Fawrth.
Mae'r Dreigiau mewn sefyllfa gref wrth i'r tymor ddirwyn i ben.
![Mullin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/119F5/production/_133118127_gettyimages-1555619536.jpg)
Cafodd Paul Mullin anaf ddifrifol cyn dechrau'r tymor, ond mae wedi bod yn hollbwysig i Wrecsam yn ystod y tymor
Mae'r ymosodwr Paul Mullin wedi bod yn rhoi'r bêl i mewn i'r gôl yn gyson yn y gemau hollbwysig dros yr wythnosau diwethaf, a hynny ar ôl colli dechrau'r tymor wedi anaf cas.
Roedd Mullin wedi tyllu ei ysgyfaint mewn gêm gyfeillgar yn ystod yr haf a gyda'r talisman yn absennol, colli i MK Dons oedd hanes Wrecsam ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch.
Mi fyddai llawer ar ddechrau'r tymor wedi bod yn ddigon bodlon gyda lle yn y gemau ail gyfle.
Ond y nod bellach fydd osgoi'r gemau diwedd tymor, a sicrhau dyrchafiad awtomatig er mwyn cael mwynhau'r haf ac edrych ymlaen at fywyd yn Adran Un.
Nid fod Parkinson a'i dîm yn gyhoeddus yn meiddio sôn am ddyrchafiad, am y tro o leiaf. Un gêm ar y tro yw hi.
Ond y tu ôl i ddrysau caeedig yr ystafell newid fe fydd staff a chwaraewyr Wrecsam yn ymwybodol iawn o'r hyn maent angen ei wneud i gyflawni hynny.
Maen nhw bellach wedi arfer gyda brwydro ar frig cynghrair, gyda Parkinson hyd yn oed yn awgrymu bod angen cofleidio a mwynhau y pwysau a ddaw o'r ras am ddyrchafiad.
Mae Wrecsam yn ail yn y tabl ac mi fyddai pum pwynt o'r dair gêm sydd ganddyn nhw yn weddill yn sicrhau eu lle yn y tri uchaf a dyrchafiad awtomatig.
Ond fe allai Wrecsam sicrhau dyrchafiad awtomatig mor fuan â'r Sadwrn hwn drwy guro'r tîm ar y gwaelod, Forest Green Rovers, ac os bydd MK Dons a Barrow yn methu ennill eu gemau nhw.
![Rob McElhenney (chwith) a Ryan Reynolds](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0FF1/production/_133118040_gettyimages-1486391571.jpg)
Mae Rob McElhenney (chwith) a Ryan Reynolds wedi bod yn berchnogion Wrecsam ers 2022
Tra bod y tymor ar y maes yn dirwyn i ben, ar fin dechrau y mae trydedd cyfres 'Welcome to Wrexham'.
Mae'r gyfres ddogfen sy'n bwrw golwg ar y clwb dan berchnogaeth sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi profi yn boblogaidd iawn yn enwedig yng ngogledd America.
Mae ffilmiau Hollywood yn hoff o ddiweddglo dramatig, sydd yn y pen draw yn gorffen yn hapus.
A dyna yw'r sgript mae Reynolds a McElhenney yn gobeithio ar gyfer diweddglo cyfres ddiweddaraf Disney.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2024