Cyfnod 'anodd iawn' i deulu ceffyl y Grand National
- Cyhoeddwyd
Mae'n benwythnos y Grand National yn Aintree, a bydd Cymry'n cystadlu yn y ras fawr eleni.
Bydd y ceffyl Kitty's Light o stablau Christian Williams, Aberogwr yn rhedeg, gan geisio bod y ceffyl cyntaf i gael ei hyfforddi yng Nghymru i ennill y ras fawr ers bron i 120 o flynyddoedd.
Cafodd lwyddiant mawr y llynedd gyda'r joci Jack Tudor, sydd wedi ei eni a'i fagu ym Mhen-y-bont.
Enillodd Grand National Yr Alban a chwpan aur Bet365 yn Sandown.
'Gobeithio bydd rheswm i ddathlu'
Mae teulu Christian Williams wedi cael cyfnod "anodd iawn" ers i'w ferch chwech oed, Betsy, gael diagnosis o leukaemia y llynedd.
Mae disgwyl i'w thriniaeth ddod i ben ym mis Mai 2025.
Mewn cyfweliad â'r BBC dywedodd: "Roedd e'n sioc enfawr i ni ar y pryd... mae 'na ffordd hir i fynd ond ni'n gobeithio y cawn ni lwc fel teulu.
"Mae'r rasys wedi bod yn wych ac mae'r ceffylau yn rhoi gymaint o foddhad i ni.
"Mae'n amser anodd ond ni'n lwcus i fod yn rhan o'r byd rasio ac mae'r gefnogaeth ni 'di ga'l gan y gymuned rasio, ni 'di bod yn lwcus iawn fel teulu.
"Ni'n trio gwneud y gorau o sefyllfa wael a cheisio creu atgofion... Mae'r teulu cyfan yn mynd i Aintree fydd yn neis a gobeithio y byddwn ni'n cael rheswm i ddathlu gyda'n gilydd."
Mae Christian Williams yn dweud y byddai ennill y Grand National yn hwb enfawr.
"Dwi ddim yn rhy nerfus ar hyn o bryd... mae'n ras enfawr, ma' pawb eisiau ennill hi.
"Ni wedi ennill nifer o rasys yn barod... mae e [Kitty's Light] wedi arfer gyda'r rasys mawr 'ma a gobeithio allwn ni ennill ddydd Sadwrn hefyd."
Mac Tottie o Sir Benfro
O'r 34 ceffyl fydd yn cystadlu yn y ras fawr eleni, nid Kitty's Light ydi'r unig geffyl o Gymru fydd yn rhedeg.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd Janet Davies, sy'n berchennog ceffylau yn stablau Evan Williams ym Mro Morgannwg: "Mae teulu'r Bowen o Sir Benfro... ma' ceffyl gyda'r hyfforddwr Peter Bowen sef Mac Tottie."
Mae disgwyl i fab Peter Bowen, James, gystadlu gyda Mac Tottie, tra bydd y mab arall, Sean, yn cystadlu ar geffyl arall, "sydd yn ddiddorol" yn ôl Janet.
Mae 'na newidiadau i'r ras eleni er mwyn ceisio ei gwneud yn fwy diogel.
Yn ôl Janet Davies, sydd wedi teithio i Aintree ar gyfer y digwyddiad: "Ma' nhw di lleihau nifer y ceffylau o 40 i 34...
"Dy'n nhw ddim yn rasio reit o ddechre'r ras a dy'n nhw ddim yn gallu dechre rhedeg cyn bod y fflag yn codi, felly ma' nhw'n mynd i fod yn arafach yn mynd mewn i'r naid gynta' 'na.
"Ma' nhw'n gobeithio hefyd na fydd protestio fel y gwelwyd blwyddyn diwetha', 'naeth achosi dipyn o anhrefn achos o'dd y ceffylau yn oedi am tua hanner awr cyn bod y protestwyr yn cael eu symud."
Corach Rambler enillodd ras fawr y Grand National y llynedd.
Yn eiddo i bedwar bachgen ifanc a dalodd £3,000 yr un amdano ac wedi ennill bron i £800,000 erbyn hyn, ac mae Janet Davies yn dweud mai "ar hwnnw bydde'n bunt i'n mynd arno".
Mae'r joci o Gymru, Hywel Davies, wedi cael llwyddiant yn y ras yn y gorffennol, gyda Red Rum yn ennill deirgwaith a Last Suspect, a enillodd yn 1985.
Ond Kirkland ydi'r unig geffyl o Gymru i ennill ras fawr y Grand National, a hynny yn 1905.
Y gobaith ydi y bydd un o'r ddau geffyl o Gymru - Kitty's Light neu Mac Tottie - yn ennill eleni.
Glaw wedi 'effeithio yn ofnadwy' ar rasio ceffylau
Yn ôl Christian Williams, mae'n anodd gwybod a fydd y tywydd gwlyb yn effeithio ar ei geffyl.
"Mae e wrth ei fodd yn yr haul a thywydd gwanwynol, a'r llynedd roedd y tir yn sych ac mi wnaeth e'n dda, felly allwn ni ddim dweud os fydd tir trwm a meddal yn effeithio arno, felly ni'n gobeithio bydd e ddim yn gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd Janet: "Buodd hi'n arllwys y glaw yma diwedd y prynhawn ddoe, ond oherwydd bod hi wedi sychu dipyn dros nos s'dim gymaint o drymder yn y tir felly mae'n cael ei ddisgrifio fel soft ar hyn o bryd.
"Allwch chi byth ddweud pryd bydd hi'n bwrw, ond ma' nhw'n disgwyl glaw ganol p'nawn Sadwrn.
"Y ceffylau sy'n hoffi mynd drwy'r tir meddal, meddal 'ma fydd yn gwneud orau."
Mae'n dweud bod y glaw wedi effeithio "yn ofnadwy" ar y byd rasio ceffylau.
"Ma' pethe yn cael eu canslo'n ddiddiwedd.
"Chi'n bwriadu rhedeg a wedyn chi'n gweld - yn enwedig gyda'r ceffylau ifanc 'ma - allan nhw ddim mynd drwy'r mwd 'ma, ac felly mae'n gwneud lot mwy o synnwyr i beidio eu rhedeg nhw, sydd yn anffodus.
"Ma' ceffyl 'da fi 'naeth ennill dwy ras dda iawn cyn y Nadolig a ni 'di penderfynu ei droi e mas i'r cae oherwydd ni ddim moyn sbwylio'r ceffyl a gwneud iddo fe redeg mewn tir sydd ddim yn addas iddo fe."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2018