£400,000 i helpu datblygu Amgueddfa Lechi Llanberis

Bydd yr arian datblygu o £412,000 yn helpu'r amgueddfa i wneud cais am grant llawn o dros £9m
- Cyhoeddwyd
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wedi derbyn grant o dros £400,000 i'w helpu i ddatblygu.
Daw'r arian - £412,565 - gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda'r nod o greu dyfodol "mwy disglair i orffennol diwydiannol y DU".
Y gobaith yw y bydd yr arian datblygu yn "trawsnewid yr amgueddfa yn atyniad o safon fyd-eang i ymwelwyr".
Fe fydd yr arian yn galluogi'r amgueddfa i barhau â'u cynlluniau i gyflwyno cais am grant llawn o dros £9m gan y gronfa yn y dyfodol.

Cafodd ardal llechi Gwynedd, gan gynnwys yr amgueddfa, eu rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO yn 2021
Cafodd yr amgueddfa ei hagor ym 1972 ac fe ddaeth yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021.
Wrth dderbyn yr arian datblygu, dywedodd Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru bod yr amgueddfa "wrth ein boddau" i dderbyn yr arian datblygu.
"Yn ogystal â thrawsnewid ein hamgueddfa, bydd hyn hefyd yn newid y ffordd y gallwn adrodd hanes tirwedd llechi treftadaeth y byd gogledd-orllewin Cymru," meddai.
"Mae’r ariannu hwn yn nodi carreg filltir yn hanes yr amgueddfa a bydd yn ein galluogi i gysylltu â chymunedau ar draws Cymru a’r byd."
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi dros £14.8m mewn wyth prosiect gwahanol ar draws y DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021