Oriel: Sioe Nefyn 2024

Roedd Gretta o Rosisaf yn fuddugol gyda'i oen bach
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos fe gynhaliwyd un o sioeau amaethyddol fwyaf y gogledd.
Mae Sioe Amaethyddol Llŷn ac Eifionydd, neu Sioe Nefyn wedi bod yn cael ei chynnal ers 1893.
Cafodd sioe rhif 126 ei chynnal dros y penwythnos ar fferm Botacho Wyn yn y dref.
Dyma'r sioe gyntaf i'w chynnal eleni yn y calendr amaethyddol ac Arwyn 'Herald' Roberts aeth yno i ganol yr anifeiliaid a'r peiriannau gyda'i gamera ar ran BBC Cymru Fyw.

Josh Roberts o Rhuthun gyda'i grŵp o ddefaid duon Cymreig - ac yn cael help llaw gan ei ffrindiau Alicia a Sarah

Gwyn Williams o Lanrwst oedd pencampwr yn adran yr ieir, gyda'r dofednod yn gwneud ymddangosiad cyntaf yn y sioe ers 2019

Criw o feicwyr Rali Robin Jack o ardal Penrhyndeudraeth yn arddangos eu beiciau

Bugail ifanc y sioe oedd Elliw o Glynnog Fawr

Roedd Huw Jones wedi teithio o Bow Street ger Aberystwyth i gymryd rhan yn y sioe gyda'i wartheg duon Cymreig

Roedd ceffyl gwedd Steven Keml o Ddwyran, Ynys Môn, werth ei gweld

Fe ddaeth Lewis Jones o Lanuwchllyn yn bencampwr gyda'i ddafad mynydd Cymreig

Ela Mair oedd pencampwr y pencampwyr yn adran y gwartheg eleni

Ifan Hugh o Nefyn yn arddangos ei Mini Clubman 1979 gyda Caio a Calan

Daeth Lewis o Garn yn fuddugol ar ôl adeiladu fferm fach i'w harddangos yn adran y plant

Daeth Ffion o Gaergybi yn gyntaf gyda'i merlen Shetland

Criw o Ferched pwyllgor y Sioe Fawr yn casglu arian at gronfa Sioe Fawr 2025 fydd yn cael ei noddi gan y sir

Beti sy'n bedair oed yn cael hwyl gyda'i thad Liam ar faes y sioe

Wendy Jones o Garmel ddaeth yn fuddugol gyda'i theriar Cymreig

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2024
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024