Oriel: 170 o feicwyr ar lonydd Pen Llŷn
![Eifion Roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/eeed/live/88b7fd10-008e-11ef-a9f7-4d961743aa47.jpg)
Eifion Roberts yw Cadeirydd Beicwyr Llŷn ac un o drefnwyr y rali
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos roedd lonydd Pen Llŷn yn batrymau lliwgar o feiciau modur yn gyrru mewn confoi.
Roedd 170 o feiciau modur yn rhuo o bentref i bentref gydag un bwriad: i gasglu arian i achosion da.
Mae'r ddefod yn un flynyddol, gyda Chlwb Beicwyr Llŷn yn trefnu'r rali.
Mae'r clwb wedi bod mewn bodolaeth ers 2010, ers i glwb beicio Abersoch and District a sefydlwyd yn 2009 newid ei enw.
Erbyn hyn mae dros 50 o feicwyr yn dod at ei gilydd pob mis gyda'r bwriad o "wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill ac i gael hwyl."
Dyna ddisgrifiad cadeirydd y clwb, Eifion Roberts.
"Mae'r rali flynyddol wedi bod yn digwydd ers 14 blynedd. Rydym wedi casglu bron i £72,000 at achosion da," meddai.
Mae aelodau yn teithio o bell a dros y penwythnos roedd beicwyr cyn belled â Birmingham wedi ymuno yn y rali.
Roedd y Maes ym Mhwllheli yn llawn beics o bob maint a lliw ac roedd Arwyn 'Herald' Roberts yno i ddal y cyfan drwy lens ei gamera ar ran BBC Cymru Fyw.
![Beicwyr Llŷn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/ce21/live/159be8f0-008e-11ef-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
Roedd dros 170 o feicwyr yn rhan o'r rali
![Rob Thompson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/8e1e/live/b8747290-008e-11ef-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
Roedd Rob Thompson (chwith) wedi teithio'r holl ffordd o Birmingham i gymryd rhan yn y rali.
![Dafydd Llew](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/53b6/live/dd31a8f0-008e-11ef-a9f7-4d961743aa47.jpg)
Lily sy'n 3 mis oed oedd y person ieuengaf ar ddechrau'r rali; yma mae hi gyda'i mam Lois a'i thaid Dafydd Llew
![Castell Criccieth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/0bca/live/03e99ce0-009a-11ef-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
Roedd y rali yn cynnwys taith drwy dref Criccieth
![Keith Walters a Kevin Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/2de9/live/19766e90-008f-11ef-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
Mae Keith Walters a Kevin Williams yn aelodau sy'n byw yng Nghaernarfon
![Confoi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/8740/live/63ce74a0-0090-11ef-a9f7-4d961743aa47.jpg)
Maes Pwllheli oedd man cychwyn y rali cyn gorffen yn Aberdaron
![Beicwyr Môn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/e213/live/bd44dad0-0098-11ef-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
Roedd yna gynrychiolaeth o dîm Beicwyr Môn ar gyfer y rali
![Confoi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/5bd8/live/72239580-0090-11ef-8369-47dc4454b972.jpg)
Roedd y rali yn cynnwys taith bum awr o amgylch lonydd Pen Llŷn
![Enlli Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/4102/live/15a5fa10-0099-11ef-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
Roedd Enlli Williams yno i gadw trefn ar yr holl feicwyr
![Angela Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/f690/live/3b48fc90-0099-11ef-97f7-e98b193ef1b8.jpg)
Roedd Angela Jones o Bwllheli, sydd newydd gael trawsblaniad, yno i ddangos ei chefnogaeth
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023