Article: published on 7 Mehefin 2023

Llys Ynadon CaernarfonFfynhonnell y llun, Google

Dirwy £2,500 ffermwr am fethu ag edrych ar ôl defaid

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Wynedd wedi cael dirwy ar ôl ei gael yn euog o droseddau lles anifeiliaid.

Yn Llys Ynadon Caernarfon, cafwyd Liam Hughes o Fron Einion, Rhydymain yn euog o naw trosedd yn ymwneud â lles anifeiliaid a methu â chael gwared ar garcasau anifeiliaid.

Clywodd y llys sut i Mr Hughes achosi dioddefaint diangen i rai o’i ddefaid a sut iddo fethu â chydymffurfio â rheolau gorfodaeth Cyngor Gwynedd yn ymwneud â chlafr defaid.

Yn ogystal â thalu dirwy o £2,500, bydd rhaid i Mr Hughes gyflawni 150 awr o wasanaeth cymunedol.

Wrth groesawu penderfyniad y llys, dywedodd Cyngor Gwynedd fod y gymuned amaethyddol yn edrych ar ôl eu hanifeiliaid, ond bod angen cymryd camau gorfodi pan nad yw ffermwyr yn sicrhau safon uchel o ran iechyd a lles eu hanifeiliaid.

Pynciau cysylltiedig