Pêl-droediwr yn euog o fethu â datgelu gwybodaeth i'r heddlu

Enzo FernandezFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Fernandez gael ei ddedfrydu yn Llanelli ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr wedi’i gael yn euog o fethu â datgelu i'r heddlu pwy oedd yn gyrru car Porsche sy'n cael ei amau o yrru trwy olau coch yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd chwaraewr canol cae Chelsea a'r Ariannin, Enzo Fernandez, ei gyhuddo o beidio â rhoi gwybodaeth i Heddlu Dyfed-Powys ar 27 Rhagfyr y llynedd.

Cafwyd Fernandez yn euog mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher, ond nid oedd yn bresennol.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llanelli ar 11 Medi.

Cafodd y gwrandawiad i'w ddedfrydu ei ohirio gan ynadon, er mwyn ystyried a oes amgylchiadau lliniarol, "gan gynnwys caledi eithriadol", am beidio â'i wahardd rhag gyrru.

Cafodd Fernandez ei gyhuddo o yrru car Porsche Cayenne drwy olau coch ar Stryd yr Eglwys yn Llanelli ar 28 Tachwedd 2023, ac o yrru'r un cerbyd heb yswiriant ar yr un diwrnod.

Nododd ei gyfeiriad ar restr y llys fel maes hyfforddi Chelsea yn Stoke D'Abernon.

Ni chafodd ple ei gyflwyno ar gyfer y cyhuddiadau hynny, ac fe'u tynnwyd yn ôl.

Pynciau cysylltiedig