Cefnogwyr Wrecsam yn gobeithio am ddyrchafiad arall
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn paratoi am ddathliadau annisgwyl y penwythnos hwn, os bydd y Dreigiau’n ennill dyrchafiad i Adran Un ddydd Sadwrn.
Gallai’r clwb esgyn yn awtomatig os llwyddan nhw i guro Forest Green a bod canlyniadau gemau eraill yn mynd o’u plaid.
Y llynedd fe gododd Wrecsam i Adran Dau ar ôl 15 mlynedd y tu allan i brif gynghreiriau pêl-droed Lloegr.
Digwyddodd y dyrchafiad ar ôl i’r clwb gael ei brynu gan sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, fis Tachwedd 2020.
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
I gefnogwyr fel Alaw Haf, mae cystadlu am yn ddyrchafiad eto eleni yn annisgwyl.
“Dechre’r tymor o’n i ddim yn meddwl fyse Wrecsam yn mynd fyny yn awtomatig,” meddai.
“Mae’r ffaith bod nhw yn y league yma yn enfawr, so i allu ‘neud o eto y flwyddyn wedyn, fyse hynny’n arbennig.”
Er bod diweddglo’r tymor yn annisgwyl, dydy Alaw ddim yn credu ei bod hi’n rhy gynnar i’r clwb gael ei ddyrchafu.
“Dwi’m yn gwbod os ‘di o’n digwydd yn rhy gyflym neu os ydy o'n long overdue.
"Pa mor hir mae Wrecsam wedi bod yn cwffio am y lle yma? Na, dwi’n meddwl bod nhw’n haeddu fo!”
Ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds ddod yn berchnogion, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam, y chwaraewyr a’r cefnogwyr, wedi serennu mewn cyfres ddogfen Welcome to Wrexham, sydd wedi ei darlledu i bedwar ban byd.
Mae hynny wedi denu sylw rhyngwladol, ymwelwyr a budd economaidd.
Mae’r artist lleol a’r cefnogwr Liam Stokes-Massey yn un o’r rhai sydd wedi elwa o lwyddiant diweddar y clwb, gan werthu ei ddarluniau o’r chwaraewyr mor bell â'r Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Norwy.
“Pan mae Wrecsam yn ennill ar ddydd Sadwrn, mae o’n gwneud gymaint o wahaniaeth i’r ddinas," meddai.
“Mae’r mood yn proper positive ac wrth gwrs, os ‘den ni’n colli mae’r teimlad yn hollol wahanol.
“Bydd o’n golygu gymaint os ydyn ni’n mynd i fyny, o safbwynt fi fel artist, oherwydd, wrth gwrs, mae pobl yn fwy hapus i brynu printiau a chrysau-T.
"Felly croesi bysedd ‘fory!”
Er mwyn sicrhau dyrchafiad awtomatig ddydd Sadwrn, mae angen i Wrecsam, sy’n ail, guro Forest Green, sydd ar waelod y tabl.
Hefyd, bydd angen i MK Dons a Barrow fethu ag ennill eu gemau nhw.
Os bydd hynny’n digwydd, bydd y Dreigiau yn chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
Bryd hynny roedd Cledwyn Ashford yn gwirfoddoli ac yn sgowtio gyda’r clwb, ac mae’n parhau i wneud hynny eleni.
“Pwy fyse’n meddwl pan aru'r ddau berchennog newydd ddod a phrynu'r clwb, fyse hyn yn digwydd?
“Roedd hi’n freuddwyd ac mae’n freuddwyd sydd wedi dod yn wir. Maen nhw wedi ‘neud o mewn tair blynedd, sy’n anhygoel.
“A rŵan os ewn ni fyny fydd honno yn step fawr arall, ac os fedrwn ni aros ar y step yna’r flwyddyn nesaf, dwi’n meddwl fyddwn ni wedi gwneud yn arbennig o dda.”