Wrecsam: Y rhifau tu ôl i dair blynedd Rob a Ryan
- Cyhoeddwyd
O Hollywood i Wrecsam, does dim dwywaith fod poblogrwydd y clwb yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi cynyddu'n aruthrol.
Ond roedd dros 150 o flynyddoedd o hanes yn perthyn i glwb pêl droed Wrecsam cyn i Rob McElhenny a Ryan Reynolds gael gafael ar y clwb ar Chwefror 9, 2021.
Mae'r bartneriaeth gwbl annisgwyl rhwng un o glybiau pêl-droed hyna'r byd a Hollywood wedi gweld llwyddiant ar y cae, presenoldeb amlwg ar gyfryngau cymdeithasol a degau o filoedd o gefnogwyr newydd o bedwar ban byd.
Dyma 'chydig o ffeithiau a ffigyrau diweddar am y clwb.
98.6% o blaid
Cyn derbyn yr allweddi i'r Cae Ras roedd yn rhaid i McElhenney a Reynolds ddarbwyllo'r perchnogion - ymddiriedolaeth y cefnogwyr - i werthu'r clwb iddyn nhw.
Ym mis Tachwedd 2020 yn dilyn cyflwyniad fideo gan y darpar berchnogion, fe gafodd pleidlais ei chynnal i weld beth oedd barn yr aelodau ar gael perchnogion newydd.
Fe bleidleisiodd 1,809 o blaid a 26 yn erbyn, gyda naw yn atal eu pleidlais.
Tri mis yn ddiweddarach ac roedd y clwb yn nwylo Rob a Ryan gydag addewid i dyfu'r clwb, gwella'r stadiwm a'r maes ymarfer, amddiffyn hanes y clwb, dychwelyd i Gynghrair Bêl-droed Lloegr a "churo clwb pêl-droed Caer ar bob achlysur".
Buddugoliaethau - 104
Ers i'r clwb dod o dan adain sêr y sgrin, mae'r tîm wedi chwarae 169 o gemau ym mhob cystadleuaeth ac wedi ennill dros 100 o'r gemau yna, sy'n cyfateb i ennill 62% o'u gemau yn y tair blynedd ddiwethaf.
Pwyntiau - 290
Gyda triphwynt ar gael am bob buddugoliaeth yn y gynghrair, mae Wrecsam wedi ennill 290 o bwyntiau, gyda 111 o'r rheiny y tymor diwethaf wrth i'r clwb ennill Cynghrair Genedlaethol Lloegr.
Dyna'r cyfanswm mwyaf erioed mewn tymor ar draws y pum prif gynghrair yn Lloegr.
Rheolwyr - 2
Pwy sy'n cofio Dean Keates? Tri mis yn unig fu Keates yno wedi i McElhenney a Reynolds gymryd yr awenau.
Ni chafodd ei gytundeb ei adnewyddu ar ôl i'r clwb fethu sicrhau lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd tymor 2020-21.
Deufis yn ddiweddarach penodwyd Phil Parkinson fel olynydd i Keates ac mae Parkinson wedi bod yn y swydd ers hynny.
Dean Saunders oedd y rheolwr diwethaf i barhau yn swydd am gyfnod hirach, pan oedd yn rheolwr rhwng 2008 a 2011.
Chwaraewyr newydd - 41
Ar gyfartaledd mae mwy nag un chwaraewr newydd wedi ymuno â'r clwb am bob mis mae Rob a Ryan wedi bod wrth y llyw.
Daeth dau wyneb newydd i'r clwb tra roedd y darpar berchnogion wedi cael caniatâd Awdurdod Ymddygiad Ariannol i gymryd yr awenau yn swyddogol.
Fe wnaeth y ddau o Hollywood gynnig rhodd ariannol i'r clwb er mwyn denu mwy o chwaraewyr newydd.
Sgoriodd un ohonyn nhw - yr ymosodwr Dior Angus - yn erbyn Woking i sicrhau buddugoliaeth yn y gêm gyntaf swyddogol Wrecsam o dan berchnogaeth Reynolds a McElhenney.
Ers hynny mae saith chwaraewr rhyngwladol wedi ymuno - gan gynnwys Ben Foster (Lloegr), James McLean (Iwerddon) a Steven Fletcher (Yr Alban).
Fe gostiodd yr ymosodwr Ollie Palmer £300,000 i'w brynu o Wimbledon yn Ionawr 2022 - y chwaraewr drytaf yn hanes y clwb.
Fe dorrodd Palmer record oedd wedi para 44 o flynyddoedd pan ymunodd yr amddiffynnwr Joey Jones o Lerpwl.
Goliau - 366
Dior Angus sgoriodd y gôl gyntaf ac mae 365 wedi'u sgorio ers hynny - dros ddwy gôl y gêm ar gyfartaledd.
Paul Mullin yw'r seren, ag yntau wedi sgorio mwy o goliau nag unrhyw chwaraewr arall i'r clwb yn yr amser hynny. Ef sy'n gyfrifol am bron i chwarter y goliau dros y tair blynedd ddiwethaf.
Dim ond 10 chwaraewr sydd wedi sgorio mwy o goliau yn hanes y clwb na Mullin, sydd wedi sgorio 91 gôl.
Cefnogwyr ar y Cae Ras - 557,555
Mae'n dipyn anoddach cael gafael ar docyn i weld Wrecsam yn chwarae ar y Cae Ras ers Ionawr 2021.
Er hynny, mae dros hanner miliwn wedi gweld y clwb yn chwarae yn y cyfnod yna.
Ond roedd rhaid aros rhyw chwe mis i wylio'r clwb yn y stadiwm oherwydd y pandemig.
Ar gyfartaledd mae 9,613 o gefnogwyr wedi gwylio gemau Wrecsam, a hynny yn aml yng nghwmni Rob a Ryan ac ambell seren arall o Hollywood.
Mae cynllun i adeiladu eisteddle newydd ar safle'r hen 'Kop' ar gyfer 5,000 o gefnogwyr.
Yn y cyfamser mae eisteddle dros dro wedi ei godi, ac o ganlyniad wedi ehangu nifer y seddi yn y stadiwm.
Fe ddaeth 12,478 i wylio'r gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn AFC Wimbledon - y dorf fwyaf ers 44 o flynyddoedd.
Cyn dyddiau Rob a Ryan fe ddaeth 3,436 i'r Cae Ras i wylio gêm ddi-sgôr yn erbyn Eastleigh ym mis Mawrth 2020.
Aeth dros ddwbl y nifer yna o gefnogwyr i Blackburn fis diwethaf ar gyfer gêm oddi cartref yng Nghwpan FA Lloegr.
Nid tîm y dynion yn unig sydd wedi bod yn denu'r cefnogwyr, wrth i 9,511 - record ar gyfer gêm gynghrair merched yng Nghymru - wylio tîm y merched trechu Cei Connah ac ennill cynghrair Adran y Gogledd ym mis Mawrth 2023.
Tlysau - 1
Ar y cae chwarae fe enillodd Wrecsam dlws Cynghrair Cenedlaethol Lloegr y tymor diwethaf, ond oddi ar y cae mae llwyddiant rhaglen deledu 'Welcome to Wrexham' wedi ennill llwyth o wobrau yn seremonïau 'Critics Choice' a'r Emmys.
Roedd ymweliad y tîm i Wembley yn aflwyddiannus yn rownd derfynol Tlws yr FA, gyda David Beckham yn cadw cwmni i'r perchnogion wrth i Bromley godi'r tlws ar ôl trechu Wrecsam o 1-0.
Buddsoddiad gwreiddiol - £2m
£2m oedd y ffigwr a gafodd ei grybwyll yn y cyfarfod gwreiddiol gydag Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, gyda £50,000 wedi ei glustnodi ar gyfer tîm y merched (sydd ers hynny wedi gweld chwaraewyr yn arwyddo cytundebau lled-broffesiynol).
Dim ond blwyddyn gyntaf Reynolds a McElhenney sy'n cael ei adlewyrchu yn y cyfrifon diweddaraf.
Roedd tystiolaeth o fenthyciad o £3.76m tuag at brynu safle'r Cae Ras, gyda buddsoddiad o £1.2m arall i brynu cyfranddaliadau.
Yn yr un cyfnod mae £1.18m wedi cael ei wario ar drosglwyddiadau, £2.4m ar "welliannau i eiddo'r clwb" ac mae cyfanswm staff y clwb wedi dyblu a mwy i 195.
Cynyddodd cyllid y clwb 404% i £5.972m, gyda £2.65m yn dod o gynnal gemau ar y Cae Ras.
Er hynny roedd colled flynyddol o £2.914m, ond mae disgwyl i'r sefyllfa wella yn y blynyddoedd nesaf, a fydd yn cynnwys arian noddi ac enillion yn dilyn cyhoeddi'r rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham.
Welcome to Wrexham - 33 pennod
Cafodd y bennod gyntaf ei chyhoeddi fis Awst 2022, ac ers hynny mae 32 pennod arall wedi eu rhyddhau mewn dwy gyfres.
Mae trydedd gyfres wedi ei chomisiynu'n barod yn dilyn llwyddiant y rhaglen.
Yn ôl y clwb roedd cynnydd o £300,000 yng ngwerthiant nwyddau'r clwb ar ôl y gyfres gyntaf.
Dilynwyr cyfryngau cymdeithasol - 3.7m
Does dim yn tanlinellu'r diddordeb byd eang yn y clwb yn fwy na'r cynnydd mewn dilynwyr a thanysgrifwyr ar y gwefannau cymdeithasol.
Yn Chwefror 2021 roedd gan y clwb 79,589 o ddilynwyr ar Twitter. Erbyn hyn mae Twitter wedi troi'n X, ac mae 568,000 cyfrif yn dilyn CPD Wrecsam.
Mae 1.5m yn dilyn y clwb ar TikiTok (un o gyn-noddwyr crysau'r clwb) gydag 1.2m o ddilynwyr ar Instagram.
Dim ond 41,000 oedd yn dilyn y clwb ar Instagram cyn Chwefror 2021.
Ychwanegwch 333,000 o ddilynwyr ar Facebook a 111,000 o danysgrifwyr YouTube ac mae proffil CPD Wrecsam ar y gwefannau cymdeithasol wedi codi 2,142%!
Cefnogwyr enwog - nifer!
Mickey Thomos a Joey Jones oedd yr enwogion amlycaf ar y Cae Ras cyn 2021, ond mae Reynolds a McElhenney wedi cyflwyno'r clwb i nifer fawr o sêr y byd actio.
Mae cyd-actorion Rob McElhenney yng nghyfres 'It's Always Sunny in Philadelphia' - Glenn Howeron, Charlie Day a gwraig McElhenney Kaitlin Olsen - wedi gwylio gemau a mwynhau peint yn y dafarn yng nghornel y stadiwm - Gwesty'r Turf.
Ynghyd â gwraig Ryan Reynolds, yr actores Blake Lively, mae Will ferrell, Paul Rudd, Kit Harrington, Emma Corrin a Hugh Jackman wedi profi awyrgylch y Cae Ras.
Ond does dim angen mynychu gêm i fod yn gefnogwr. Gofynnwch i Jason Sudekis (actor Ted Lasso), Will Arnett a Jason Bateman - mae'r tri wedi datgan eu cefnogaeth i'r clwb ar y gwefannau cymdeithasol.
Parti dathlu - 40,000
Roedd disgwyl i rhwng 15,000 a 20,000 o gefnogwyr heidio i Wrecsam i wylio parêd o fysus yn cario timau llwyddiannus y dynion a'r merched yn gyrru drwy'r ddinas ym Mai 2023.
Ond yn ôl ffigyrau Heddlu Gogledd Cymru roedd dros ddwbl hynny ar y strydoedd - tua 40,000 o bobl.
Cafodd y delweddau eiconig o'r bysus yn gyrru'n araf heibio'r Cae Ras eu defnyddio i gloi ail gyfres Welcome to Wrexham.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023