Carcharu dyn o Ynys Môn am ymosod ar blismyn

 Brian George OwensFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Brian George Owens ei ddedfrydu i flwyddyn a 10 mis dan glo

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 34 oed o Ynys Môn wedi cael ei garcharu am ymosod ar swyddogion heddlu yng Nghaergybi.

Roedd Brian George Owens eisoes wedi cyfaddef ymosod ar weithiwr brys, dau gyhuddiad o fygythiadau i ladd, a thorri gorchymyn ymddygiad troseddol.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher diwethaf i flwyddyn a 10 mis dan glo.

Fe gafodd yr heddlu eu galw ar 27 Chwefror i ddelio gydag ymosodiad yng Nghaergybi - digwyddiad oedd yn ymwneud ag Owens.

Wedi i'r swyddogion gyrraedd, fe wnaeth Owens dynnu darnau o wallt un swyddog allan cyn ei tharo yn ei hwyneb, a thagu swyddog arall gerfydd ei gwddf.

'Troseddwr toreithiog'

Dywedodd Wayne Francis o Heddlu'r Gogledd fod Owens yn "droseddwr toreithiog a oedd eisoes yn destun Gorchymyn Ymddygiad Troseddol cyn y digwyddiad".

"Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymosodiad ar weithwyr y gwasanaethau brys sy'n ceisio gwneud eu gwaith i gadw eraill yn ddiogel," meddai.