Cynnal cyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod i drafod rôl beirniaid

Dywedodd Ashok Ahir y gall roi sicrwydd y bydd dyfarniad beirniaid yn "derfynol"
- Cyhoeddwyd
Bydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cyfarfod arbennig ar ôl i rai o lenorion amlycaf Cymru fynegi pryder am rôl beirniaid wedi helynt y Fedal Ddrama.
Cafodd y gystadleuaeth ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, er na chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny.
Mewn llythyr agored gafodd ei rannu ym mis Chwefror, roedd Myrddin ap Dafydd, Peredur Lynch a Dylan Iorwerth yn galw am gyfarfod arbennig mewn "ymgais i osgoi anghydfod yn y dyfodol".
Fe wnaeth dros 50 o aelodau'r Llys gefnogi'r alwad am gyfarfod arbennig i gadarnhau fod dyfarniad y beirniaid mewn cystadlaethau yn derfynol.
Mewn datganiad ar y cyd rhwng awduron y llythyr agored a'r Eisteddfod, dywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod, Ashok Ahir, y gall roi sicrwydd i gystadleuwyr a beirniaid y bydd dyfarniad beirniaid yn "derfynol".
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024
Roedd y llythyr agored a gyhoeddwyd fis diwethaf wedi ei arwyddo gan y bardd a'r ysgolhaig Peredur Lynch - un o feirniaid yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni - a gan ddau sydd wedi cael cais i feirniadu yn Eisteddfod y Garreg Las y flwyddyn nesaf, sef y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r newyddiadurwr Dylan Iorwerth.
Fe wnaethon nhw awgrymu eu bod yn teimlo'n "anghyfforddus" ar ôl cael gwahoddiad i feirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd y ffordd cafodd cystadleuaeth y Fedal Ddrama "ei thrin y llynedd".
Roedd angen cefnogaeth o leiaf 50 aelod o Lys yr Eisteddfod er mwyn gallu galw cyfarfod arbennig, ac mewn datganiad ddydd Mawrth daeth cadarnhad eu bod wedi cyrraedd y trothwy hwnnw.

Dywedodd y Prifardd Dylan Iorwerth (chwith) mai nod y cyfarfod ydy "edrych ymlaen tua'r dyfodol"
Dywedodd Myrddin ap Dafydd eu bod yn "falch fod cynifer o aelodau'r Llys wedi ymateb i'r alwad" a bod hynny yn "dangos pa mor gryf yw'r awydd i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto".
Ychwanegodd y byddai hynny'n "sicrhau eisteddfodau llwyddiannus yn Wrecsam eleni ac ardal y Garreg Las y flwyddyn nesaf".
Dywedodd Dylan Iorwerth mai holl nod y cyfarfod ydy edrych ymlaen tua'r dyfodol a gwneud yn siŵr na fydd problemau yn codi eto.
"Y bwriad yw rhoi sicrwydd i feirniaid a chystadleuwyr a chefnogwyr eisteddfodau Wrecsam a'r Garreg Las ac i ddiogelu staff a swyddogion yr Eisteddfod hefyd."
'Dim modd i neb ymyrryd'
Dywedodd Llywydd Llys yr Eisteddfod, Ashok Ahir, y gall "roi sicrwydd i gystadleuwyr a beirniaid Eisteddfod Wrecsam y bydd dyfarniad beirniaid yn derfynol".
Aeth ymlaen i ddweud y byddai hynny yn wir "yn yr holl gystadlaethau ac na fydd modd i neb ymyrryd yn y broses honno".
"Mae'r hyn a ofynnir amdano yn y llythyr agored eisoes ar waith ac wedi'i gyflwyno'n glir mewn canllawiau i feirniaid ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, ac i ddarpar feirniaid Eisteddfod y Garreg Las y flwyddyn nesaf."
Ychwanegodd y bydd cael cyfle i drafod yn y cyfarfod yn rhywbeth iach, "ac yn dangos yn gwbl glir i bawb fod yr Eisteddfod yn credu'n llwyr fod dyfarniad beirniad neu feirniaid yn derfynol mewn cystadlaethau".