Teyrnged i ddyn 'cariadus' fu farw wedi gwrthdrawiad yn Llanelli

Bu farw Sanjit Evans yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanelli ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn "cariadus" fu farw ar ôl gwrthdrawiad yn Llanelli wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Sanjit Evans, 25, yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Lethri, Llanelli ar ddydd Sadwrn, 3 Mai.
Dywedodd ei ddyweddi mewn datganiad fod Mr Evans yn "berson anhygoel" ac mai nos Sadwrn oedd "noson waethaf fy mywyd".
"Roedd Sanjit yn dad arbennig i'n plant, Kingsley-Julian, Bonnie-Sue a Daisie-Jo."
Ychwanegodd: "Mae ein byd wedi cael ei chwalu, ein cynlluniau a'n dyfodol wedi'u rhwygo'n ddarnau mewn eiliad."
Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys i'r digwyddiad yn parhau ac mae swyddogion eisiau siarad ag unrhyw un a welodd Audi gwyn yn yr ardal o gwmpas Tegfynydd a Ffordd Llethri am tua 20:50 ar noson y gwrthdrawiad.