Coedwigoedd glaw Cymru a chen prin yn wynebu 'bygythiad mawr'

Siân Shakespear
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhywogaethau ymledol yn "fygythiad mawr" meddai Siân Shakespear

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na bryderon bod coedwigoedd glaw Cymru yn diflannu, ac o ganlyniad bod y cennau a'r mwsoglau arbennig sy'n byw arnyn nhw yn mynd i ddiflannu hefyd.

Mae 'na nifer o fudiadau cadwriaethol yn cyd-weithio i geisio achub a hyrwyddo ein coedwigoedd glaw.

Collwyd llawer o goed yn ystod Storm Darragh y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys un oedd yn 500 oed.

Rŵan mae cen arbennig o brin o'r goeden honno wedi ei drosglwyddo i goed cyfagos ger Blaenau Ffestiniog.

Yn ogystal â stormydd mae rhywogaethau o blanhigion ymledol, rhai yn estron, yn "fygythiad mawr" hefyd.

'Coedwigoedd yma ddim yn y cyflwr gorau'

Dywedodd Siân Shakespear o Plant Life Cymru nad "pawb sydd yn deall bod ganddom ni goedydd glaw yng Nghymru".

"Ond dyna de ni'n galw y math yma o goedwig yn bennaf oherwydd bod nhw'n bodoli mewn llefydd arbennig o lawog lle mae'n rhaid bod â thymheredd arbennig a hefyd glaw cyson trwy'r flwyddyn," meddai.

Ychwanegodd nad ydy'r "lle yma'n sychu, ac o ganlyniad i'r amodau yma mae 'na rywogaethau arbennig yma".

"Ond yn anffodus tydi'r coedwigoedd yma ddim yn y cyflwr gorau."

Coed Felenrhyd
Disgrifiad o’r llun,

Syrthiodd derwen oedd yn 500 oed yng nghoedwig Felenrhyd ger Blaenau Ffestiniog yn ystod Storm Darragh

Pan oedd Storm Darragh yn ei hanterth ddiwedd Rhagfyr roedd 'na effaith mawr ar ardaloedd drwy Gymru, ond achoswyd difrod mawr hefyd i goed hefo nifer o rai hynafol yn disgyn yn y storm.

Mae coed glaw lawr i 4% o'r hyn oedden nhw, ac yng nghoedwig Felenrhyd ger Blaenau Ffestiniog yn ystod Storm Darragh, syrthiodd derwen oedd yn 500 oed oedd â chen a mwsoglau hynod o brin yn byw arni.

"Mae 'na un rhywogaeth arbennig, sef Rinodina Isidioides ydi'r enw yn Lladin… yn anffodus does ganddom ni ddim enw Cymraeg amdani," meddai Ms Shakespear.

"Fel dwi'n dweud rhywogaeth bychan iawn iawn iawn - 'mond trwy lens fedrwch chi weld o.

"Hon oedd yr unig goeden yn y goedwig yma, mwy na thebyg yng Nghymru, ella hyd yn oed ar hyd Prydain, lle roedd y cen arbennig yma yn tyfu."

Ar ôl i'r goeden ddisgyn mae'n dechrau marw, ac "o ganlyniad i hynny, mae'r cen ei hun yn dechrau marw".

Gwartheg Dexter
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwartheg Dexter yn pori yng nghoedwig Coed y Gribin ger Dolgellau

Mewn cynllun arbennig fe dwawsblanwyd y cen prin i goed hynafol cyfagos gyda'r gobaith y byddai'n goroesi yn y tymor hir.

Mae 'na nifer o bethau yn effeithio ar ein coedydd hynafol gan gynnwys mieri a phlanhigion eraill yn tyfu'n wyllt, sy'n gallu tagu planhigion eraill.

Yng Nghoed y Gribin ger Dolgellau mae 'na arbrawf arbennig wedi bod yn digwydd ers rhai blynyddoedd.

Yno mae 'na wartheg Dexter yn pori yn y goedwig ac mae eu heffaith yn glir.

Aled Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Thomas fod y gwartheg yn "clirio llawr y goedwig, fel bod y blodau cynhenid yn dod yn ôl"

Bu Aled Thomas yn gweithio ym maes coedwigaeth ar hyd ei oes a bu'n esbonio effaith y gwartheg ar y goedwig.

"Ma' nhw'n clirio brwgatch [mieri ac yn y blaen] does 'na ddim mieri yma…. ma' nhw'n clirio llawr y goedwig fel bod y blodau cynhenid yn dod yn ôl i le fel hyn.

"Mae o'n gwneud lle i goed ail-dyfu wrth [i'r gwartheg] wasgu pethau fel mes mewn i'r ddaear.

"Tair blynedd yn ôl fasa 'na ddim byd yma heblaw mieri, rŵan mae clychau'r gog yma, mae 'na ambell i goeden yn tyfu, mae 'na 'chydig bach o redyn, ond fyddan nhw wedi cael gwared â hwnna hefyd yn o fuan."

Ond mae plannu rhagor o goed yn fater dadleuol i rai, gyda rhai ffermwyr yn poeni am golli tir amaeth.

Oes lle i ffermwyr a chadwraethwyr gyd-weithio felly?

"Wrth gwrs" meddai Mr Thomas, "gweithio efo'n gilydd ydi'r peth yn de, coedlannau fel hyn, cadwraeth oedd yn eu cau nhw ffwrdd efo ffens - wedyn oedd ffarmio wedi anghofio sut i wneud coedwigaeth, a choedwigaeth wedi anghofio sut i wneud amaeth".

Ond ychwanegodd Mr Thomas fod "hyn rŵan, yn tynnu'r ddau at ei gilydd".

Pynciau cysylltiedig