Cynllun i adfer coedwig law goll yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
O’r Amazon i Abergwaun - oeddech chi'n gwybod fod gan Gymru goedwigoedd glaw?
Canrifoedd yn ôl roedd coedwigoedd glaw yn gorchuddio'r rhan fwyaf o arfordir gorllewinol Prydain, ond erbyn heddiw dim ond ychydig sydd ar ôl.
Ond diolch i’n tywydd gwlyb mae modd adfer rhai, gyda’r cynllun adfer diweddaraf ar y gweill yn Sir Benfro.
Y nod yw gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardal.
Beth yw coedwig law dymherus?
Gall coedwig law dymherus hefyd gael ei galw'n goedwig law Geltaidd.
Dywedodd Adam Dawson, swyddog cadwraeth gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: “Mae’n goedwig law dymherus felly mae’n goedwig law cool, ond mae ganddi ei hecoleg unigryw ei hun.
"Mae pawb yn gyfarwydd â choedwig law'r Amazon. Mae tua 60-70% ohoni ar ôl.
"Ond dim ond 1% sydd yn weddill o’r cynefin hynod werthfawr ac unigryw hwn. Felly mae gwir angen i ni weithio gyda'r hyn sydd gennym ar ôl."
Mae coedwigoedd glaw Cymru i'w gweld ym Mhowys, Ceredigion a Gwynedd.
Ledled y DU maent i'w gweld ar arfordir gorllewinol Yr Alban, Cernyw a rhannau o Ogledd Iwerddon.
Er y byddai nifer ohonom yn dymuno cael tywydd trofannol yr Amazon yng Nghymru, mae coedwig law dymherus yn llawer gwlypach ac oerach.
Dywedodd Mr Dawson: “Yr hyn rydyn ni’n ceisio symud tuag ato yw lle sydd wedi ei ffeltio â mwsogl ac sydd llawn bywyd.
"Mae planhigion yn tyfu ar blanhigion, y coed yw’r adeiladau y mae popeth arall yn byw arnynt.”
Yn ôl arbenigwyr mae’r coedwigoedd glaw yn gynefin unigryw o dderw hynafol, bedw a phinwydd.
'O fudd i ni fel pobl hefyd'
Dywedodd Delyth Phillips, swyddog eiriolaeth gwledig gydag Ymddiriedolaethau Natur Cymru: "Mae plannu mwy o goed yn mynd i helpu gyda llifogydd, glanhau dŵr, glanhau’r awyr.
"Mae bod mewn coedwig o fudd i ni fel pobl hefyd; os 'da chi’n cerdded mewn coedwig mae’n dda i’ch ysbryd chi.”
Y nod yw cynyddu bioamrywiaeth yn yr afonydd.
“Mae 'na lot o dwristiaid yn dod i Sir Benfro, ond efallai maen nhw’n dod i lan y môr," meddai Mr Phillips.
"Ond mae 'na lot o lefydd eraill a 'da ni eisiau datblygu mwy o hynna i’r math o dwristiaid sydd eisiau dod mas i natur.”
Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gobeithio dechrau plannu hadau ar y safle'r flwyddyn nesaf, ac ymhen tair blynedd yn gobeithio dechrau gweld twf y goedwig law.
Mae plannu coed wedi bod yn bwnc llosg ym myd amaeth ers cyfnod ymgynghori Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Mae’r safle ger Abergwaun yn 146 erw. Yn ôl yr ymddiriedolaeth, ychydig iawn o amrywiaeth sydd ar y mwyafrif o’r caeau sy’n cael eu pori gan ddefaid.
Dywedodd Delyth Phillips: "'Da ni ddim yn targedu tir sy’n dda ar gyfer amaethyddiaeth, felly tir sydd ddim yn gynhyrchiol iawn ydy’r tir yma.
"'Da ni’n gwybod mai diffyg bioamrywiaeth a newid hinsawdd ydy’r bygythiadau mwyaf i ddiogelwch bwyd.
"Felly 'da ni eisiau cydweithio efo ffermwyr a chymunedau fel bo' ni’n gallu cael gwell cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.”
'Natur yn dda iawn yn adfer ei hun'
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai dim ond 640 hectar o goetir a grëwyd y llynedd – ychydig dros 12% o darged blynyddol Llywodraeth Cymru o 5,000.
Dywedodd Gareth Clubb, cyfarwyddwr gydag elusen amgylcheddol WWF Cymru: “Mae natur yn dda iawn yn adfer ei hun.
"Felly weithiau os ydyn ni’n gadael natur i wneud ei waith mi fydd o’n dod yn ôl i lefydd lle mae diwydiannau wedi bod, neu dir amaeth sydd wedi mynd yn hesb.
“Mae natur yn gallu dod yn ôl hyd yn oed heb lot o waith gan bobl.
"Ond os oes gyda ni’r adnoddau i roi i waith fel yma, gorau oll.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023