Canfod corff dyn aeth ar goll ar ôl dal bws o Gaernarfon

WilliamFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu wedi apelio am help i ddod o hyd i William

  • Cyhoeddwyd

Mae corff dyn 92 oed wedi'i ddarganfod yng Nghricieth wedi iddo fynd ar goll yn yr ardal dros y penwythnos.

Doedd neb wedi gweld William ers iddo fynd ar fws oedd yn teithio o Gaernarfon i gyfeiriad Cricieth brynhawn Sadwrn, 28 Rhagfyr.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ddydd Sul ac mae wedi'i adnabod yn ffurfiol, meddai Heddlu'r Gogledd.

Dywedodd y llu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.