Pryder fod plant oed ysgol yn methu darllen a sgwrsio

Dr Mair Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant yn dod i'r ysgol heb allu gwneud pethau sylfaenol, medd Dr Mair Edwards

  • Cyhoeddwyd

Mae seicolegwyr wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn poeni fod rhai plant erbyn hyn yn cyrraedd oedran ysgol yn methu a gwneud pethau sylfaenol fel darllen a sgwrsio.

Er eu bod yn cydnabod fod pwysau ar rieni, ddylai hynny ddim rhwystro’r gefnogaeth sydd angen ar blant, yn ôl arbenigwyr.

Daw hyn wrth i ymchwil newydd ddangos bod llai o rieni yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel darllen, canu a sgwrsio gyda'u plant o oedran ifanc.

Yn ôl ymchwil newydd gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol, mae 78% o rieni yn sgwrsio gyda’u plant o leiaf unwaith y dydd, o’i gymharu ag ychydig dros 90% bum mlynedd yn ôl.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu ystod o brosiectau sy'n annog teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd.

Yn ôl y seicolegydd, Mair Edwards mae yna "brobleme wedi bod yn y blynyddoedd dwetha o blant bach yn cyrraedd dosbarth derbyn a ddim yn gallu gwneud y pethe sylfaenol yn iawn".

Ychwanegodd fod rhai “yn sicr heb ddod ar draws llythrenne a rhife a hynny’n golygu bod llawer mwy o waith i’w wneud i’w cael nhw yn barod at addysg".

Er yn cydnabod y pwysau ar rieni, dywedodd “fedrith hynny ddim bod ar draul gofalu bod plant bach yn cael y gefnogaeth ma’n nhw ei angen".

Mae’r ymchwil newydd hefyd yn nodi mai 56% o rieni sy’n chwarae gyda’u plant yn ddyddiol sy’n ostyngiad o 20% ac mi ddywedodd ychydig dros hanner eu bod yn darllen bob dydd, sydd 16% yn llai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Manon bod problemau costau byw yn ei gwneud hi'n "anodd iawn" i rieni dalu am ystod eang o bethau

Ond mae Manon Jones, sy’n Athro mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud bod heriau wedi wynebu rheini dros gyfnod y gwaith ymchwil.

"Ma’r pandemig wedi digwydd yn y cyfnod yna a hefyd ’dan ni wedi bod yn siarad efo athrawon mewn ysgolion ac maen nhw’n riportio bod nifer o blant yn y dosbarth derbyn a nhwythau methu siarad yn glir ac yn eglur a gwneud brawddegau cyflawn sy’n peri pryder mawr iddyn nhw hefyd."

Dywedodd bod problemau costau byw yn ei gwneud hi'n "anodd iawn i rieni dalu am ystod eang o bethau gwahanol".

"Ma’ llyfrgelloedd yn darparu llyfrau a theganau ond dwi’n meddwl bod angen newid meddylfryd ac addysgu rhieni pam fod hyn yn bwysig ar gyfer eu plant nhw," meddai.

Er bod sawl cynllun ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, meddai, mae dal "angen cynyddu y nifer sydd ar gael a mynd at y llefydd difreintiedig".

Disgrifiad o’r llun,

Mae sesiynau stori a chân yn bwysig, medd rhieni, i fagu'r sgiliau sydd eu hangen

I rieni sy’n mynd i sesiwn stori a chân gyda’u plant yng Nghaerdydd, mae cyfleoedd fel hyn yn bwysig i fagu’r sgiliau sydd eu hangen.

Mi ddywedodd un rhiant fod y sesiynau am ddim ac o fewn cerdded sy’n golygu eu bod yn lwcus o le maen nhw’n byw.

Yn ôl rhiant arall, mae’r sesiynau yn gwella sgiliau cymdeithasol plant ac yn rhoi cyfle tu allan i’r cartref iddyn nhw wneud pethau.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu ystod o brosiectau llythrennedd i gefnogi ac annog teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd, gan gynnwys sesiynau Dechrau Da sy'n darparu llyfrau, adnoddau a gweithgareddau i deuluoedd.

Pynciau cysylltiedig