Bron i 100 o swyddi ffatri mewn perygl yn Y Drenewydd
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 100 o swyddi mewn perygl mewn ffatri yn Y Drenewydd, Powys.
Mae Control Techniques yn cynhyrchu 'drives' trydanol, sydd ag amryw o ddefnyddiau mewn sectorau fel moduro, a bwyd a diod.
Mae'r ffatri, a agorodd yn 1973, yn cyflogi tua 350 o bobl, a daeth yn rhan o grŵp Nidec yn 2017.
Gallai 98 o swyddi gael eu colli o ganlyniad i gynnig y cwmni i leihau faint o gynnyrch fydd yn cael ei greu yn Y Drenewydd "mewn ymateb i amodau'r farchnad".
Dywedodd Craig Williams, AS Sir Drefaldwyn, bod y cyhoeddiad yn "newyddion trist iawn i'r holl staff a theuluoedd all gael eu heffeithio gan golli'r swyddi".
Mae Nidec wedi cael cais am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024