Gwahardd vapes untro yng Nghymru o 2025

Vapes Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fydd dim modd gwerthu vapes untro yng Nghymru o fis Mehefin 2025.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y gwaharddiad yn dod i rym fel fydd yn digwydd yn Lloegr.

Mae disgwyl i'r Alban a Gogledd Iwerddon ddilyn yr un drefn.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca Davies bod effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol "yn allweddol" wrth wneud y penderfyniad.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw am waharddiad ar vapes untro, ond maen nhw bellach wedi cadarnhau pryd bydd hynny'n digwydd.

Dywedodd Mr Irranca Davies y bydd y rheolau newydd yn "gwahardd cyflenwi vapes untro" a'i fod yn gam ymlaen wrth "daclo sbwriel a llygredd plastig".

"Bydd yn lleihau'r nifer o wastraff rydym yn ei gynhyrchu, gan warchod ein cymunedau, byd natur ac ecosystemau i genedlaethau'r dyfodol fwynhau," meddai.

Er hyn, mae pryder y gallai'r gwaharddiad olygu y bydd pobl yn gwerthu vapes yn anghyfreithlon ar y farchnad ddu.

Pynciau cysylltiedig