James Dean Bradfield: Dysgu Cymraeg ar ôl 'colli cyfle'

Dechreuodd James Dean Bradfield ddysgu'r iaith yn hwyrach yn ei fywyd
- Cyhoeddwyd
Mae prif leisydd a gitarydd y grŵp Manic Street Preachers, James Dean Bradfield wedi sôn am ei benderfyniad i ddysgu Cymraeg yn oedolyn - rhywbeth oedd "yn gyfle oedd e wedi ei golli" tra'n tyfu i fyny.
Mewn sgwrs agored gyda Huw Stephens ar Radio Wales, dywedodd Bradfield, sydd o Dredegar, Blaenau Gwent ac a fynychodd Oakdale Comprhensive School, ei fod wedi "colli mas" ar yr iaith.
"Roedd yna foment yn yr ysgol pan oedden ni'n ifanc... roedd un dosbarth lle bydden ni'n cael un neu ddwy o wersi Cymraeg yr wythnos ac roedd e fel golygfa mas o One Flew Over the Cuckoo's Nest.
"Roedd rhaid cael pum person i gael gwers a dim ond pedwar fyddai'n rhoi eu llaw lan felly os doedd dim pum llaw lan, doedden ni ddim yn cael y wers," eglurodd.
"Ro'n i'n rhoi fy llaw lan achos ro'n i'n y côr yn barod ac yn canu Ar Lan y Môr a'r math yna o rybish, sy'n beth gwbl arferol mewn ysgolion yng Nghymru."
Adennill y Gymraeg
Fel Cymro na chafodd yr iaith, daeth Bradfield ar draws hen raglen o gôr ei ysgol wrth glirio atig ei dad yn ddiweddar. Daeth hynny â'i deimladau o "golli mas ar y Gymraeg" yn ôl.
"Roedd ganddon ni 12 cyngerdd yn Rhagfyr ac roedd o leiaf wyth o'r caneuon oedden ni'n canu yn Gymraeg, sy'n rhan o'r hen cliché – mae'n hyfryd i glywed yr iaith yn cael ei chanu ond nid yn cael ei siarad."
"Felly ro'n i'n rhan o'r genhedlaeth yna yn ne Cymru ble ro'n i eisiau mwy o Gymraeg, ond dim ond pedwar yn fy nosbarth oedd yn pleidleisio am y wers yna.
"Ac roedd hynny ond am un neu ddwy o oriau yr wythnos.
"Felly yn hwyrach yn fy mywyd wnes i ei bigo lan. Rwy' wedi bod wrthi'n dawel ers peth amser. A nawr mae'r plant wedi fy helpu i gael gwared ar fy ofn gyda threiglo."

Perfformio mewn gig yn Llundain, Gorffennaf 2024
Un o ganeuon poblogaidd y Manics yw'r gân Ready for Drowning – cân sy'n mynegi teimladau cymhleth at rai o ddigwyddiadau mawr yn hanes Cymru gan gynnwys boddi Tryweryn.
Ac y llynedd - mewn gig yn Aberteifi - fe ganodd Bradfield y gân yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
Meddai am y profiad: "Roedd yn brofiad da. Rwy' wastad wedi teimlo fod y lyrics wedi eu hysgrifennu ar gyfer Cymru gyfan.
"Mae rhannau o'r gân am Tryweryn ac ati a ry'n ni i gyd yn gwybod yr hanes hynny felly ro'n i wastad eisiau Cymru gyfan fod yn rhan o'r gân, felly roedd yn deimlad neis i'w chanu'n Gymraeg.
"Roedd yn broses gymhleth, wnes i gyfieithu rhai llinellau fy hun a chael cymorth fy ffrind Owen gyda rhai eraill.
"Do'n i ddim yn ofnus, roedd e'n teimlo yn naturiol, er roedd rhai llinellau'n gymhleth.
"Ond mae siarad Cymraeg yn ffordd i gadw'r brên yn fyw wrth i mi fynd yn hŷn!"
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Medi 2024
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl