Fy ardal i: Rhosllanerchrugog a Wrecsam

Tesni PeersFfynhonnell y llun, Tesni Peers
Disgrifiad o’r llun,

Tesni Peers

  • Cyhoeddwyd

Tesni Peers o Rosllanerchrugog ger Wrecsam yw Bardd y Mis ar Radio Cymru.

Daeth Tesni yn ail am y gadair yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr Eleni.

Gyda llai na deufis i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, mae gan Tesni wythnosau prysur o'i blaen fel cadeirydd y pwyllgor llenyddiaeth lleol.

Gan edrych ymlaen at groesawu'r brifwyl i fro ei mebyd, Cymru Fyw sydd wedi gofyn iddi ysgrifennu llythyr cariad at fro Wrecsam.

Dinas falch a Chymreig

Pan gyhoeddwyd byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Wrecsam, roedd rhai'n amau a fyddai'r Eisteddfod yn un llwyddiannus. A dwi'n deall pam. Dinas ar y ffin yw Wrecsam, ac un o ragdybiaethau pobl amdani yw nad ydy hi'n lle Cymreig o gwbl. Ond, fel nifer o ragdybiaethau, nid yw'n hollol wir.

Fel llawer o lefydd ar draws Cymru, mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng. Ond mae yna bocedi o ardaloedd yn Wrecsam sy'n parhau i fod yn falch o'u gwreiddiau Cymreig a'u dylanwad ar ddiwylliant Cymru.

Canol dinas WrescsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canol dinas Wrescsam

Mae yna gyfoeth o dalent sydd wedi tyfu yn yr ardal hon; y bardd a llenor Aled Lewis Evans; yr actor, cynhyrchydd a chantor Daniel Lloyd; yr actor, Mark Lewis Jones; y chwaraewr piano, Llŷr Williams; y chwaraewraig pêl-droed, Lili Jones; yr actores a chantores, Caitlin Drake.

Mae'r iaith Gymraeg yn rhan fawr o'u gyrfaoedd nhw ac mae eu gyrfaoedd nhw'n destunau o falchder i Wrecsam. Ac wrth gwrs, maen nhw'n dilyn rhai o eiconau'r ardal, y bardd I.D. Hooson, a'r awdur Islwyn Ffowc Elis.

A dyna un o brif nodweddion Wrecsam; rydym yn ddinas falch. Fel tref, rydym ni wedi ymdopi â chymaint, ac fel dinas, mi fyddwn ni'n ymdopi â chymaint mwy.

Mi fyddwch chi'n gweld hyn wrth fynd o gwmpas y lle, gyda phob rhan o Wrecsam yn dal ei hanes ei hun. Felly, beth am i mi eich cymryd chi ar daith fach o gwmpas y ddinas ifanc hon?

Rhosllanerchrugog

Wnawn ni ddechrau yn Rhosllanerchrugog, pentref fy mebyd, gydag un o dafodieithoedd mwyaf unigryw Cymru.

Un o adeiladau mwyaf eiconig Rhos yw'r Stiwt, theatr a chanolfan gymunedol sydd wedi bod yn rhan bwysig o enaid Rhos ers degawdau.

Am flynyddoedd, mi fynychais Theatr yr Ifanc yma, a roddodd y cyfle i mi fod yn greadigol a magu fy hyder perfformio mewn gofod diogel.

Er mae llawer o bethau wedi newid yn Rhos dros y blynyddoedd, mae'r Stiwt wastad yno, â chaniadau ei chlychau i'w clywed o Allt y Gwter i giât y mynydd.

Y Stiwt
Disgrifiad o’r llun,

Y Stiwt

Castell Y Waun

Y lle nesaf ar ein taith yw Castell Y Waun a Thraphont Ddŵr Bontcysyllte.

Os ydych chi'n rhywun dewr, mi fedrwch chi gerdded ar hyd y bont hon, heibio'r bobl sy'n glynu'n dynn wrth y ffens. Neu, os oes well gennych chi fynd am dro, pam ddim ymweld â Chastell y Waun, gyda'i gerddi hyfryd?

Yn 700 mlwydd oed, roedd y castell hwn yn amddiffynfa Gymreig, ond erbyn hyn, mae'n adnabyddus am ei heirlysiau.

Castell Y WaunFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Castell Y Waun

Neuadd a Gardd Erddig

Beth am i ni fynd heibio Hafod a Bers at Erddig, plas crand y teulu York yng nghefn gwlad Wrecsam, lle mae hanes ym mhob bricsen a phob tamaid o bridd.

Mi es i ar sawl drip ysgol yma, pan oeddwn i'n blentyn, a gwelais y lle'n datblygu dros y blynyddoedd.

Mae yna rywbeth at ddant pawb yma; mi fedrwch chi fynd o gwmpas y plas ei hun, cerdded o gwmpas y gerddi hyfryd neu fentro i mewn i Ffau'r Blaidd, lle gall plant chwarae (neu lle gall y rhieni flino'r plant!)

Yn ôl rhai, mae ysbryd York yn reidio'i penny-farthing o gwmpas y plas o hyd. Ac mae gen i hanes teuluol am y Sgwïer York hefyd; fe wnaeth y Sgwïer York ddod i gartref fy hen, hen nain a thaid am baned o de.

Dwi'n eithaf siŵr wnaeth o ddim dod yr holl ffordd i Rosllannerchrugog ar ei penny-farthing - byddai'n eithaf doniol i weld sgwïer yn reidio i fyny'r allt i gyrraedd Rhos yn y lle cyntaf!

Neuadd a Gardd ErddigFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Neuadd a Gardd Erddig

Wrexham Lager

Heb os nac oni bai, mae Wrecsam yn ddinas llawn hanes. Sefydlwyd y cwmni Wrexham Lager yma ym 1881, ac yn ôl pob sôn, roedd cynhyrchion y cwmni ar y Titanic.

Mae ôl-traed ein gorffennol diwydiannol ymhobman, yn enwedig ym mhonciau Hafod a Bers a Brymbo. Mae tri o Saith Ryfeddod Cymru yn Wrecsam hefyd – coed yw Owrtyn, clychau San Silyn a chlychau Gresffordd.

Mae yna wastad bwrlwm yn Nhŷ Pawb a'r marchnadoedd. A beth yw Wrecsam heb y Cae Ras byd enwog?

Rydw i wedi gweld y da, y drwg a'r poenus yma, a dwi'n croesi fy mysedd y bydd ein tîm yn gwneud yn dda yn y Championship!

Gobeithiaf, pan fydd pobl yn dod i'r ardal i fynychu'r Eisteddfod, y bydd ganddynt y cyfle i ymweld â thrysorau eraill y ddinas a chael blas o'n diwylliant unigryw ni.

lagerFfynhonnell y llun, Wrexham Lager

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.