Arestio dau ar ôl canfod ffermydd canabis yn Y Trallwng

Mae amcan werth y planhigion a gafodd eu darganfod yn fwy na £450,000
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i ddwy fferm ganabis gael eu darganfod yn Y Trallwng.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, cafodd tua 580 o'r planhigion eu darganfod mewn dau eiddo yn y dref.
Mae Alban Qemalli, 31, wedi’i gyhuddo o dyfu canabis ac roedd disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mercher.
Mae ail ddyn, 27 oed, wedi’i arestio ar amheuaeth o dyfu canabis ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Y gred yw bod y planhigion canabis werth dros £450,000.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024