Dafydd Elis-Thomas: Mab y Mans a Llywydd cynta'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Daeth y cyhoeddiad fore Gwener bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw yn 78 oed.
Roedd yn un o'r ffigyrau cyhoeddus mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru am y tro cyntaf yn 1974 i gynrychioli Sir Feirionnydd.
Yn 2021 fe safodd i lawr fel Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor-Meirionnydd, wedi iddo gynrychioli'r etholaeth ers sefydlu'r Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, yn 1999.
Roedd ar un adeg yn cael ei alw'n 'Marcsydd Meirionnydd' ac yn un o brif arweinwyr syniadaeth yr adain chwith yng Nghymru.
Yn 2016 fe adawodd Blaid Cymru gan barhau fel aelod annibynnol o Senedd Cymru.
Ym mis Mai 2021, fe siaradodd yn agored gyda Cymru Fyw am ei fywyd a'i yrfa.
Gwleidyddiaeth ei arddegau
Dechreuodd ym myd gwleidyddiaeth yn gynnar: "Yn 1962 oedd 'na lot o'na ni efo diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn Ysgol Ramadeg Llanrwst, ac roedd Harold Wilson yn siarad mewn rali ym Mhwllheli felly es yno gyda ffrind i mi oedd yn Geidwadwr, a minnau wedi ymuno â Phlaid Cymru yn 16.
"Dyma nhw'n dechrau'r cyfarfod gyda'r cadeirydd yn cyhoeddi'r emyn gyntaf, a finna'n meddwl 'be' sy'n mynd 'mlaen?'... emyn dôn Huddersfield, achos mai o fan'no oedd Wilson yn dod, 'Duw Mawr y Rhyfeddodau Maith'... ac nes i feddwl i fy hun yn fan'no mod i'n iawn i beidio fod wedi ymuno â'r Blaid Lafur."
Roedd Dafydd Elis-Thomas yn 27 oed pan gafodd ei ethol fel Aelod Seneddol yn 1974, ac ef oedd 'babi'r tŷ' - yr ieuengaf o'r holl aelodau (roedd 635 o aelodau ar y pryd).
"Be' dwi'n gofio ydy bod o ddim yn glir iawn pwy oedd wedi dychryn mwyaf yn y cyfri yn Neuadd Idris, Dolgellau; William Edwards yr ymgeisydd Llafur neu fi."
Enillodd Dafydd Elis-Thomas o 588 pleidlais.
"Wrth gwrs Llywodraeth Lafur leiafrifol oedd hi yn '74 - dwi 'di arbenigo ar hyd fy mywyd mewn Llywodraethau Llafur leiafrifol, yn San Steffan ac yng Nghymru!"
Ychwanegodd: "Y peth allweddol ddigwyddodd ym Meirionnydd oedd yn Etholiad 1970, pan ddaeth Dafydd Wigley yn ail.
"Roedd hynny yn allweddol i mi, achos o'n i wedi sefyll yng Nghonwy yn 1970, ac wedi cynyddu'r bleidlais dros y Blaid yno, ond fe olygodd hynny bod Ednyfed Hudson-Davies (Llafur) wedi colli ei sedd i Wyn Roberts (y Ceidwadwr).
"Be' ges i wedyn oedd pleidleisiau Rhyddfrydol ac o Lafur, a dyna 'nes i ym Meirionnydd am flynyddoedd - targedu gymaint o bleidleisiau Llafur â phosib."
'Rebels y tŷ'
Pan gyrhaeddodd Dafydd Elis-Thomas San Steffan roedd yn rhaid dod i arfer â diwylliant gwbl newydd.
"Y bobl sy'n gwybod popeth am wleidyddiaeth ydy'r staff yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn arbennig y staff diogelwch. Dwi'n cofio fi'n gofyn 'Where do you think we should sit?'...ac mi ges i'r ateb 'You should sit in the second seat from the gangway, because they're the rebel benches'."
Dyna ble mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn parhau i eistedd hyd heddiw.
"Yn eistedd tu ôl i mi oedd Enoch Powell ac unoliaethwyr Gogledd Iwerddon. O'n i'n siarad Cymraeg efo Enoch Powell yn y Senedd."
Roedd Enoch Powell yn Aelod Seneddol Ceidwadol, ac yna'n Aelod dros Unoliaethwyr Ulster, ond mae'n cael ei gofio yn aml heddiw am ei ddaliadau asgell dde, gwrth-fewnfudwyr, ac am ei araith enwog Rivers of blood.
Roedd hefyd yn ysgolhaig a oedd yn gallu siarad hyd at 15 iaith, gan gynnwys Rwsieg, Lladin, Groeg a Chymraeg.
"Fo ydy'r un o'r dynion clyfra' i mi 'rioed 'nabod, hynod alluog - ond fel lot o bobl galluog mae eu gwleidyddiaeth nhw'n gallu bod yn nuts! Achos mae gwleidyddiaeth yn dibynnu ar sut maen nhw'n dod 'mlaen efo bobl eraill."
Felly, pa wleidyddion greodd argraff ar fabi'r tŷ nôl yn y 70au?
"Yn y cyfnod cynnar mi fyswn i yn dweud Harold Wilson. Oedd o'n ateb cwestiynau o'r dispatch box heb nodiadau o gwbl o'i flaen, a dyna oedd y drychineb ofnadwy o ran ei iechyd hwyrach 'mlaen, ei fod yn methu cofio. Ond roedd o'n arbennig iawn."
"Roedd 'na gyfeillion agos eraill fel Christopher Price, a oedd yn gadeirydd o'r pwyllgor dethol o'n i'n aelod ohonno, a dyna lle roedd rhaid imi groesholi Syr Keith Joseph (cyn-aelod blaenllaw o gabinet y Torïaid yn y 70au ac 80au) - dyna i chi ddyn rhyfeddol.
"Mae gen i arwyr mewn meysydd eraill - fyswn i ddim yma heddiw heb yr Athro J.R Jones!"
Chwaraeodd Dafydd Elis-Thomas ran bwysig ym mywyd gwleidyddol Iwerddon ar ddechrau'r 80au.
Yn 1981 bu farw'r gwleidydd Frank Maguire o Ogledd Iwerddon, Aelod Seneddol Fermanagh a De Tyrone.
Yn dilyn ei farwolaeth, Dafydd Elis-Thomas 'symudodd y gwrit', sef gosod y cam cyntaf ar gyfer is-etholiad.
Yn is-etholiad 9 Ebrill 1981 fe enillodd y gweriniaethwr enwog, Bobby Sands, dros Sinn Féin ag 51.2% o'r bleidlais, gyda 48.8% yn mynd i Harry West o'r UUP (Unoliaethwyr Ulster).
Mae hon yn cael ei hystyried gan lawer fel yr is-etholiad pwysicaf yng nghyfnod helyntion Iwerddon.
Gadael San Steffan
Wedi 18 mlynedd fel Aelod Seneddol fe safodd Dafydd Elis-Thomas i lawr er mwyn wynebu sialens newydd: "'Nes i benderfynu yn 1992 mod i ddim eisiau bod yn Nhŷ'r Cyffredin am fy mywyd i gyd, ac fe adawes i wedi'r etholiad hwnnw.
"John Walter Jones ydy'r person mwyaf allweddol yn hanes fy mywyd i i ddweud y gwir. Oedd o'n swyddog yn yr hen Swyddfa Gymreig, a'i unig uchelgais o oedd creu Bwrdd Iaith.
"Bob Jones o Flaenau Ffestiniog oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am ddiwylliant ac addysg pan o'n i'n Aelod Seneddol, ac mi wnaethon ni lot o ddryga' efo'n gilydd ar y cwricwlwm cenedlaethol i sicrhau fod y Gymraeg yno fel iaith swyddogol."
Y setliad datganoli
Pleidleisiodd bobl Cymru dros greu Cynulliad yn 1997, ond yn 1979 wrth gwrs fe bleidleisiodd Cymru yn erbyn y cynnig: "Diolch byth bod ni wedi cael 'Na' yn '79, achos wedyn gawson ni lawer iawn gwell setliad," meddai Dafydd Elis-Thomas.
Mae sawl mesur wedi ei basio ers sefydlu'r Cynulliad er mwyn cryfhau a hwyluso datganoli: "Mae 'na fwy o ddeddfau cyfansoddiadol wedi bod yng Nghymru nag i unrhyw wlad ymreolus yn y Gymanwlad dwi'n tybio!
"Doedd y drefn wreiddiol ddim yn gwahaniaethu rhwng Llywodraeth a Deddfwriaeth - rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth. O'n i wastad yn defnyddio 'Llywodraeth Cymru', achos o'n i'n siarad Cymraeg drwy'r amser ac oedd John Walter Jones 'di dweud 'os ti'n gadael Bwrdd yr Iaith i fynd i'r Cynulliad mae rhaid ti siarad Cymraeg drwy'r amser'...
"O'n i hefyd yn briod gyda'r pennaeth cyfieithu, felly os nad o'n i'n defnyddio'r Gymraeg, pa fath o arwydd oedd honna?!"
Diddymu Bwrdd yr Iaith
"Mae wedi bod yn anhygoel i mi dros y dair blynedd a hanner d'wethaf fel Gweinidog yn y Llywodraeth. 'Nes i 'rioed freuddwydio y buaswn i'n Weinidog yn Llywodraeth Cymru.
"Dwi'n gweld bod 'na ddadleuon yn codi eto ynglŷn â chael gweinidog dros yr iaith Gymraeg, a dwi'n cytuno efo hynny fel egwyddor. Ond fyswn i ddim yn gwneud y job achos mod i wedi gwneud o o'r blaen fel cadeirydd y Bwrdd Iaith ac wedi cael lot o hassle yn y cyfnod yna."
O 1992 i 1998 roedd Dafydd Elis-Thomas yn gweithio i Fwrdd yr Iaith, ac roedd ganddo ran bwysig yn creu Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) a roddodd statws o gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg am y tro cyntaf, a hybu dwyieithrwydd yng Nghymru.
"Roedd pobl yn meddwl bod ni'n perthyn i'r Llywodraeth - a dyna 'di'r gwendid yma yng Nghymru, bod pobl ddim yn deall - ond pam ddylen nhw ddeall y cyfansoddiad os nad ydy rhywun wedi ei esbonio'n glir i nhw?
"Dwi'n difaru bod Plaid Cymru a'r Blaid Lafur wedi cael gwared o Bwrdd yr Iaith achos o'n i'n meddwl bod 'na flynyddoedd eto iddo, ac un o'r pethau arbennig y cyfnod yna oedd bo' ni'n cydweithio gyda byrddau cyfatebol yn Catalunya a Gwlad y Basg, ac roedden nhw wrth eu bodda' efo ni achos doedden nhw ddim yn deall sut oedd gan Gymru fwrdd statudol Iaith Gymraeg, yn y Deyrnas Unedig imperialaidd!"
Ydy Senedd Cymru'n sicr o'i lle bellach?
Ers yr etholiadau cyntaf yn 1999 mae Dafydd Elis-Thomas o'r farn bod Senedd Cymru wedi aeddfedu a mynd o nerth i nerth.
"Dwi'n gobeithio bod pobl Cymru yn deall, er bod nhw heb bleidleisio mewn niferoedd yn fwy eto, beth mae'r sefydliad yn ei wneud ac yn ei gyflawni.
"Mae'r Senedd yn ran safadwy, sefydlog, o wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig."
"Dyna un peth arall a ddysgais i yn San Steffan - yr anghenraid i ddeall cyfansoddiad.
"Mae pobl yn meddwl bod y cyfansoddiad yn rywbeth anniddorol a rhywbeth nerdy, ond mae gan pob clwb pêl-droed, clwb llenyddol, neu unrhyw sefydliad gyfansoddiad, achos dyna sut mae bobl yn gallu cydweithio ar sail trefn."
Barddoniaeth a chrefydd
Roedd crefydd wastad yn bwysig i Dafydd Elis-Thomas a'i deulu, ac felly hefyd cael ysbrydoliaeth gan lenorion.
"Ond mae gen i fywyd arall, ac wastad yn troi at farddoniaeth Waldo Williams ac Euros Bowen... 'Mae rhwydwaith dirgel Duw yn cydio pob dyn byw' (Waldo).
"Ges i gwmni Waldo rhyw flwyddyn cyn iddo farw, ac o'n i'n nabod Euros Bowen yn arbennig... dwi wastad wedi cael y bywyd yn fy mhen i, sy'n rhywbeth arall."
"Ges i fy magu yn yr Eglwys Bresbyteraidd yn Llanrwst, fy nhad yn weinidog a fy mam yn athrawes ysgol Sul.
"Dwi 'di cael gofal bugeiliol anhygoel gan weinidogion - Presbyteraidd yn wreiddiol, a gan y diweddar Meurwyn Williams yn hen gapel y Crynwyr yn Tabor, Dolgellau.
"Hefyd Hywel Wyn Richards o'r Annibynwyr yn Nolgellau, a'r Eglwys yng Nghymru yn Nolgellau ble roedd Eglwys y Santes Fair mwy neu lai yn yr ardd gefn! A bob tro o'n i yng Nghaerdydd fyddwn i'n mynd i'r eglwys yn Llandaf."
Y berthynas â Phlaid Cymru
Yn 2016 fe adawodd Dafydd Elis-Thomas Blaid Cymru, gan barhau fel aelod annibynnol dros Ddwyfor-Meirionnydd tan ddiwedd tymor y Senedd.
Yn 2017 fe ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru fel y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Er iddo adael Plaid Cymru dywed ei fod yn parhau i ymfalchïo yn llwyddiannau ymgeiswyr y blaid.
"Dwi wedi cydweithio gyda'r Blaid, a chyd-weithio gyda chynghorwyr Sir Gwynedd Plaid Cymru [ers gadael]," meddai.
"A beth arall sydd wedi digwydd, oherwydd mod i wedi bod â chyfrifoldebau yn y Senedd ddiwethaf am faterion o ddiddordeb mawr iddyn nhw - diwylliant, twristiaeth a chwaraeon."
Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, gwraidd yr anghydfod efo Plaid Cymru oedd y weledigaeth ynglŷn â llywodraethu Cymru.
"Fy nghynllun i oedd cael clymblaid (efo Llafur) ar ddechrau'r Senedd diwethaf, ac fe wrthododd grŵp Plaid Cymru fynd i drafodaeth gyda Llafur - dim ond tri o'r grŵp wnaeth bleidleisiodd dros y clymblaid."
Oedd Dafydd yn teimlo'n drist am sut orffennodd pethau gyda Plaid Cymru wedi dros 50 mlynedd o berthynas?
"Na, doedd gen i ddim dewis fel o'n i'n edrych arni. O'n i'n teimlo bod angen cydweithio, ac fe wrthododd y grŵp wneud hynny.
"Ond beth wnaethon nhw wedyn oedd cynnig enw Leanne [Wood] yn erbyn Carwyn Jones ar gyfer y Brif Weinidogaeth. O'n i wastad wedi meddwl bod y rheolau sefydlog yn ei wneud yn glir mai'r etholiad cyntaf yn y Senedd yw ar gyfer y Llywydd a'r Dirprwy, ac yna'r cynnig i ethol Prif Weinidog. A dyna pryd mae Cymru yn cael ei Llywodraeth - mater ffurfiol yw hi bod y Frenhines yn cytuno.
"Dwi erioed wedi torri chwip tair llinell, a dwi'n meddwl bod y syniad o chwip a threfn yn allweddol. O'n i wedi meddwl bod y cynnig i ethol Prif Weinidog yn gynnig oedd yn cael ei wneud ar ôl trafodaethau gyda dealltwriaeth bod 'na ddim dau ymgeisydd, mai nid mater pleidiol oedd ethol Prif Weinidog ond mater i'r corff gyfan - mae'r Senedd yn llawer rhy fach. "
"O'n i'n gandryll, ac wnes i'r camgymeriad o ddweud mod i'n gandryll wrth Carwyn Jones, yn deud wrtho fo be' o'n i'n feddwl o fy nghyd-aelodau o'r Blaid bod nhw 'di gwneud hyn."
Yes Cymru a chenedlaetholdeb
Dywedodd bod y twf yn aelodaeth YesCymru yn "ardderchog".
"Dwi wastad wedi credu bod mudiadau yr un mor bwysig â phleidiau. Pethau ffurfiol ydy pleidiau, sydd yn gweithio drwy drefn sy'n ymwneud â'r wladwriaeth.
"Ond mae'n rhaid i ddiwylliant cyhoeddus, a diwylliant gwleidyddol, weithredu mewn ffordd sy'n galluogi pobl ddod at ei gilydd i fynegi barn.
"Dwi ddim yn ei weld o fel gwleidyddiaeth hunaniaeth. Mae gwleidyddiaeth Cymru, i mi, yn rywbeth gosodedig mewn hanes - yn ôl i cyn y Rhufeiniaid mewn ffordd, pa bynnag ffordd mae rhywun yn diffinio Celtaidd a Cheltigrwydd. 'Y Cymry'. Ers talwm doedd na ddim dau air am Welsh a Wales - Cymry oedd enw'r wlad ac enw'r bobl, y bobl oedd yn byw efo'i gilydd yn y lle hwn!
"Ond dwi ddim yn fodlon i rywun ddweud bod beth dwi newydd ddweud yn genedlaetholdeb. I mi cenedlaetholdeb ydy'r holl fusnes ofnadwy 'ma ddigwyddodd pan 'nath bobl feddwl bod rhaid i genedl gael gwladwriaeth, bod rhaid i genedl fod yn rywbeth gwahanol i'r bobl drws nesaf ayyb.
"Mae ideoleg cenedlaetholdeb yn rywbeth nes i 'rioed ei arddel. Dwi yn pryderu weithiau efo agweddau rhai pobl. Fy esboniad i amdano i ddweud y gwir ydy bod o'n rhan o seciwlariaeth Cymru - bod bobl sydd wedi gadael crefydd wedi mynd i gredu mewn cenedlaetholdeb fel crefydd.
"Dwi'n cael problemau hefyd efo bobl sy'n ffwndamentalaidd, neu yr hyn mae nhw'n ei alw'n efengylaidd.
"Mae'r Alban am gael perthynas newydd gyda'r Deyrnas Unedig. Mi fydd gan Yr Alban Lywodraeth fydd eisiau ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny'n ddiddorol, achos bydd rhaid gwneud trefniadau tebyg i'r hyn sy'n digwydd ar ynys Iwerddon.
"Ac wedyn mae gennym ni'r cwestiwn England and Wales. Yr egwyddor sylfaenol ydy hunan-benderfyniad pobloedd.
"Mae gan bobl Cymru hawl os 'dan ni eisiau bod yn annibynnol, hawl i fod yn hollol annibynnol, beth bynnag 'di hynny, achos 'dan ni'n bobl, 'dan ni'n genedl. Ond gwae unrhyw un sy'n dweud y dyle rhywun sy'n genedl fod yn bobl ar wahân - ma 'na ddigon o broblemau fel mae hi, gyda 190+ o wledydd."
"O'n i wastad efo syniad dwl mai gogoniant hanes Cymru oedd y bydden ni'n gallu bod yn genedl heb fod yn genedl wladwriaeth, a heb fynd drwy'r cyfnod yna. Achos dwi'n meddwl bod cyfnod y genedl wladwriaeth wedi dod i ben erbyn hyn, h.y mae 'na ddad-drefedigaethu wedi bod yn Affrica ac yn yr hen ardaloedd ymerodrol ac mae 'na genhedloedd sydd 'di dod i fod a gwladwriaethau wedi dod i fod a ffiniau a phroblemau diddorol efo'r bobl drws nesaf.
"Ma 'na fiwrocratiaeth difrifol, traws-ffiniol (efo annibyniaeth) a dyna pam o'n i mor siomedig bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd wrth gwrs. Roedd 'na fai arnom ni gyd ein bod ni heb ymgyrchu'n lot fwy cadarn."
Delio â beirniadaeth
Yn 1992 cafodd ei enwebu i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel y Barwn Elis-Thomas. Yn wreiddiol roedd yn Arglwydd crossbench, ond fe gymerodd chwip Plaid Cymru yn 2012.
Roedd cael ei wneud yn Arglwydd, a'i gyfeillgarwch gyda'r Frenhiniaeth wedi golygu ei fod wedi derbyn dipyn o feirniadaeth dros y blynyddoedd, yn enwedig gan genedlaetholwyr.
Felly sut mae Dafydd Elis-Thomas yn delio gyda beirniadaeth, ar blatfformau fel Twitter neu Facebook? "Anwybyddu fo. Ond er mwyn ei anwybyddu o mae'n rhaid i rywun hefyd gael rhwydwaith o bobl, cydweithwyr, sydd yn wirioneddol gydweithio."
O'r feirniadaeth mae Dafydd wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd, oedd rhywfaint ohono'n deg? "Na, dwi ddim mor garedig â hynny," meddai gan wenu.
Ble mae 'adref'?
Wedi ei eni'n Llandysul, ei fagu'n Nyffryn Conwy, ac wedi byw yn Nolgellau, Betws y Coed a Chaerdydd... ble yr oedd Dafydd yn ystyried fel 'adref'?
"Maen nhw i gyd wedi bod yn 'adra' ar wahanol adegau. Fues i'n byw yn Llundain hefyd, ac un o'r pethau pwysicaf ddigwyddodd i mi oedd landio yn ymyl yr Ysgol Gymraeg yn Llundain yn bwrdeistref Brent.
"Ddos i i 'nabod pobl o'r holl ddiwylliannau, ac mae gen i dal gysylltiadau efo'r ochr amlddiwylliannol a'r cymunedau du ac ethnig lleiafrifol yn yr ardaloedd hynny.
"Roedd o'n bwysig iawn i mi ddeall bod gwahaniaeth yn hanfodol mewn cymdeithas a bod rhaid ei gydnabod o bob amser. Dwi'n crigo 'chydig bach ein bod ni heb wneud digon yn y dechrau gyda'r gymuned ddu ac amryliw yn y Bae (Caerdydd), ond mae pethau yn cryfhau bellach.
"Felly 'adra' go iawn ydy Betws y Coed, ond dwi 'di methu mynd yno dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y pandemig."
Balchder mwyaf
Yn ei amser ym mywyd cyhoeddus - San Steffan, Bwrdd yr Iaith, Y Senedd - beth mae Dafydd wedi ei gyflawni sydd yn rhoi'r balchder mwyaf iddo?
"'Di hwnna ddim yn gwestiwn anodd - iawndal i chwarelwyr a dioddefwyr llwch. Fe weithiodd Dafydd Wigley'n galed iawn ar y hyn hefyd, ac fe gawson ni ddeddf am iawndal.
"Nid jest chwarelwyr, ond wrth gwrs y bobl fanteisiodd fwyaf ar beth lwyddwyd i wneud yn y cyfnod yno oedd bobl gyda asbestosis - roedden nhw wedi cael llai o sylw na'r chwarelwyr gafodd silicosis."